Dydy dioddefwyr sydd wedi profi stelcian neu aflonyddu “ddim yn teimlo’u bod nhw’n cael eu cefnogi’n llawn gan yr heddlu”, yn ôl Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys.

Mae Dafydd Llywelyn wedi cyhoeddi adroddiad ar adolygiad craffu dwys i’r ffordd mae’r llu’n rheoli troseddwyr sy’n stelcian ac aflonyddu.

Rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022, cafodd 10,199 o achosion o stelcian ac aflonyddu eu cofnodi ledled ardal Heddlu Dyfed-Powys.

Dywedodd 41.4% o ddioddefwyr stelcian ac aflonyddu eu bod nhw’n anhapus ag ymateb cychwynnol y llu ar ôl rhoi gwybod am yr achos.

Mae’r ganran honno, sy’n ystyried dioddefwyr wnaeth ateb y cwestiwn rhwng Chwefror 2021 a Mawrth eleni, yn uwch na chanran y dioddefwyr cyffredinol sy’n anhapus ag ymateb y llu.

Dywedodd 38% o’r dioddefwyr eu bod nhw’n anhapus â’r diweddariadau gawson nhw gan yr heddlu unwaith ddechreuodd yr ymchwiliad.

Fodd bynnag, mae Dafydd Llywelyn yn dweud bod yr adolygiad, ‘Adolygiad Craffu Dwys: A yw Heddlu Dyfed-Powys yn rheoli cyflawnwyr stelcio ac aflonyddu yn effeithiol’, wedi “rhoi sicrwydd” iddo fod y dioddefwyr yn cael eu diogelu gan y llu.

‘Lle mae’r ddyletswydd o ofal?’

Wrth ateb cwestiynau ynglŷn â’u barn am y ffordd gafodd y diffynnydd eu rheoli gan yr heddlu, dywedodd deg allan o 13 o ddioddefwyr nad oedden nhw wedi cael gwybod am unrhyw ddiweddariadau – megis a oedd y diffynnydd wedi cael ei arestio neu ei ryddhau ar fechnïaeth – gan yr heddlu.

Roedd y rhai na chafodd ddiweddariadau’n dweud nad oedden nhw’n teimlo’u bod nhw’n cael eu cymryd o ddifrif, yn dweud bod oedi gydag ymchwiliadau ac nad oedden nhw wedi derbyn y wybodaeth berthnasol.

Dywedodd deuddeg allan o 13 o’r ymatebwyr nad oedden nhw’n teimlo’n fwy diogel yn sgil y camau gafodd eu cymryd gan yr heddlu i reoli’r diffynwyr.

“Dw i wedi teimlo mewn mwy o berygl yn sgil y diffyg gweithredu gan yr Heddlu er gwaetha’r ffaith bod ganddyn nhw’r wybodaeth am ei ymddygiad,” meddai un dioddefwr.

“Roedd hawliau’r diffynnydd yn ymddangos yn bwysicach na fy rhai i, fel bod yr heddlu ofn cael eu dwrdio gan gynrychiolydd cyfreithiol y diffynnydd. Lle mae’r ddyletswydd o ofal at y dioddefwyr, gan mai’r dioddefwyr yw’r flaenoriaeth yn yr achos?” meddai un arall.

“Mae’n rhwystredig bod y pwyslais ar be sydd rhaid i fi ei wneud ac nid ar yr ymddygiad ymosodol a gelyniaethus,” yn ôl trydydd dioddefwr.

Argymhellion

Blaenoriaethau Cynllun Heddlu a Throseddu y Comisiynydd Dafydd Llywelyn yw fod dioddefwyr yn cael eu cefnogi, niwed yn cael ei atal a bod y system cyfiawnder troseddol yn dod yn fwy effeithiol.

Maen nhw wedi cynnig amryw o argymhellion i Heddlu Dyfed-Powys wrth ymateb i’r adolygiad, gan gynnwys ailedrych ar Gytundebau Cyswllt Dioddefwyr er mwyn sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu hysbysu’n gyson am ymchwiliadau.

Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar ddefnydd y llu o ymyriadau wedi’u targedu a gorchmynion ataliol i ddiogelu dioddefwyr ac i leihau aildroseddu hefyd.

Yn sgil yr ymchwil, mae’r Comisiynydd yn argymell fod angen blaenoriaethu cyllid a recriwtio ar gyfer rolau hanfodol o fewn y maes.

Hefyd, mae angen ystyried y defnydd o amrywiaeth o ymyriadau, gan gynnwys gorchmynion sifil, fel rhan o strategaethau i reoli pobol sy’n stelcian ac aflonyddu.

‘Pocedi o arfer da’

Dywed Dafydd Llywelyn, Comisinydd Heddlu a Throsedd y llu, fod yr adolygiad wedi “rhoi sicrwydd” iddo fod dioddefwyr yn cael eu diogelu gan yr heddlu yn Nyfed-Powys.

“Fodd bynnag, dywedodd dioddefwyr nad oeddent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n llawn gan yr heddlu,” meddai.

“Dyna pam yr ydym wedi argymell bod swyddogion ymchwilio yn adolygu Cytundebau Cyswllt Dioddefwyr ar wahanol adegau yn ystod ymchwiliadau, i sicrhau bod cyswllt â’r heddlu yn cyfateb i ddisgwyliadau ac anghenion y dioddefwr.

“Wrth atal troseddu yn y dyfodol, daeth fy nhîm o hyd i bocedi o arfer da lle’r oedd prosesau rheoli troseddwyr yn cael eu cymhwyso’n gadarn, ond mae angen i’r Heddlu wneud mwy i atal pawb sy’n cyflawni stelcian ac aflonyddu yn gyson.

“O ran defnydd effeithiol o’n system cyfiawnder troseddol, roedd enghreifftiau o ystyriaeth gynyddol, a defnydd o orchmynion sifil ac erlyniadau.

“Ond mae tystiolaeth o ddatgysylltiad rhwng dealltwriaeth y dioddefwr, yr heddlu a’r llysoedd o’r ymateb sydd ei angen i dorri gorchmynion ac aildroseddu.”

‘Gweithredu’r argymhellion’

Yn ei ymateb i’r adolygiad, dywedodd y Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis eu bod nhw’n cydnabod cynnwys yr adroddiad, yn enwedig yr adborth gan ddioddefwyr.

“Hoffai Heddlu Dyfed-Powys ddiolch i’r Comisiynydd a’i swyddfa am gynnal adolygiad thematig o stelcian ac aflonyddu,” meddai.

“Mae’n braf gweld yr adroddiad yn cydnabod y gwaith sydd ar y gweill, ac wrth symud ymlaen bydd yr argymhellion yn cael eu hintegreiddio â chynlluniau ein heddluoedd, wrth i ni ymdrechu i wella ein hymateb.”