Mae Prifysgol Wrecsam wedi datgelu ei henw newydd yn swyddogol heddiw (dydd Llun, Medi 25), mewn ymgais i gynyddu ymwybyddiaeth, cryfhau hunaniaeth a denu mwy o fyfyrwyr.

Wrth i’r flwyddyn academaidd ddechrau, mae’r brifysgol bellach yn cael ei hadnabod fel Prifysgol Wrecsam, yn hytrach na Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Mae’r ailfrandio yn dilyn ymgynghoriad helaeth â myfyrwyr, staff a rhanddeiliaid allanol i sicrhau bod y brand yn cynrychioli’r hyn mae’r brifysgol yn ei gynnig, ac yn sefyll am ei huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.

Parhau i ddathlu’r cysylltiad â Glyndŵr

Ond yn ôl Is-Ganghellor y brifysgol, bydd ei chysylltiad gydag Owain Glyndŵr yn parhau i gael ei dathlu.

“Mae ailenwi ac ail-frandio i Brifysgol Wrecsam yn gam pwysig a chyffrous i’r cyfeiriad cywir i’r sefydliad – mae’n ymwneud â ni yn rhoi ein pwrpas wrth wraidd popeth a wnawn a defnyddio hynny i lywio pob penderfyniad a wnawn,” meddai’r Athro Maria Hinfelaar.

“Ein nod yn y pen draw yw ysbrydoli a galluogi ein myfyrwyr i dyfu, ffynnu a symud ymlaen trwy addysg uwch, ymchwil ac ymgysylltu mewn amgylchedd cynhwysol – fel ‘cartref o gartref’.

“Ein pwrpas yw trawsnewid pobol a lle i yrru llwyddiant economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.

“Yn y pen draw, rydym yn gwneud y byd yn lle gwell trwy addysg uwch.

“Mae’r holl beth rydyn ni’n ei wneud wedi’i wreiddio mewn cymuned.

“Rydym yn falch o gael ein lleoli yn Wrecsam – dinas fwyaf newydd Cymru ac yn falch o’n hanes a’n treftadaeth Gymreig, yn ogystal ag etifeddiaeth Owain Glyndŵr – ac rydym wedi ymrwymo i barhau i ddathlu hynny.

“Un enghraifft o hyn yw drwy ein cysylltiadau â Chymdeithas Owain Glyndŵr, sy’n cyflwyno gwobr i un o’n graddedigion gorau bob blwyddyn.

“Rydym hefyd wedi ymrwymo i gadw’r Gymraeg yn fyw ac rydym wrth ein bodd o ddweud bod mwy o fyfyrwyr nag erioed o’r blaen yn cael cyfleoedd i astudio’n ddwyieithog ar draws ystod o’n cyrsiau ym Mhrifysgol Wrecsam, drwy waith gwych ein Pennaeth Datblygu Cyfrwng Cymraeg a benodwyd yn ddiweddar, sydd wedi arwain at lansio ein Strategaeth a Chynllun Gweithredu Academaidd Cymraeg tua diwedd y llynedd.”

‘Dim ond y dechrau’

“Rydym yn falch iawn o ddatgelu ein hail-frandio a’n henw newydd, yn ogystal â rhannu ein rhesymau y tu ôl i’r newid pwerus hwn, sydd wedi bod ar y cardiau ers nifer o flynyddoedd ac rydym mewn sefyllfa o’r diwedd i’w weithredu,” meddai Helena Eaton, Cyfarwyddwr Marchnata a Recriwtio Prifysgol Wrecsam.

“Nod ein hail-frandio yw sicrhau bod Prifysgol Wrecsam yn adnabyddus yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

“Mae’n ymwneud â chynyddu ymwybyddiaeth o’n cynnig unigryw, cryfhau ein hunaniaeth ac yn ei dro, denu mwy o fyfyrwyr.

“Cyplysu lle a phrifysgol yw’r ffordd fwyaf effeithiol o gyrraedd cynulleidfaoedd ac mae’n cael ei ailadrodd ar draws y sector addysg uwch ledled y Deyrnas Unedig.

“Mae ein brand newydd yn dangos yr hyn rydym yn ei wneud ond hefyd yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn rhan o’n cymuned fywiog yma ym Mhrifysgol Wrecsam, lle rydym yn cefnogi ac yn annog myfyrwyr i fod yn fentrus yn eu dull o lunio eu dyfodol mewn dinas sy’n llunio eu dyfodol nhw.

“Ond dim ond y dechrau yw hyn.

“Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, byddwn yn parhau i ddathlu a datgelu ein brand newydd i’n myfyrwyr, ein staff a’n rhanddeiliaid.”