Bydd cleifion yn gallu dweud wrth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Ngwent yn fuan a fyddai’n well ganddyn nhw dderbyn gohebiaeth Gymraeg neu Saesneg.

Ar hyn o bryd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn aml yn anfon gohebiaeth yn ddwyieithog, gan eu bod nhw wedi’i chael hi’n anodd cadw trefn ar ddewis iaith gyfathrebu cleifion unigol.

Ond dywed Paul Solloway, cyfarwyddwr digidol y bwrdd, fod disgwyl i system newydd gael ei defnyddio o’r flwyddyn nesaf ymlaen fydd yn gallu “storio” dewis iaith cleifion.

Codi cwestiynau

Gofynnodd Iwan Jones, aelod annibynnol o’r bwrdd sydd â chyfrifoldeb dros gyllid, am oblygiadau ariannol gweithredu’n ddwyieithog.

Clywodd y bwrdd fod yna 121 o safonau iaith Gymraeg – gofynion sy’n cael eu cytuno o ran yr hyn sydd angen ei wneud drwy gyfrwng y Gymraeg – mae’n rhaid iddyn nhw gydymffurfio â nhw.

“Mae’n rhaid bod cost fawr ynghlwm wrth hyn sy’n cael effaith ar gyllidebau eraill, neu a oes gennym ni gyllid arbennig ar gyfer hyn?” gofynnodd.

Gofynnodd a oes rhaid i’r bwrdd anfon eu holl lythyron yn Gymraeg a Saesneg.

Dywedodd Sarah Simmonds, cyfarwyddwr y gweithlu, fod modd ysgrifennu mewn un iaith os ydyn nhw’n gallu adnabod dewis y cleifion.

Ond “y peth anodd yw adnabod hynny a chadw cysondeb”, meddai.

Technoleg iaith newydd

Dywedodd Paul Solloway eu bod nhw’n disgwyl gallu manteisio ar y system newydd y flwyddyn nesaf, a bod gan Microsoft dechnoleg newydd fydd yn cyfieithu dogfennau Word yn awtomatig i’r Gymraeg.

Dywedodd Sarah Simmonds fod y dechnoleg eisoes yn cael ei defnyddio, a bod “adroddiadau positif iawn am ei chywirdeb”.

O ran costau, dywedodd fod gan y bwrdd uned iaith Gymraeg sy’n cael ei hariannu, a’u bod nhw wedi gwneud newidiadau’n ddiweddar i’w staff er mwyn penodi cyfieithydd mewnol, sydd wedi arwain at arbedion o ran talu am wasanaethau cyfieithu a chynnydd yn eu capasiti i gynnig gwasanaeth cyfieithu.

Bydd y bwrdd hefyd yn penodi tiwtor iaith Gymraeg dros y misoedd i ddod, a dywed Sarah Simmonds y byddai’n helpu staff â’u sgiliau a’u gallu yn yr iaith Gymraeg, sydd wedi’i nodi fel mater allweddol yn eu harolwg o sgiliau iaith Gymraeg staff.

‘Anodd denu siaradwyr Cymraeg’

Mae adroddiad iaith Gymraeg blynyddol y bwrdd, y mae’n rhaid iddyn nhw ei gyflwyno i Gomisiynydd y Gymraeg, wedi tynnu sylw at y ffaith eu bod nhw wedi cynyddu nifer y swyddi sy’n cael eu hysbysebu lle mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol, yn hanfodol neu fod angen eu dysgu, gyda’r nifer yn cynyddu ym mhob un o’r tri o ddangosyddion am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Ond mae’r adroddiad yn nodi eu bod nhw’n “parhau i’w chael hi’n anodd denu siaradwyr Cymraeg i’r rolau hyn”.

Mae’r bwrdd hefyd wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n targedu plant 14 i 16 oed mewn ysgolion Cymraeg i dynnu sylw at sut y gall yr iaith fod yn sgil mewn gofal iechyd, gyda staff hefyd yn mynd i ysgolion Saesneg ar gais.

Mae hyfforddiant gorfodol ar Mwy na Geiriau, cynllun pum mlynedd y Llywodraeth ar gyfer y defnydd o’r Gymraeg ym maes gofal iechyd, hefyd wedi gweld 60% o gydymffurfiaeth yn ystod y tri mis cyntaf.

Ond mae’r adroddiad yn nodi bod “tystiolaeth yn parhau i ddod i’r amlwg sy’n awgrymu bod yna ddiffyg dealltwriaeth neu ymwybyddiaeth o hyd o’r gofynion i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg”.

O ganlyniad, mae mwy o ddigwyddiadau ymgysylltu wedi cael eu cynllunio.

Mae cyfranogiad yng ngrŵp strategol y Gymraeg y bwrdd yn parhau’n isel, a dim ond rhai adrannau penodol sydd ynghlwm, gan greu perygl nad yw gwybodaeth yn cael ei rhannu ar draws y sefydliad.

Bydd aelodaeth o’r grŵp bellach yn cael ei hadolygu.

Nododd y bwrdd “welliannau a chynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf”, ac fe wnaethon nhw gymeradwyo’r adroddiad.