Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud ei bod yn “gwbl anfaddeuol” nad oedd Llafur, Plaid Cymru na’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bwrw pleidlais o ddiffyg hyder yn y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth ddoe (dydd Mercher, Medi 27).

Daw hyn ar ôl i’r Ceidwadwyr orfodi pleidlais yn y Senedd, wedi i ddeiseb yn gofyn am waredu’r polisi 20m.y.a. gasglu dros 440,000 o lofnodion – mwy o bobol na’r nifer bleidleisiodd dros y Blaid Lafur yn etholiadau diwetha’r Senedd.

Gobaith y Ceidwadwyr Cymreig oedd y byddai’r bleidlais yn arwain at ymddiswyddiad Lee Waters, y Gweinidog oedd yn gyfrifol am y polisi terfyn cyflymder newydd dadleuol.

Fodd bynnag, aeth y bleidlais yn groes i obeithion y Ceidwadwyr Cymreig, gydag 16 yn pleidleisio o blaid y cynnig o ddiffyg hyder, tra bod 42 yn ei erbyn.

‘Gwleidyddiaeth yn mynnu gwell’

Yn ystod y ddadl, gofynnodd Delyth Jewell, llefarydd newid hinsawdd Plaid Cymru,  i’r Ceidwadwyr beidio â bwrw ymlaen â’r bleidlais, yn sgil pryderon am ei heffaith ar wleidyddiaeth yng Nghymru.

“Mae gwleidyddiaeth yn mynnu gwell gennym ni na hyn,” meddai.

“Rwy’n optimist, Lywydd, ac rwy’n dal i fyw mewn gobaith y bydd y Ceidwadwyr yn troi eu cefnau ar y llwybr hwn o boblyddiaeth, sy’n niweidio pob un ohonom, oherwydd mae gwleidyddiaeth yn mynnu gwell.”

Serch hynny, yn dilyn y bleidlais, dywedodd Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, y byddai ei phlaid “yn parhau i ddwyn y Llywodraeth Lafur i gyfrif”.

“Mae’n gwbl anfaddeuol fod Llafur, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi pleidleisio i gefnogi’r Gweinidog sy’n gyfrifol am derfynau cyflymder 20 m.y.a., er i’r ddeiseb Senedd yn galw i waredu a’r terfyn cyflymder 20 m.y.a. dorri’r record,” meddai.

“Mae’n glir fod terfynau cyflymder 20m.y.a. blanced yn niweidio bywoliaethau a swyddi, yn arafu gwasanaethau brys, ac yn costio hyd at £9bn i economi Cymru.

“Dyna pam fod rôl y Dirprwy Weinidog yn anghynaladwy.

“Bydd Llafur a Lee Waters yn parhau â’u hagenda wrth-yrwyr.

“Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig fydd yn parhau i ddwyn y Llywodraeth Lafur i gyfrif, wrth sefyll i fyny dros yrwyr.”

‘Gwarth lwyr’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisoes yn wynebu beirniadaeth chwyrn gan y Blaid Lafur am gyfeirio at y terfynau cyflymder 20m.y.a. fel terfynau “blanced”.

Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford fod y blaid yn gwybod nad terfynau blanced mae’r polisi wedi eu cyflwyno mewn gwirionedd, ond eu bod nhw wedi dewis dweud celwyddau a chamarwain y cyhoedd.

“Mae’n gyfyngiad cyflymder rhagosodedig sydd ddim yr un peth â gwaharddiad cyffredinol,” meddai.

“Rwy’n barod i fynd ymlaen i egluro hyn i arweinydd yr wrthblaid ond mae rhai pobol eisoes wedi dod i’r casgliad dyw e ddim ei fod e ddim yn ei ddeall – mae e’n benderfynol o beidio â dweud y gwir.

“Ac mae hynny’n warth, yn warth lwyr, gan rywun sy’n dal y swydd mae’n ei dal.

“Nid yw hyn yn waharddiad cyffredinol.

“Mae arweinydd yr wrthblaid i’w weld yn meddwl, drwy barhau i ddweud rhywbeth nad yw’n wir, y gall ei wireddu.”