Bydd bron i 500 o bobol yn colli eu swyddi yn y de, wrth i gwmni creu ffenestri a drysau fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Mae’r cyhoeddiad gan UK Windows & Doors yn “newyddion digalon iawn” i weithwyr a’u teuluoedd, ynghyd â’r economi leol, meddai Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros y rhanbarth.

Dan y cynlluniau, bydd 496 o bobol yn colli’u gwaith yn Nhreorci, Llwynypia, Trewiliam a Ffynnon Taf.

Tu hwnt i Gymru, bydd 67 arall yn colli’u swyddi yn Swydd Gaerloyw a Swydd Bedford.

Yn ôl y cwmni, fe wnaeth cyfnod o ansicrwydd economaidd, chwyddiant prisiau a diffyg hyder defnyddwyr olygu bod y broses arian wedi arafu yn gyffredinol, gyda llai o alw am eu cynnyrch.

“Mae hyn yn newyddion digalon iawn i weithwyr a’u teuluoedd, ynghyd â’r economi leol yn ehangach,” meddai Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru.

“Mae mawr angen am y swyddi hyn yn y Rhondda, fedrwn ni ddim fforddio eu colli.

“Dw i wedi cynnig cwestiwn brys i Lywodraeth Cymru i weld sut fyddan nhw’n cefnogi’r holl weithwyr a sicrhau bod cyfleoedd gwaith ar gael iddyn nhw gyd.

“Mae Llywodraeth Cymru a’r Deyrnas Unedig wedi anghofio am y Rhondda – rydyn ni angen cynllun brys i ddatblygu’r economi leol a mynd i’r afael â degawdau o amddifadaeth a thlodi sydd wedi bod yn niweidio’n cymunedau ers yn llawer rhy hir.”

Newyddion “syfrdanol”

Mae’r newyddion yn “syfrdanol i bawb”, yn enwedig y gweithlu, yn ôl Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf; yr Aelod Seneddol Llafur Chris Bryant; a Buffy Williams, yr Aelod o’r Senedd.

Fe wnaeth y tri gyfarfod neithiwr (nos Lun, Hydref 2) er mwyn penderfynu ar gynllun gweithredu i gefnogi gweithwyr a’r cwmni.

“Ein nod ydy dod o hyd i brynwyr posib ar gyfer y cyfleuster pwysig a cheisio cadw cynifer o’r swyddi â phosib,” meddai’r tri mewn datganiad ar y cyd.

“Er mai dyna yw ein huchelgais, mae’n bwysig bod cefnogaeth amgen ar gael i weithwyr a’r cwmni.

“O ystyried hyn, byddwn ni’n cysylltu â Llywodraeth Cymru a’r Adran Gwaith a Phensiynau i ofyn am gefnogaeth frys.

“Byddwn ni hefyd yn galw ar arbenigwyr Tîm Cymunedau am Waith Cyngor Rhondda Cynon Taf i gynnal ffair swyddi cyn gynted â phosib.

“Byddwn ni’n gwneud popeth allwn ni i gefnogi trigolion drwy’r amser anodd hwn.”

Dros y misoedd diwethaf, mae sawl ymgais wedi bod i geisio achub y cwmni, gan gynnwys creu cynllun trawsnewid.

Mae’r perchnogion presennol wedi buddsoddi rhagor o arian yn y cwmni dros y misoedd diwethaf hefyd, ond dydy eu hymdrechion ddim wedi bod yn llwyddiannus.

Cefnogaeth

Dywed Paul Davies, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi, fod ei feddyliau gyda’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio.

“Dw i’n falch o glywed fod y Llywodraeth Lafur wedi cynnig cefnogaeth, ac yn gobeithio bod eu hymateb yn un cyflym er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl,” meddai.

Un arall sy’n cydymdeimlo yw Joel James, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Ganol De Cymru, sy’n dweud bod “colli swyddi yn ein rhanbarth ac mewn llefydd eraill yng Nghymru’n dinistrio cymunedau”.

“Mae angen i ni gefnogi’r rheiny sydd wedi’u heffeithio ledled ardal Rhondda Cynon Taf,” meddai.

“Mae angen i’r Llywodraeth Lafur ddod ymlaen a bod yn glir ynghylch y cymorth maen nhw’n ei gynnig y tu hwnt i gymorth Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig.

“Mae gan bobol yng nghymoedd de Cymru fywiogrwydd, egni ac arbenigedd y byddai unrhyw gyflogwr eisiau manteisio arno.

“Dylid archwilio’r holl opsiynau ar gyfer cefnogi’r cwmni hwn i ddod o hyd i swyddi i’r rhai sydd wedi’u heffeithio, er mwyn lleihau effaith y newyddion yma.”