Mae llefarydd Newid Hinsawdd y Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo’r Gweinidog Newid Hinsawdd o beidio cymryd diddordeb mewn ynni niwclear.

Wrth gyfeirio at gyfres o gwestiynau ar ynni niwclear yn y Senedd ddoe (dydd Mercher, Medi 27), dywedodd Janet Finch-Saunders fod diffyg ymatebion Julie James ar ynni niwclear “yn ddryslyd”.

Dywedodd fod pedair gwaith cymaint o bŵer glân yn y Deyrnas Unedig ag sydd gennym ni nawr i daro Net Sero erbyn 2050.

“Gofynnais i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Llafur sut mae’n bwriadu gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i hybu ynni niwclear yn Nhrawsfynydd a’r Wylfa, sydd mewn sefyllfa ddelfrydol i fod wrth galon adfywiad niwclear enfawr,” meddai.

“Yn anffodus, roedd atebion y Gweinidog yn nodi nad oes ganddi ddiddordeb mewn ynni niwclear, sy’n ddryslyd o ystyried mai newid yn yr hinsawdd yw ei phortffolio.

“Pwysleisiais wrth symud ymlaen fod angen i ni gynnal yr uchelgais i wneud y Deyrnas Unedig yn fwy hunangynhaliol o ran cynhyrchu ynni.”

Dywedodd y byddai’r safleoedd yn darparu pŵer i ryw ddwy filiwn o gartrefi, a’u bod nhw “mewn sefyllfa ddelfrydol i ddatblygu a dod yn gartref i dros 400 o swyddi o ansawdd uchel yn lleol”.

Ddim yn rhan o’i phortffolio

Er honiadau’r Ceidwadwr, dywedodd Julie James nad yw’r mater yn rhan o’i phortffolio, gan ei fod yn brosiect mewnfuddsoddi ac felly’n un o gyfrifoldebau Gweinidog yr Economi.

“Wel, Lywydd, dyma bortffolio fy nghyd-aelod, Gweinidog yr Economi, mewn gwirionedd, ond, serch hynny, rydym yn gweithio’n galed iawn yn wir i wneud yn siŵr y gellir lleoli adweithyddion niwclear bach a chanolig yn benodol ar wahanol adegau,” meddai.

Wedi i Janet Finch-Saunders barhau i holi Julie James ar y mater a’i chyhuddo o ddiffyg diddordeb, dywedodd y gweinidog nad ei lle hi oedd addysgu Aelodau o’r Senedd am gyfrifoldebau eraill.

“Mae’n rhaid i mi ddweud, Janet, nid wyf yn meddwl y dylwn roi gwers ichi o ran sut i ddarganfod pa Weinidog sy’n gyfrifol am beth, ond cânt eu cyhoeddi ar y wefan a gallwch edrych arnynt,” meddai Julie James.

Aeth yn ei blaen i ddweud ei bod hi yn deall y sefyllfa a’i bod wedi bod mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig am y grid.

“Wn i ddim a ydych chi wedi sylwi, ond nid ydym yn cynhyrchu unrhyw drydan ar hyn o bryd, a dyna pam nad yw yn fy mhortffolio i,” meddai.

“Ac felly, yr ateb i’ch cwestiwn wrth gwrs yw ein bod yn siarad â Llywodraeth y Deyrnas Unedig am y grid; siaradwn â’r Gweinidog am y grid nes ein bod yn las yn y wyneb.

“Fodd bynnag, nid ydym eto wedi gweld un geiniog o fuddsoddiad i annog y grid i’r canolbarth nac yn wir ar draws y gogledd nac yn wir yr uwchraddio sydd ei angen arnom yn y de i gael y môr Celtaidd.

“Felly, os ydych chi am ychwanegu eich llais at fy llais ar hynny, mae croeso i chi.”