Mae tipyn o sôn ar hyn o bryd am ddeisebau.
Ond beth yw deisebau, a sut mae eu cyflwyno nhw?
Gall unrhyw un sydd yn byw yng Nghymru gyflwyno deiseb i’r Senedd.
Yn y gorffennol, maen nhw wedi bod yn ffordd lwyddiannus iawn o alw am newid, neu o godi ymwybyddiaeth am bwnc penodol.
Pwy a ŵyr, efallai mai chi fydd yn gyfrifol am siapio dyfodol Cymru…?
Beth yw deiseb?
Cais ffurfiol, ysgrifenedig, am newid ydy deiseb. Caiff deiseb ei chyflwyno i’r Senedd gan unigolion neu sefydliadau, a gall cynnwys y ddeiseb ymwneud â mwy neu lai unrhyw bwnc – o fewn rheswm!
Mae’r deisebau poblogaidd diweddar sydd wedi’u cyflwyno i Senedd Cymru’n amrywio o alw am wahardd rasio milgwn i ofyn i Lywodraeth Cymru brynu hen gartref teulu Owain Glyndŵr, Sycharth.
Y ddeiseb fwyaf welodd y Senedd erioed yw honno’n gofyn am ddiddymu’r gyfraith ynghylch y terfyn cyflymder o 20m.y.a. Denodd y ddeiseb dros 300,000 o lofnodion mewn wythnos mis yma.
Sut mae cyflwyno deiseb?
Dim ond cyfeiriad yng Nghymru, dau gefnogwr a phwnc rydych yn angerddol amdano sydd eu hangen er mwyn cychwyn deiseb. Mae’n broses eithaf syml o lenwi ffurflen fer ar wefan y Senedd.
Mae Senedd Cymru yn gofyn i ddeisebwyr ei gwneud hi’n glir beth yn union yw’r newid maen nhw’n ymgyrchu drosto.
Ar ôl cyflwyno teitl i’r ddeiseb, y cam nesaf yw gwirio nad oes deiseb debyg wedi’i sefydlu’n barod. Mae deiseb yn fwy tebygol o ennill mwy o lofnodion os yw’n unigryw. Os ydych yn canfod fod deiseb debyg ar wefan y Senedd yn barod, mae’n well llofnodi a rhannu’r ddeiseb honno yn hytrach na chychwyn un newydd.
Os yw eich deiseb yn wahanol i un sydd wedi’i chreu yn barod, y cam nesaf yw esbonio cefndir y ddeiseb mewn dim mwy na 500 gair. Wrth ysgrifennu’r cefndir, mae’n bwysig cofio efallai na fydd pobol yn deall cyd-destun y ddeiseb yn llawn. Felly, mae’n bwysig esbonio hynny’n glir.
Mae rhai’n penderfynu cychwyn deiseb yn dilyn profiadau go iawn, ac yn cynnwys stori bersonol yn eu crynodeb. Er enghraifft, ymddangosodd y ddeiseb ‘Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru’ ar restr fer Cystadleuaeth Deiseb y Flwyddyn y Senedd yn 2023.
Teulu a ffrindiau dyn 18 mlwydd oed oedd wedi boddi mewn cronfa ddŵr sefydlodd y ddeiseb. Roedden nhw eisiau sicrhau na fyddai’r hyn ddigwyddodd i Mark yn digwydd i neb arall, trwy osod offer achub bywyd wrth ymyl safleoedd dŵr agored yng Nghymru.
Y cam olaf yw gwirio eich deiseb am unrhyw gamgymeriadau cyn ei chyflwyno. Bydd angen manylion cyswllt dau berson sy’n barod i’w chefnogi hefyd.
Beth wedyn?
Ar ôl cyflwyno eich deiseb, bydd y Pwyllgor Deisebau yn edrych arni ac os yw’n bodloni’r safonau, caiff ei chyflwyno yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’n syniad da rhannu eich deiseb ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn codi ymwybyddiaeth ohoni ac i geisio denu llofnodion gan eich teulu a’ch ffrindiau.
Dim ond unwaith y gall pob unigolyn lofnodi eich deiseb. Os byddan nhw’n llofnodi’r ddeiseb ar-lein, bydd e-bost yn cael ei hanfon atyn nhw er mwyn cadarnhau eu llofnodion. Mae modd casglu llofnodion ar bapur hefyd, ond mae’n bwysig rhoi gwybod i’r Senedd ymlaen llaw os ydych yn bwriadu gwneud hyn.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn adolygu pob deiseb sy’n casglu mwy na 250 llofnod, ac yn penderfynu pa gamau sydd angen eu cymryd er mwyn symud y ddeiseb yn ei blaen. Mae hyn yn cynnwys pwyso ar Lywodraeth Cymru neu’r grŵp priodol i weithredu neu i drafod y pwnc.
Bydd deisebau sy’n casglu dros 10,000 o lofnodion yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Deisebau ar gyfer dadl yn y Senedd. Wrth ystyried a fydd dadl yn cael ei chynnal, bydd y Pwyllgor yn pwyso a mesur nifer o ffactorau, megis natur y testun, pa mor ddybryd ydyw a chyfran y llofnodion sy’n dod o Gymru.
Enghraifft o ddeiseb lwyddiannus yw’r ddeiseb i’w gwneud yn orfodol i hanesion pobol dduon a phobol o liw yn y Deyrnas Unedig gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru. Denodd y ddeiseb dros 30,000 o lofnodion yn 2020. Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru mai Cymru fyddai’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud addysgu hanes a phrofiadau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn orfodol.
Oes rheolau o ran yr hyn y gall deiseb ei gynnwys?
Er nad oes llawer o gyfyngiadau o ran cynnwys y ddeiseb, mae gan y Senedd restr safonau sydd yn rhaid eu bodloni cyn y caiff eich deiseb ei derbyn. Os nad yw’r ddeiseb yn bodloni’r gofynion, mae’n debyg na chaiff ei derbyn gan y Pwyllgor Deisebau.
Mae amryw o resymau pam na chaiff deiseb ei derbyn, gan gynnwys:
– pe bai’n galw am yr un cam gweithredu â deiseb sydd eisoes ar agor, neu un sydd eisoes wedi’i chau gan y Pwyllgor Deisebau llai na blwyddyn cyn hynny
– pe na bai’n gofyn am gamau clir gan y Senedd neu Lywodraeth Cymru
– pe bai’n ymwneud â rhywbeth nad yw’r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano
Pe bai eich deiseb yn cael ei gwrthod, byddwch yn derbyn rheswm, ynghyd â chyngor o ran ffyrdd eraill o fynd o gwmpas eich cais os oes modd gwneud hynny.
Caiff testun y deisebau sy’n cael eu gwrthod eu cyhoeddi, oni bai eu bod yn:
– ddifenwol, yn enllibus neu’n anghyfreithlon mewn ffordd arall
– ymwneud ag achos sy’n mynd rhagddo yn llysoedd y Deyrnas Unedig, neu am rywbeth mae llys wedi cyhoeddi gwaharddeb yn ei gylch
– sarhaus neu’n eithafol
– cyfrinachol neu’n debygol o achosi trallod personol – yn jôc, yn hysbyseb neu’n nonsens
Pwy a beth yw’r Pwyllgor Deisebau?
Cadeirydd presennol y Pwyllgor Deisebau yw Jack Sargeant, Aelod Llafur o’r Senedd.
Mae pum aelod i gyd, ac maen nhw’n dod o wahanol bleidiau sy’n cael eu cynrychioli yn y Senedd.
Y pwyllgor sy’n trafod y deisebau ac yn penderfynu pa gamau i’w cymryd.
Wedi i chi gyflwyno eich deiseb, mae gan y Pwyllgor y gallu i:
– ysgrifennu atoch i gael rhagor o wybodaeth
– eich gwahodd i siarad â’r Pwyllgor am y ddeiseb
– gofyn am dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru, neu bobol neu sefydliadau perthnasol eraill
– pwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu
– tynnu sylw un o bwyllgorau eraill y Senedd at y ddeiseb
– cynnig cyflwyno’r ddeiseb ar gyfer dadl
– cynnal ymchwiliad manwl a chyhoeddi adroddiad ar y pwnc