Mae aelodau o Blaid Cymru sydd wedi ymddiswyddo o bwyllgor etholaeth Caerffili yn sgil honiadau o fwlio wedi gwrthod cynigion i gyfaddawdu.
Daw’r ymddiswyddiadau fisoedd wedi i Adam Price, cyn-arweinydd y Blaid, gamu o’r neilltu yn dilyn beirniadaeth o’r modd roedd e wedi ymateb i honiadau o gamymddwyn gan aelodau blaenllaw.
Aeth llythyr gan Teresa Parry, cadeirydd etholaeth Caerffili, at Gadeirydd Plaid Cymru i ddwylo Nation.Cymru a WalesOnline, ac yn y llythyr hwnnw mae’n dweud nad oes modd i aelodau’r pwyllgor barhau i wneud eu gwaith “oherwydd diffyg gweithredu’r Blaid wrth fynd i’r afael o ddifrif â rhywiaeth, gwahaniaethu, a chasineb at ferched”.
Ers hynny, maen nhw wedi cael cynnig mynd i sesiwn gyfaddawdu, ond mae’r cynnig yn un “anaddas”, meddai Teresa Parry wrth golwg360.
Mae’r honiadau’n cynnwys rhegi ar fenywod mewn cyfarfodydd, a defnyddio rhywioldeb rhywun fel sarhad.
Er eu bod nhw wedi gofyn i’r Blaid gamu i mewn sawl gwaith dros nifer o flynyddoedd, dyma’r tro cyntaf i Blaid Cymru gynnig cyfaddawdu, meddai.
Fodd bynnag, yn hytrach na chyfaddawdu gyda’r sawl sy’n gyfrifol, cafodd y gwahoddiad ei estyn at gadeirydd ac ysgrifennydd pob cangen yng Nghaerffili.
“Rydym wedi cofnodi yn fanwl faterion difrifol gan gynnwys gwahaniaethu, aflonyddu, bwlio, erledigaeth, rhywiaeth, diffyg gwrthrychedd, casineb at ferched a homoffobia mewn nifer o gwynion a gohebiaeth dros nifer o flynyddoedd,” meddai’r llythyr.
“Mae’r NEC, aelodau etholedig ac arweinyddiaeth y blaid wedi cael gwybod am y materion sy’n wynebu aelodau.
“Ond dydyn nhw ddim wedi mynd i’r afael â hyn gan adael aelodau heb eu cefnogi ac yn parhau i wynebu ymddygiad annerbyniol gan arwain at ddiffyg gofal ar gyfer y rheini sydd wedi wynebu a/neu adrodd am ymddygiad annerbyniol.”
‘Cwbl annheg ac anaddas’
Wrth siarad â golwg360 am y penderfyniad i ymddiswyddo, dywed Teresa Parry, sy’n parhau’n aelod a chynghorydd Plaid Cymru, fod y sefyllfa wedi “cyrraedd y berw” a’i bod hithau hefyd wedi dioddef yn sgil bwlio.
Mae’r problemau’n rai “hirhoedlog” yng Nghaerffili, meddai, gan ychwanegu bod Marc Jones, cadeirydd Plaid Cymru, yn cydnabod fod galwadau ers tro i roi’r Blaid yn yr ardal mewn mesurau arbennig yn sgil y materion.
“Mae anwybyddu hawliau menywod a methiant i ymchwilio i’r sefyllfa’n iawn yn parhau i gaslight-io menywod,” meddai Teresa Parry.
Er eu bod nhw wedi diolch i Marc Jones ac Owen Roberts, Prif Weithredwr Plaid Cymru, am y cynnig i gyfaddawdu, fe wnaethon nhw ateb eu cais gan ddweud bod y sefyllfa tu hwnt i gyfaddawdu a’u bod nhw’n deall fod y sefyllfa’n dyddio’n ôl ymhellach na chyfnod Owen Roberts yn Brif Weithredwr.
“Efallai y byddai cyfaddawdu wedi cael ei werthfawrogi ar sawl cais blaenorol am ymyrraeth,” medd eu hateb.
Aeth eu hymateb i Owen Roberts a Marc Jones yn ei flaen i ddweud bod anallu’r blaid i fynd i’r afael â’r driniaeth o fenywod yn y gorffennol wedi “gadael menywod yn agored i niwed ac yn wynebu ymddygiad annerbyniol”.
“Mae adrannau adnoddau dynol fel arfer yn cydnabod nad ydy cyfaddawdu ddim yn addas ar gyfer achosion o wahaniaethu ac achosion yn ymwneud â thor-cyfraith posib,” meddai Teresa Parry wedyn.
“Byddai’n annheg rhoi’r dioddefwyr drwy’r broses o gyfaddawdu gyda’r rhai sy’n gwneud y bwlio.
“Mae’n gwbl annheg, yn hollol anaddas, ac yn anffodus yn rhy hwyr.
“Mae wedi cyrraedd y berw, roedd hi’n anymarferol i ni aros a gwneud ein gwaith dan y fath danseilio.
“Rydyn ni wedi dioddef lot, rydyn ni wedi trio ein gorau, rydyn ni wedi gwneud ein gwaith dan brotocolau Plaid Cymru, ond roedd ein hymdrechion yn cael eu tanseilio dro ar ôl tro gan bobol oedd yn ceisio tanseilio pwyllgor oedd yn cael ei arwain gan fenywod.
“Fe wnaethon ni ofyn am gefnogaeth ond ddaeth dim, felly does dim prawf y gall y Blaid ddweud eu bod nhw’n cymryd honiadau o wreig-gasineb o ddifrif.
“Gydag ychydig iawn o gefnogaeth o Dŷ Gwynfor ac yn sgil ymddygiad annerbyniol cynyddol – eithrio menywod wrth gyfathrebu, rhegi ar fenywod mewn cyfarfodydd, defnyddio cofnodion anghywir i ddifrïo menywod – fe wnes i ofyn a oedd gan Dŷ Gwynfor bolisi ymddygiad annifyr neu bolisi i fynd i’r afael ag ymddygiad annerbyniol i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
“Doedd ganddyn nhw ddim i’n gwarchod heblaw bod gan y cadeirydd yr hawl i stopio cyfarfodydd.”
Yn sgil hynny, fe wnaeth aelodau’r pwyllgor droi at One Voice Wales i geisio dod o hyd i ateb, gan greu Polisi i Fynd i’r Afael â Gweithredoedd Annerbyniol gan Unigolion, polisi sy’n cael ei ddefnyddio gan sawl sefydliad a chyngor.
Dywed Teresa Parry bod y rhai oedd yn gyfrifol am yr ymddygiad wedi cynnig gwrthwynebu’r polisi’n hallt, ond gan eu bod nhw wedi boicotio’r cyfarfodydd ei fod e wedi cael ei basio.
“Oherwydd eu hymddygiad annerbyniol parhaus, mae gen i ddyletswydd o ofal i aelodau fy mhwyllgor,” meddai wedyn.
‘Dim newid’
Ychwanega Teresa Parry ei bod hi’n “cydymdeimlo ryw ychydig” ag Owen Roberts a Marc Jones.
“Dw i’n meddwl eu bod nhw wedi cymryd y swyddi er mwyn ceisio gwneud y gorau ym Mhlaid Cymru, ac maen nhw wedi cael eu rhoi mewn sefyllfa anodd iawn,” meddai.
“Mae Marc Jones yn gwybod ei bod hi’n broblem hirhoedlog, ac mae un Prif Weithredwr ar ôl y llall wedi bod yn ymdrin â’r peth, ond does neb wedi bod yn ymdrin ag e ac rydyn ni wedi cael ein hanwybyddu.
“Roedden ni wedi gobeithio y byddai adroddiad Nerys Evans wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol erbyn hyn, ond dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw newid yn niwylliant y Blaid.
“Pe bai yna ryw fath o ymyrraeth wedi digwydd flynyddoedd yn ôl, fydden ni ddim yn y sefyllfa yma heddiw.”
‘Gweithio gyda’r blaid leol’
Dywed llefarydd ar ran Plaid Cymru eu bod nhw’n ymwybodol o bryderon yn etholaeth Caerffili, a’u bod nhw eisiau sicrhau eu bod nhw’n parhau i gymryd y mater o ddifrif.
“Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i weithio gyda’r blaid leol i ddatrys y materion cyn gynted â phosibl,” meddai.
“Mae Plaid Cymru yn cymryd honiadau o gasineb yn erbyn menywod o ddifrif, ac yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i weithredu argymhellion Prosiect Pawb yn ei gyfanrwydd – gan gynnwys cryfhau prosesau mewnol y Blaid, a sicrhau bod y Blaid yn ofod diogel, cynhwysol a pharchus i bawb.”