Hywel Gwynfryn fydd yn derbyn Gwobr Cyfraniad Arbennig BAFTA Cymru eleni, am ei gyfraniad eithriadol i’r byd darlledu.

Bu’n enw cyfarwydd ar deledu a radio ac ym myd adloniant ers dros hanner canrif bellach, ac yntau’n ddarlledwr, saer geiriau ac awdur dylanwadol.

Dywed BAFTA Cymru fod moddd gweld, clywed a theimlo’i ôl ym mhob agwedd ar ddiwylliant poblogaidd Cymru.

Bywyd a gyrfa

Cafodd Hywel Gwynfryn ei eni yn Llangefni ar Ynys Môn, a chafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Llangefni a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd, lle mae’n byw erbyn hyn.

Mae hefyd wedi ysgrifennu sawl bywgraffiad ar Gymry enwog – yr actores Siân Phillips (i’w gyhoeddi y Nadolig hwn), y deuawd comedi enwog Ryan a Ronnie, y diweddar actor ac enillydd Oscar Hugh Griffith, ynghyd â’r soprano Margaret Williams.

Ac yntau’n saer geiriau nodedig ac uchel ei barch, ysgrifennodd Anfonaf Angel – un o’r caneuon Cymraeg mwyaf llwyddiannus erioed, gyda cherddoriaeth gafodd ei chyfansoddi gan Robat Arwyn.

I ddathlu ei ben-blwydd yn 80 oed y llynedd, neilltuodd Noson Lawen raglen gyfan i’w waith – gan gynnwys caneuon ysgrifennodd e ar gyfer ffilmiau a’r llwyfan dros y degawdau, wedi’u perfformio gan rai o artistiaid mwyaf adnabyddus Cymru.

Dechreuodd Hywel Gwynfryn weithio i’r BBC yn 1964.

Bedair blynedd yn ddiweddarach, cyflwynodd y sioe arloesol Helo Sut Dach Chi?, y rhaglen bop Gymraeg gyntaf ar y radio, ar adeg pan mai ychydig iawn o gerddoriaeth bop Gymraeg oedd i’w chlywed ar y tonfeddi.

Roedd Hywel Gwynfryn yn derbyn ac yn chwarae tapiau demo gan fandiau ac artistiaid ledled Cymru.

Cyflwynodd arddull fwy ‘sgyrsiol’ i ddarlledu hefyd, oedd yn wahanol iawn i’r Gymraeg fwy ‘ffurfiol’ yn y byd darlledu ar y pryd, ac fe ddenodd gynulleidfa iau.

Yn 1970, roedd yn un o gyflwynwyr Bilidowcar, y sioe deledu gylchgrawn i blant a fersiwn Gymraeg a Chymreig o Blue Peter.

Ers i BBC Radio Cymru ddechrau ym 1977, mae Hywel Gwynfryn hefyd wedi bod yn un o’i chyflwynwyr mwyaf adnabyddus, gan gyflwyno’i raglen foreol flaenllaw Helo Bobol a sioeau fel Hywel a Nia, ynghyd ag adrodd o’r Eisteddfod bob blwyddyn.

Ochr yn ochr â’i yrfa radio, mae hefyd wedi cyflwyno rhaglenni teledu materion cyfoes fel Heddiw a Rhaglen Hywel Gwynfryn.

Yn 1990, fe gyflwynodd Ar Dy Feic, oedd yn dilyn ffawd teuluoedd o Gymru oedd wedi mynd i fyw mewn gwledydd eraill.

Ysgrifennodd y ffilm Y Dyn ’Nath Ddwyn y ’Dolig gyda Caryl Parry Jones ar gyfer S4C yn 1985, ac mae’n cael ei hystyried yn glasur cwlt gaiff ei darlledu’n rheolaidd ar y sianel dros gyfnod y Nadolig.

Mae modd clywed Hywel Gwynfryn yn cyflwyno Swyn y Sul ar BBC Radio Cymru, sydd bellach ar ei phedwaredd gyfres, gyda’r soprano o Gymru, Elin Manahan Thomas, bob dydd Sul.

‘Teithio’r byd a chael tâl am gael amser bendigedig’

“Am y trigain mlynedd diwethaf, dwi wedi bod yn eistedd a gwrando ar bobol yn siarad â mi am bopeth dan haul,” meddai Hywel Gwynfryn.

“Dw i wedi teithio’r byd a chael tâl am gael amser bendigedig.

“A nawr dwi’n mynd i gael BAFTA. Does dim byd gwell na hynny.

“Y peth pwysig, a minnau’n 81 oed, yw ’mod i’n dal i fod yn egnïol, yn dal i ysgrifennu, darlledu, a chynhyrchu – ac mae hynny’n gymaint o fendith.

“Mae fy ngyrfa a’r wobr hon nid yn unig yn deillio o’m gwaith i, ond gwaith yr holl gynhyrchwyr, ymchwilwyr, gweithredwyr sain a chriwiau cyfan sydd wedi fy nghefnogi ac aros gyda mi dros y blynyddoedd.

“Dw i’n eithriadol o ddiolchgar iddyn nhw ac i BAFTA Cymru am y wobr hon.

“Diolch.”

‘Neb wedi ymroi cymaint ag ef’

Mae Angharad Mair, cadeirydd BAFTA Cymru, wedi llongyfarch Hywel Gwynfryn wrth iddo baratoi i dderbyn y wobr yng Ngwobrau BAFTA Cymru yng Nghasnewydd ar Hydref 15.

“Rydw i wrth fy modd i glywed bod BAFTA Cymru yn anrhydeddu Hywel Gwynfryn â Gwobr Cyfraniad Arbennig eleni,” meddai.

“Does neb wedi ymroi ei fywyd cymaint i ddarlledu Cymraeg nag ef.

“Ac yntau’n eicon ym myd darlledu Cymraeg, mae nid yn unig wedi ffurfio’r Radio Cymru sy’n gyfarwydd i ni heddiw ond wedi cyfrannu at gymaint o agweddau diwylliannol ar ein bywydau.

“Os ydych chi’n siarad Cymraeg, byddwch wedi dod ar draws ei waith, rywbryd.

“Edrychwn ymlaen at ddathlu gyda Hywel yn y Gwobrau ym mis Hydref.”

Bydd seremoni wobrwyo BAFTA Cymru’n cael ei chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru) yng Nghasnewydd am y tro cyntaf, a bydd ar gael i’w gwylio’n fyw ar sianel YouTube BAFTA.