Mae cyn-filwr yn honni bod wlser heintiedig gafodd ar ei droed wrth wasanaethu yn Affganistan wedi arwain at golli’i goes dde ddeuddeng mlynedd yn ôl.

Fe wnaeth Frank Bowen fethu â chael iawndal dan Raglen Iawndal y Lluoedd Arfog, a chollodd apêl arall wedyn.

Yn ôl y Weinidogaeth Amddiffyn, fe wnaethon nhw wrthod ei gais am iawndal oherwydd mai nam ar siâp y droed oedd prif achos y problemau arweiniodd at orfod torri’r goes dan y ben-glin yn 2018.

Mae Frank Bowen, sy’n 51 oed ac yn byw yn Norton yn Abertawe, yn gwrthod hynny.

Wrth siarad â’r Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Lleol, dywed ei fod wedi ceisio’n aflwyddiannus am iawndal gan y Lluoedd Arfog o’r blaen yn sgil yr anaf i’r droed dde.

Dywed fod y briw heintiedig yn edrych fel “briw gan fwled yn gadael y corff ac yn arogli fel biniau cyngor”.

Dywed hefyd fod y llawfeddyg wnaeth ei drin yn Ysbyty Treforys yn Abertawe wedi ysgrifennu llythyr yn cefnogi ei gais ar ôl iddo golli’i goes yn 2018 – ei barn hi oedd fod y problemau gyda’i droed yn gysylltiedig â’i amser yn y fyddin.

Yn ôl y meddyg, nid oedd hi’n bosib sefydlogi’r briw a bod heintiadau cyson wedi arwain at iechyd gwael.

Ychwanegodd Frank Bowen ei fod yn teimlo bod milwyr fel yntau’n “cael eu taflu ar y domen a’u hanghofio”, er ei fod yn ystyried ei hun yn lwcus o gymharu â’r rhai gollodd goesau neu freichiau mewn ffrwydradau.

‘Dylwn fod wedi marw sawl gwaith’

Bu Frank Bowen yn gweithio i’r Llynges rhwng 1997 a 2003, ac roedd yn “eithriadol o ffit”, meddai.

Ymunodd â’r Fyddin Diriogaethol fel technegydd meddygol yn 2003, a bu’n gweithio i Heddlu’r De.

Yn 2005, cafodd haint ar ei droed dde wrth hyfforddi â’r Fyddin Diriogaethol yn y Bannau Brycheiniog, ond dywed ei fod wedi gwella erbyn iddo gael ei anfon dramor yn 2006, a bod y briw ddatblygodd yn Affganistan wrth helpu bataliwn Catrawd y Parasiwtwyr ar ran gwahanol o’i droed.

“Roedd y briw ar belen y droed yn sgil rhedeg o amgylch yn esgidiau’r fyddin,” meddai.

Cafodd ei yrru’n ôl i’r Deyrnas Unedig am driniaeth, cyn dychwelyd i Affganistan yn 2008 – y tro hyn, meddai, yn ei sanau a’i esgidiau ei hun, yn hytrach na rhai’r Fyddin. Gwnaeth hynny wahaniaeth, esboniodd.

Frank Bowen yn Afghanistan yn 2006

Dros y blynyddoedd wedyn, roedd yr haint yn dod yn ôl, meddai Frank Bowen, wnaeth adael y Fyddin Diriogaethol yn 2012.

Daeth i’r amlwg hefyd fod yna nam ar siâp ei droed, ac arweiniodd y ddau beth at sawl llawdriniaeth ar ei droed.

Dywed Frank Bowen fod tribiwnlys y Lluoedd Arfog wedi dweud yn 2015 bod y problemau gyda’i droed dde yn gysylltiedig â’i amser fel milwr, ac arweiniodd hynny at iawndal o £3,000. Gwariodd yr arian ar un o’i lawdriniaethau, meddai.

Wrth i’r problemau gyda’i droed waethygu – ynghyd â diagnosis o lid y cymalau – fe wnaeth e gais am iawndal drwy Raglen Iawndal newydd y Lluoedd Arfog fisoedd cyn iddo golli’i goes yn 2018.

Ond cafodd y cais ei wrthod ar y sail mai’r nam i siâp y droed oedd y prif achos dros yr wlserau. Fe wnaeth apêl gytuno â’r dyfarniad hwnnw ar ôl iddyn nhw dorri’i goes i ffwrdd.

Dywed Frank Bowen ei fod yn teimlo fel bod y drefn yn annheg ac y dylid bod wedi rhoi mwy o bwyslais ar lythyr ei lawfeddyg.

Ers i’r goes gael ei thorri, mae Frank Bowen wedi bod yn teimlo poen yn lle y byddai hi wedi bod.

“Yn y gwely, roeddwn i’n gallu teimlo’r gynfas yn cyffwrdd bawd fy nhroed dde,” meddai.

Dywed ei fod e wedi dysgu cerdded â choes brosthetig, wedi dioddef strôc enfawr yn 2020, ac wedi cael diagnosis o glefyd siwgr math 1.

“Dylwn fod wedi marw sawl gwaith”, meddai, gan ychwanegu bod pethau “lawer gwaeth” ar filwyr eraill o ystyried graddfa eu hanafiadau.

Rhoddodd y gorau i’w waith ar ôl y strôc, ac mae’n byw ar ei bensiwn a budd-dal anabledd bellach.

“Mae rhwyfo tu mewn yn rhoi strwythur i fy niwrnod,” meddai.

“Dw i wedi ymgeisio am Gemau Invictus yn Vancouver yn 2025.”

‘Ystyried bob cais yn ofalus’

Dywed y Weinyddiaeth Amddiffyn fod Rhaglen Iawndal y Lluoedd Arfog a’r Cynllun Pensiwn Rhyfel yn rhoi’r hawl i ymgeiswyr cymwys hawlio a derbyn taliadau mae ganddyn nhw’r hawl iddyn nhw.

Caiff ymgeiswyr eu hasesu gan wasanaethau busnes amddiffyn, staff y gwasanaeth sifil gynt, yn unol â rheolau’r rhaglen.

Dywed Frank Bowen ei fod yn credu y byddai wedi derbyn tua £80,000 pe bai’r cais wedi bod yn llwyddiannus.

Wnaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn ddim ymateb yn benodol i’r pryderon.

“Dan Raglen Iawndal y Lluoedd Arfog a’r Rhaglen Pensiwn Rhyfel, mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn sicrhau bod cyn-staff a staff presennol sydd gan afiechydon neu anafiadau sydd wedi cael eu hachosi gan eu gwasanaeth yn derbyn yr iawndal y mae ganddyn nhw’r hawl iddo,” meddai llefarydd.

“Rydyn ni’n ystyried pob cais yn ofalus, ar eu pennau eu hunain, yn unol â’r ddeddfwriaeth, cyn gwneud asesiad terfynol.”