Mae pryderon yn sgil y ffaith fod mwy o bobol yn cael eu dal yn gyrru dan ddylanwad cyffuriau nag sy’n cael eu dal yn gyrru dan ddylanwad alcohol yn y gogledd erbyn hyn.
Mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, yn dweud bod angen i’r duedd hon newid.
Daw ei sylwadau wedi i Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ddatgelu bod 204 o bobol wedi cael eu harestio am yfed a gyrru dros y deuddeg mis diwethaf, tra bod 272 wedi cael eu harestio yn yr un cyfnod am yrru dan ddylanwad cyffuriau.
Mae pryderon nad oes cymaint o stigma’n perthyn i yrru dan ddylanwad cyffuriau, ac nad yw defnyddwyr yn sylweddoli nad ydyn nhw’n ddiogel wrth y llyw dan ddylanwad cyffuriau.
Dywed Andy Dunbobbin y bydd camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r broblem dros y flwyddyn nesaf.
Mae’n credu bod angen rhoi mwy o bwyslais ar beryglon gyrru dan ddylanwad alcohol yn yr ymgyrch yfed a gyrru er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r broblem.
‘Sefyllfa bryderus’
Roedd y Comisiynydd yn cytuno bod y sefyllfa’n destun pryder, a’i fod yn bwnc mae’n awyddus i fynd i’r afael ag e.
“Fe es i allan gyda’r heddlu yn ystod yr ymgyrch yfed a gyrru, a phan welais y newid hwnnw mewn ymddygiad, roedd yn wirioneddol bryderus i mi fod gyrru dan ddylanwad cyffuriau ar gynnydd,” meddai.
“Mae’n sicr yn rywbeth sydd ar ein radar, a byddwn yn gweithredu’n gymesur â’r hyn mae’r data yn ei ddangos i ni.”
Y prif bryder o ran cyffuriau yw, tra bod rhywun yn ymwybodol o faint o alcohol maen nhw wedi’i yfed ac yn deall ei effeithiau i raddau, y gall cryfder cyffuriau amrywio yn dibynnu ar eu hansawdd.
Mae alcohol yn sylwedd rheoledig, lle mae rhywun yn gwybod yn fras faint ohono maen nhw wedi’i yfed a pha mor gryf oedd y diodydd.
Ond gan fod cyffuriau’n sylweddau sydd heb eu rheoli, mae’n anoddach i unigolyn fesur faint maen nhw wedi’i gymryd gan fod y cryfder yn gallu amrywio.
Mae cyffuriau hefyd yn dueddol o aros yn y system yn hirach, sy’n golygu efallai nad yw rhywun yn ddiogel wrth yrru er eu bod nhw’n teimlo i’r gwrthwyneb.
“Rwy’n credu y bydd hynny’n cael ei gynnwys yn y cynlluniau ar gyfer yr ymgyrch (yfed a gyrru) yn y flwyddyn i ddod hefyd,” meddai Andy Dunbobbin.