Mae dau safle newydd posib ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr wedi cael eu nodi gan Gyngor Sir Fynwy, sydd hefyd wedi diystyru un o ddau safle gafodd eu nodi’n flaenorol.

Mae disgwyl i’r Cabinet Llafur sydd mewn grym gytuno ynghylch pa safleoedd ddylai gael eu cyflwyno ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus pan fydd yn cyfarfod ar Hydref 4, ac mae’r cynghorydd sydd bellach yn gyfrifol am chwilio yn dweud y bydd tri safle dan ystyriaeth.

Ond mae Paul Griffiths, aelod Cas-gwent, yn dweud nad yw tir ger yr M4 yn Dancing Hill yn Undy bellach dan ystyriaeth, ond fod cae y tu ôl i gartrefi yng Nghlôs Langley ym Magwyr gerllaw yn dal i fod yn opsiwn i’w gynnwys fel safle posib yng Nghynllun Datblygu Lleol newydd y Cyngor.

Dydy’r ddau safle arall ddim wedi cael eu henwi, ond dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths wrth y Cyfarfod Llawn ym mis Medi ei fod e hefyd wedi adolygu tir oedd wedi’i eithrio rhag cael ei ystyried yn flaenorol o ganlyniad i’r ffaith iddo gael ei adnabod ar gyfer potensial ar gyfer cyflogaeth neu ddatblygiad preswyl.

“Dw i wedi symud y bloc hwnnw,” meddai.

Gofyn i gynghorwyr wrthod cynnig

Yn ystod cyfarfod y Cyngor, roedd cynnig gafodd ei gyflwyno gan Frances Taylor, aelod Gorllewin Magwyr, yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo penderfyniad Pwyllgor Craffu’r Cyngor, ddywedodd ym mis Gorffennaf nad oedd yr un o’r pum safle gafodd eu rhoi ar y rhestr fer wreiddiol yn addas, gan ofyn iddyn nhw wrthod safleoedd Clôs Langley a Dancing Hill, sy’n cael eu hystyried gan y Cyngor o hyd.

Ond er bod safle Dancing Hill bellach wedi cael ei ddiddymu, gofynnodd y Cynghorydd Paul Griffiths i gynghorwyr wrthod y cynnig, gan ddweud na ddylai Clôs Langley gael ei ddiystyru eto ac y dylai’r Cabinet ei ystyried cyn “ymgynghoriad cyhoeddus trylwyr iawn”.

“Os ydych chi’n derbyn y cynnig i eithrio Clôs Langley, fy mhryder yw y gallai’r Cyngor fod yn agored i adolygiad barnwrol ar unrhyw safle arall,” meddai wrth gynghorwyr.

Gwaith pellach

Yn ogystal ag adnabod safleoedd newydd, dywed y Cynghorydd Paul Griffiths ei fod e hefyd “yn annog gwaith pellach” gyda theuluoedd sy’n Deithwyr er mwyn edrych ar y posibilrwydd o gael caniatâd cynllunio ar gyfer eu llety presennol.

Fis Gorffennaf, dywedodd y Cyngor eu bod nhw wedi bod yn edrych ar hyd at bum safle gyda’r potensial o gynnal cyfanswm o 13 o safleoedd, er mwyn ateb y galw ymhlith teuluoedd o Sipsiwn a Theithwyr lleol sydd wedi’i nodi.

Dywed y Cynghorydd Paul Griffiths fod angen deg neu unarddeg safle bellach, a bod un safle’n 320 metr sgwâr sy’n “ddigonol ar gyfer cerbyd, carafan neu floc amwynderau”.

“Mae deg safle ar draws y sir yn gofyn am lai nag un erw o dir.

“Mae gan y sir 200,000 erw – mae’n 0.7 na hynny, cae pêl-droed, neu ychydig o dan gae pêl-droed ar draws y sir gyfan.”

Dywed hefyd fod Clôs Langley yn safle 5.7 erw, a phe bai’n cael ei ddefnyddio ar gyfer pum safle y byddai’n cymryd dim ond 10% o’r tir.

Deiseb

Yn gynharach yn y cyfarfod, roedd y Cynghorydd Frances Taylor wedi cyflwyno deiseb â 1,200 o lofnodion arni gan drigolion Magwyr ac Undy oedd yn cydnabod fod y Pwyllgor Craffu wedi penderfynu bod y safleoedd gafodd eu cyflwyno’n anaddas, gan alw am ddiddymu’r cynlluniau ar gyfer Dancing Hill a Chlôs Langley o ganlyniad i “orddatblygu” yn yr ardal.

Dywedodd y cynghorydd annibynnol fod y ddeiseb wedi bod yn rhedeg ers tair wythnos yn unig, a bod y llofnodion yn cyfateb i 20% o boblogaeth yr ardal gyfan o 6,000 – neu 25% o oedolion.

Fe welodd yr ardal 13% o ddatblygiad yng Nghynllun Datblygu Lleol diwethaf y Cyngor.

“Ble mae ein tir amwynder?” gofynnodd y cynghorydd.

“Does dim lle ar gyfer chwaraeon.

“Mae’r clwb pêl-droed wedi cyrraedd dirlawnbwynt.

“Dw i wedi bod yn chwilio am gaeau rygbi a chriced.

“Rydyn ni’n byw ar Wastadeddau Gwent, a dydy datblygiad ddim yn cyd-fynd â’r gofynion i warchod yr ardal.”

Gofynnodd i gynghorwyr gefnogi ei chynnig sydd, meddai, yn ymwneud ag “egwyddorion proses ddemocrataidd y Cyngor hwn” wrth gefnogi penderfyniad y Pwyllgor Craffu.

“Y prif bwynt i fi yw craff, ydych chi’n ei werthfawrogi?

“Sut allwch chi dynnu rhai safleoedd allan, ond nid eraill, a dyna ni?”

Mi wnaeth hi atgoffa cynghorwyr hefyd fod y pwyllgor trawsbleidiol, sy’n cynnwys aelodau Llafur, wedi dweud bod yr holl safleoedd yn anaddas, ac wedi tynnu sylw at broblemau â nhw gan gynnwys mynediad atyn nhw, a doedden nhw ddim yn bodloni’r safonau ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr sydd wedi’u hamlinellu gan Lywodraeth Cymru.

Dywed y Cynghorydd Rachel Buckler ar gyfer Devauden fod gan y Cyngor, “yn briodol iawn”, ddyletswydd i ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, ond fod y rhai gafodd eu hystyried gan y Pwyllgor Craffu wedi cael eu gwrthwynebu gan “y gymuned Sipsiwn a Theithwyr, a’r gymuned sefydlog”.

Cafodd y cynnig i gefnogi penderfyniad y Pwyllgor Craffu ac i ddiddymu safleoedd Dancing Hill ac Undy ei drechu o 22 o bleidleisiau i 21, gyda phob cynghorydd Llafur a dau aelod y Blaid Werdd/annibynnol yn pleidleisio yn erbyn, tra bod yr holl gynghorwyr Ceidwadol ac aelodau annibynnol wedi pleidleisio o’i blaid.