Mae dau safle posib newydd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr wedi cael eu datgelu gan Gyngor Sir Fynwy, ac fe allai ymghynghoriad arnyn nhw gael sêl bendith yr wythnos nesaf.

Mae’n rhaid i’r awdurdod nodi safleoedd posib ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn y cynllun datblygu lleol maen nhw wrthi’n ei lunio ar hyn o bryd, sy’n amlinellu ym mle y dylid lleoli datblygiadau newydd ar gyfer tai a chyflogaeth ar draws y sir hyd at 2033.

Mae’r ddau safle newydd – sydd wedi’u hadnabod yn dilyn adolygiad o dir y cyngor gafodd ei gyflwyno’n flaenorol ar gyfer datblygiad posib – ar Fferm Bradbury yng Nghrug ger Cil-y-coed, a Fferm Oak Grove sydd hefyd yng Nghrug.

Mae’r pentref yn rhan o’r hyn mae’r Cyngor yn ei alw’n safle sy’n cael ei ffafrio fel safle datblygu yn Nwyrain Cil-y-coed yn y cynllun lle gellid adeiladu hyd at 2,609 o gartrefi erbyn 2033.

Mae trydydd safle yng Nghlôs Langley ym Magwyr, gafodd ei nodi’n flaenorol, hefyd yn cael ei gyflwyno.

Cafodd deiseb wedi’i llofnodi gan fwy na 1,200 o bobol ei chyflwyno i’r Cyngor yr wythnos ddiwethaf yn galw am dynnu’r safle yn ôl o ganlyniad i “orddatblygu” yn yr ardal.

Cyfarfod arbennig

Mae argymhelliad y dylai Cabinet y Cyngor, dan arweiniad Llafur, gymeradwyo agor ymgynghoriad cyhoeddus ar botensial pob un o’r safleoedd fel rhai addas ar gyfer hyd at chwe lle i Sipsiwn, Roma a Theithwyr pan fydd cyfarfod arbennig ddydd Mercher (Hydref 4).

Bydd y Cabinet yn ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad a pha safleoedd y gellid eu cynnwys yn y cynllun datblygu.

Mae adroddiad y Cabinet hefyd yn amlinellu bod galwad o’r newydd am dir preifat allai fod yn addas ar gyfer datblygu safle i Sipsiwn a Theithwyr wedi gweld 17 darn o dir yn cael eu hawgrymu ar gyfer eu defnyddio.

Fe wnaeth adolygiad o’r rheiny wfftio naw safle yn sgil peryglon am lifogydd, yn dilyn yr un broses oedd wedi’i chynnal i asesu tir cyngor, ac fe wnaeth hwnnw wfftio safle arall oedd mewn ardal gadwraeth, tra bod gwybodaeth annigonol yn golygu na allai’r Cyngor glustnodi dau ddarn arall o dir, gydag un yn rhy fach a’r llall heb fod yn Sir Fynwy.

Fodd bynnag, mae “tri darn addas o dir” wedi cael eu hasesu, ac mae’r Cyngor wedi ysgrifennu at y perchnogion yn gofyn a fyddai diddordeb ganddyn nhw werthu neu roi’r tir ar les iddyn nhw.

Wedyn, gallen nhw gael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad, ond mae’r adroddiad yn dweud nad yw’r Cyngor eto wedi cael caniatâd gan y perchnogion i ddatgelu ble maen nhw.

Gwrthwynebiad ac wfftio safleoedd

Mae’r adroddiad hefyd yn cadarnhau na fydd tir yn Dancing Hill yn Undy bellach yn cael ei ystyried fel safle posib ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, fel y dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths wrth gyfarfod llawn ym mis Medi, ac yntau’n gyfrifol am y cynllun datblygu.

Hyd yn hyn, mae 58 o wrthwynebiadau wedi’u derbyn gan y Cyngor i’r safle yng Nghlôs Langley, ac mae’r adroddiad yn nodi y byddan nhw’n “cael eu bwydo’n awtomatig i’r broses ymgynghori” pe bai’r Cabinet yn cytuno i’w chynnal.

Bydd gofyn hefyd i’r Cabinet ollwng y safleoedd ym Mitchel Troy, Rocklea a Chlôs Garthi, a Mansion Heights yn Nhrefynwy fel y dywedodd y cyn-aelod Cabinet Sara Burch y byddai hi’n ei wneud ym mis Gorffennaf ar ôl i’r pwyllgor craffu trawsbleidiol ddweud nad oedd y rheiny na Chlôs Langley yn addas, ac na ddylid eu dwyn nhw gerbron.

Mae cynnig hefyd y dylai’r Cyngor benodi asiantaeth ymgysylltu cymunedol annibynnol ac arbenigol i redeg yr ymgynghoriad cyhoeddus, ac maen nhw wedi gwahodd nifer o gwmnïau i gyflwyno cynigion.

Mae disgwyl i’r ymgynghoriad cyhoeddus gymryd hyd at chwe wythnos, a bydd yn costio oddeutu £10,000 i’r Cyngor.

Yn ogystal ag edrych ar hyd at chwe safle posib, dywed yr adroddiad fod y Cyngor yn dal i drafod â dwy aelwyd ynghylch y posibilrwydd eu bod nhw’n cael caniatâd cynllunio ar safleoedd preifat allai “leihau yn sylweddol y gofynion cyffredinol ar gyfer llefydd”.

Roedd angen wedi’i nodi’n flaenorol ar gyfer 13 o lefydd, ond mae dau ohonyn nhw bellach wedi cael caniatâd cynllunio, sydd wedi gostwng yr angen i 11.

Cafodd y niferoedd eu pennu o ganlyniad i angen oedd heb ei ddiwallu, o 2020 i 2025, ar gyfer naw safle a phedwar lle ychwanegol hyd at 2033 i alluogi twf teuluoedd wrth i blant ddod yn oedolion a bod angen eu llefydd eu hunain arnyn nhw.

Pe bai’r Cabinet yn cytuno i ymgynghori ar y safleoedd, byddai’r broses yn debygol o ddechrau ar Hydref 18, tra bydd gofyn i’r Cyngor llawn gymeradwyo’r strategaeth sy’n cael ei ffafrio ar hyn o bryd ar gyfer y cynllun datblygu lleol ar Hydref 26.

Wedyn, byddai’r ymgynghoriad cyhoeddus pellach ar gynllun y Cyngor sydd wedi’i gymeradwyo yn cael ei gynnal yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf, ac mae disgwyl iddo gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru fis Medi nesaf, a bydd arolygydd annibynnol yn ystyried a yw’n bodloni polisïau cenedlaethol ac a all gael ei gymeradwyo i’w ddefnyddio.