Cafodd galwadau am gael rheolaeth lymach ar ynnau eu codi mewn cyfarfod heddlu ar ôl i adroddiad ganfod bod perchnogion gynau yng ngogledd Cymru’n berchen ar 37,000 arf.
Wrth siarad ar Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ym mhencadlys yr heddlu yng Nghonwy heddiw (Medi 26), fe wnaeth un o gynghorwyr Sir y Fflint alw am ddeddfwriaeth lymach ar gyfer gynnau.
Fe wnaeth adroddiad diweddar ddangos bod gan 2,783 o bobol dystysgrifau ar gyfer arf tanio yng ngogledd Cymru, a bod gan y perchnogion hynny 10,280 o ynnau rhyngddyn nhw.
Roedd yr adroddiad hefyd yn dangos bod gan 9,571 o bobol dystysgrif ar gyfer drylliau, a bod ganddyn nhw 27,404 arf.
‘Peri pryder’
Clywodd y panel bod 45 deliwr gynnau cofrestredig yn yr ardal, a bod rhaid i berchnogion gynnau ail-drio am drwydded bob pum mlynedd.
Rhaid i ddelwyr gynnau ail-drio am drwyddedau bob tair blynedd.
Fodd bynnag, mae’r Cynghorydd Chris Bithell yn dadlau bod angen newid y gyfraith, ac y dylai pob perchennog gwn gael trwydded unigol ar gyfer pob arf.
“Ydy’r drwydded drylliau’n berthnasol i un arf? Wrth gwrs mae’r ateb yn yr adroddiad, na.
“Ac eto, ym marn rhai pobol, fedran nhw gael arfdy bach gydag un dystysgrif, a dw i’n meddwl bod hynny’n peri pryder – pan rydych chi’n adio nhw at ei gilydd mae yna nifer reit uchel o arfau yng ngogledd Cymru yn sgil hynny.
“Eto, does yna ddim beirniadaeth ar Heddlu Gogledd Cymru, y comisiynydd na neb arall. Dyna’r gyfraith.
“Gall tystysgrif fod yn berthnasol i un arf. Ond does yna ddim uchafswm nag isafswm, a dw i’n meddwl y dylai hynny beri pryder oherwydd er bod perchnogion y gynnau a’r tystysgrifau a’r trwyddedau efallai’n bobol sydd eu hangen nhw, ffermwyr ac ati sy’n eu defnyddio nhw yn eu gwaith, mae perygl i bobol dorri mewn ac i’r arfau fynd i’r dwylo anghywir.
“Dw i’n meddwl y dylid codi’r mater yn genedlaethol.
“Dw i’n meddwl y dylid cael un arf fesul person [sydd â thrwydded] fel ein bod ni’n gallu cael gafael ar hyn.
“Rydych chi’n siarad am tua 37,000 o arfau a mwy yng ngogledd Cymru, ac mae hynny’n peri pryder.”
Ychwanegodd y Cynghorydd ei fod yn falch bod Heddlu Gogledd Cymru wedi gwrthod a dirymu rhai trwyddedau.
‘Mwy o arfau, mwy o ddiogelwch’
Dywedodd Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, Andy Dunbobbin, ei fod am weld os allai ymgyrchu’n genedlaethol i newid y ddeddfwriaeth, ond bod yr heddlu wedi’u hymrwymo i’r gyfraith ar y funud.
Dywedodd uwch swyddog heddlu yn y cyfarfod mai trwydded ar gyfer dryll neu arf tanio sydd gan bobol fel arfer.
“Y mwyaf o arfau sydd gennych chi, y mwyaf o drefniadau diogelwch y mae’n rhaid i rywun gael yn eu tŷ.
“Ar gyfer nifer penodol o arfau, mae’n rhaid cael cypyrddau a larymau gwahanol ac ati.
“O ran gwrthod a dirymu trwyddedau, mae hynny ychydig yn wahanol.
“Pawb sy’n trio am un, mae’r cyfrifiadur yn gwneud gwiriadau arnyn nhw.
“Rydyn ni’n gwneud gwiriadau gyda phob llu heddlu dros y Deyrnas Unedig, gan gynnwys cyhuddiadau troseddol ac unrhyw wybodaeth sydd gennym ni am yr unigolion.
“Os oes yna rywbeth yn peri pryder, a dydyn ni ddim yn meddwl eu bod nhw’n berson addas i gael dryll neu arf tanio, yna fyddan ni’n edrych ar wrthod y drwydded.
“Os oes yna rywbeth yn codi tra mae ganddyn nhw wn, dweder achos o drais yn y cartref neu fod gennym ni wybodaeth am rywun yn camddefnyddio alcohol, rydyn ni’n gwneud gwiriadau ar y bobol sy’n byw gyda nhw, felly os oes gennym ni bryderon rydyn ni’n gallu dirymu trwyddedau.
Gofynnodd y Cynghorydd Bithell a ydy adroddiadau meddygol yn cael eu gwirio, a chafodd wybod eu bod nhw ond nad oes gofyniad cyfreithiol i feddygon eu darparu.