Mae pwysau sylweddol ar Uned Mân Anafiadau ysbyty Llanelli’n effeithio ar eu gallu i ddarparu gofal diogel, medd arolwg newydd.
Fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru arolygu Ysbyty Tywysog Philip am dridiau ym mis Mehefin, gan nodi bod yr heriau yn yr adran yn “arwain at risg uwch i gleifion”.
Yn ôl yr arolygwyr, mae’r staff yno’n gweithio’n galed iawn i roi gofal o ansawdd da ond maen nhw “dan gryn bwysau”.
Er bod cleifion oedd yn dod i’r uned â mân anafiadau’n cael lefel dda o ofal diogel, doedd yr arolygwyr ddim o’r farn bod yr amgylchedd yn addas ar gyfer cleifion iechyd meddwl, cleifion meddygol na chleifion llawfeddygol.
Doedd dim sicrwydd fod cleifion oedd angen aros yn yr uned am amser hirach yn cael gofal amserol, effeithiol a chyson chwaith.
Nododd yr arolygwyr nad oedd cyfleusterau hylendid digonol ar gael i’r cleifion, a bod hynny’n cael “effaith negyddol ar eu hurddas”.
Wrth holi cleifion a gofalwyr, dywedon nhw eu bod nhw’n fodlon â’r gwasanaeth ar y cyfan, ac roedd staff yn trin cleifion â charedigrwydd a pharch.
Fodd bynnag, fe wnaeth staff sôn am ddiffyg undod rhwng gweithwyr, gyda rhai ohonyn nhw’n cyflawni sawl rôl.
Dywedwyd hefyd fod diffyg ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd am y gwasanaethau sydd ar gael yn yr Uned Mân Anafiadau, bod cymysgedd sgiliau gwael ymhlith y staff, a bod lefelau ymgysylltu rhwng yr uwch-reolwyr a’r arweinwyr yn isel wrth fynd i’r afael â phryderon.
‘Pwysau eithriadol o uchel’
Rhaid i Fwrdd Iechyd Hywel Dda sicrhau bod camau gweithredu cadarn a pharhaus yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â hynny, yn ôl Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
“Mae’r pwysau ar wasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn eithriadol o uchel o hyd, a gwelsom dystiolaeth o wasanaeth sy’n ei chael hi’n anodd ateb y galw a sicrhau diogelwch cleifion o fewn yr adnoddau sydd ar gael,” meddai Alun Jones, Prif Weithredwr yr Arolygiaeth.
“Rwy’n cydnabod gwaith caled ac ymroddiad y staff yn y gwasanaeth hwn ac mae ein hadroddiad yn rhoi cyfle i dynnu sylw at yr heriau y mae cleifion a staff yn y gwasanaeth hwn yn eu hwynebu bob dydd.
“Bydd yr argymhellion penodol gennym, sy’n nodi camau gweithredu i’w cymryd, yn helpu’r bwrdd iechyd i leihau risgiau i gleifion a staff tra bydd yn parhau i wynebu’r cyfnod heriol hwn.
“Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau.”
Ychwanega fod y bwrdd iechyd wedi llunio cynllun cynhwysfawr sy’n cynnwys camau gweithredu manwl i fynd i’r afael â’r gwelliannau yn yr adran.