Mae cyflogau athrawon llanw “wedi newid yn llwyr” ers iddyn nhw gael eu gorfodi i weithio drwy asiantaethau yn hytrach na chynghorau lleol.

Dywed un athrawes gyflenwol yn Wrecsam bod ei chyflog fesul diwrnod wedi gostwng 20% ers iddi fod yn cael ei chyflogi gan asiantaeth yn hytrach na Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Ers y pandemig, mae ysgolion yn y sir wedi gorfod dod o hyd i athrawon llanw drwy asiantaethau ac mae llefarydd ar ran Cyngor Wrecsam wedi cadarnhau nad ydyn nhw’n delio â chytundebau ar gyfer athrawon llanw.

Mae’r athrawes, sydd wedi bod yn dysgu mewn ysgolion Cymraeg yn y sir ers pymtheg mlynedd, yn dweud bod nifer o athrawon yn gadael y maes gan nad ydy asiantaethau’n “talu digon”.

Yn ôl y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, dylai gwaith athrawon llanw ddychwelyd i fod dan ofal awdurdodau lleol, neu o leiaf dan reolaeth democratiaeth leol.

Ar hyn o bryd, gall ysgolion gyflogi athrawon llanw’n uniongyrchol drwy’r Cyngor neu ddefnyddio asiantaeth gyflenwi.

Mae’r data ar gyfer 2021 yn dangos bod 77% o athrawon llanw wedi cael eu cyflogi drwy asiantaeth, a 22% drwy awdurdod lleol.

‘Dibynnu ar athrawon wedi ymddeol’

Pan ddechreuodd yr athrawes, sydd am aros yn ddienw, ddysgu roedd hi’n gweithio’n uniongyrchol drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, drwy system e-Teach.

“Roeddet ti’n cael dy dalu gan y Sir, ac yn cael dy dalu’n ôl pa bynnag raddfa oeddet ti fel athrawes,” meddai’r athrawes, sy’n byw yng nghyffiniau Wrecsam, wrth golwg360.

“Dw i’n cofio rhai blynyddoedd wedyn roedd y penaethiaid yn yr ysgolion Cymraeg yn Wrecsam wedi cael cyfarfod efo’r Sir, roedd yna rai ysgolion wedi dechrau troi at asiantaethau ond dim ysgolion Cymraeg.

“Roedd penaethiaid ysgolion Cymraeg yn dibynnu gymaint ar staff oedd wedi ymddeol i ddod yn ôl i wneud y gwaith cyflenwol.

“Diffyg athrawon Cymraeg oedd y broblem, wedyn roedd y penaethiaid wedi dweud eu bod nhw methu mynd drwy asiantaethau achos eu bod nhw’n dibynnu gymaint ar bobol wedi ymddeol – dydyn nhw ddim yn mynd i fynd drwy’r rigmarol o gofrestru gydag asiantaeth a hyn a llall.”

‘Cyflog yn newid yn llwyr’

Pan gaiff athrawon llanw eu cyflogi gan yr ysgol neu’r awdurdod lleol, maen nhw fel arfer yn cael eu talu’n unol â chyflogau athrawon yn genedlaethol.

Fodd bynnag, dydy asiantaethau ddim yn gorfod cadw at yr un termau ac amodau ar gyfer athrawon.

“Mae dy gyflog di’n newid yn llwyr. Dydyn nhw ddim yn gorfod dilyn telerau cenedlaethol o gwbl, mae hi fyny iddyn nhw faint maen nhw’n gynnig fel y tâl dyddiol,” meddai’r athrawes, sy’n gweithio i asiantaeth New Directions.

“Ti’n cael dy dalu fesul awr, dw i’n cael fy nhalu o 8:30 tan ganol dydd, ti ddim yn cael dy dalu am yr awr ginio, ac wedyn o 1 tan 4.

“Ar y cychwyn roedden ni’n cael talu mewn i bensiwn athrawon, ond mae hynna wedi stopio. Ti’n gorfod talu i’w pensiwn nhw rŵan, yn hytrach nag i bensiwn athrawon.

“Mae pawb yn gwybod bod pensiwn athrawon mor dda o gymharu ag unrhyw beth arall.

“Ers i hyn ddigwydd, dw i’n gwybod am gymaint sydd wedi dweud bod o ddim yn talu digon – athrawon profiadol oedd yn angerddol am ddysgu wedi gorfod mynd i chwilio am swyddi eraill achos eu bod nhw ddim yn gallu byw ar be mae’r asiantaethau’n talu.

“Ychydig iawn o sôn sydd wedi bod am hyn, mae pawb yn gwybod efo asiantaethau mai nhw ydy’r unig rai sy’n elwa.”

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n cyflwyno system archebu ar-lein newydd “ar gyfer staff cyflenwi, cytundeb fframwaith wedi’i ddiwygio ar gyfer asiantaethau cyflenwi ac rydym yn adolygu telerau ac amodau”.

‘Hapus i sgwrsio’

Mae New Directions yn hapus i sgwrsio gydag unrhyw athro cyflenwi i “dawelu unrhyw ofidion sydd efallai ganddyn nhw” ond nad ydyn nhw wedi cael unrhyw bryderon o’r fath gan unrhyw un o’u hathrawon cyflenwi yn ardal Wrecsam, meddai eu Rheolwr Cenedlaethol

“Fel recriwtiwr addysg blaenllaw Cymru cawn ein llywodraethu gan fframwaith  y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, yr ydym yn unol ag ef yn talu’n hathrawon leiafswm o’r raddfa M2,” meddai Kelly Storer.

“Yn ogystal, gall ysgolion unigol sefydlu’u graddfeydd tâl eu hunain. Nid ydym ni yn New Directions yn gosod graddfeydd tâl unrhyw athro cyflenwi

“Cyfraniadau’r cynllun pensiwn yw 3%, canran safonol y diwydiant.

“Mae gan bob un o’n hathrawon Reolwr Cyfrif New Directions pwrpasol, sydd wrth law i ateb unrhyw gwestiynau. Anogwn y sawl sydd ag unrhyw ofid i gysylltu â’i Reolwr Cyfrif neu gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion ar ein gwefan, byddem yn fwy na hapus i helpu.” 

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam am ymateb.