Yr wythnos hon, fel welson ni ddeiseb i’r Senedd yn galw ar Lafur i ddiddymu eu terfyn cyflymder blanced trychinebus o 20m.y.a. yn torri record wrth gyrraedd dros 400,000 o lofnodion yng Nghymru.

Er mwyn rhoi hyn yn ei gyd-destun, mae’r ddeiseb bellach wedi derbyn mwy o lofnodion na’r rheiny bleidleisiodd dros Lafur yn etholiad diwetha’r Senedd.

Bydd y Ceidwadwyr Cymreig bob amser yn cefnogi terfynau cyflymder o 20m.y.a. lle bo’n briodol, ond allwn ni ddim cefnogi dull blanced mae Llafur wedi’i orfodi ar bobol Cymru. Mae’n glir o’r ddeiseb fod y cyhoedd yng Nghymru’n cytuno.

Yr hyn sydd wedi achosi’r cythrwfl enfawr yma yw’r ffordd mae’r newid blanced yma wedi’i gyflwyno fesul dipyn. Ychydig iawn o ymgynghori, os o gwbl – a phan ofynnwyd i bobol Cymru a dywedon nhw ‘Na’, fe wnaeth Llafur Cymru fwrw ymlaen ag e beth bynnag.

Mae Llafur wedi cyfaddef y bydd yn niweidio’r economi. Mae’r heddlu wedi dweud y bydd yn newid y ffordd maen nhw’n anfon eu swyddogion allan. Mae diffoddwr tân wedi egluro sut y bydd yn arafu cerbydau tân wrth fynd i argyfwng. A bydd allyriadau’n cynyddu, mewn gwirionedd.

Ar ben hynny i gyd, mae pobol, yn gwbl gyfiawn, yn grac am y gost.

Yn hytrach na gwastraffu arian ar eu prosiectau gwagedd megis cyflwyno’r terfyn cyflymder o 20m.y.a., efallai y byddech chi’n meddwl y byddai Llafur yn blaenoriaethu rhoi terfyn o’r diwedd ar amserau aros annynol o ddwy flynedd yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Neu’n llai’r gwymp yn nifer y bobol ifanc sy’n cymryd TGAU mewn TGCh neu Fathemateg. Neu’n dileu’r taliadau o £1,600 ar gyfer mewnfudwyr anghyfreithlon. Na, yn hytrach na mynd i’r afael â’r materion pwysig hyn, maen nhw wedi ymosod ar fodurwyr. Ac wedi costio hyd at £9bn i economi Cymru wrth wneud hynny. Ond beth mae’r ergyd honno o £9bn yn ei olygu mewn gwirionedd?

Yn syml iawn, mae’n golygu bod llai o arian yn dod ar ffurf trethi i dalu am nyrsys, meddygon ac athrawon. Mae’n golygu llai o arian i fusnesau er mwyn rhoi codiadau cyflog neu fonws i staff.

Yn y pen draw, mae’n golygu llai o arian yn eich poced i dalu am y pethau rydych chi eisiau eu gwneud ar eich cyfer chi a’ch teulu. Fodd bynnag, mae’n iawn i Lafur gan eu bod nhw’n creu ‘swyddi ar gyfer y bois’. Byddai’n well gan Lafur, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol wario £120m ar ragor o wleidyddion sydd wedi colli gafael na rhoi codiad cyflog i’n nyrsys.

Mae pum mlynedd ar hugain o reolaeth Lafur yng Nghymru wedi ein rhoi ni ar waelod pob cynghrair. Mae angen i Lafur newid eu blaenoriaethau a rhoi pobol Cymru’n gyntaf.