Mae rhan gyntaf cyllid y Fargen Twf ar gyfer y canolbarth yn “garreg filltir” i’r economi, yn ôl James Gibson-Watt, arweinydd Cyngor Sir Powys a Bryan Davies, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion.
Mae Tyfu Canolbarth Cymru, partneriaeth ranbarthol a threfniant ymgysylltu rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus, a gyda Llywodraeth Cymru a Deyrnas Unedig, wedi datgloi’r dyraniad cyllid cyntaf gan y ddwy lywodraeth fel rhan o gytundeb Bargen Twf Canolbarth Cymru.
Maen nhw wedi derbyn £4m o gyllid, gan alluogi’r Fargen Twf i symud ymlaen i’r cam cyflawni nesaf.
Mae disgwyl i’r Fargen Twf yng Nghanolbarth Cymru sicrhau buddion uniongyrchol ac anuniongyrchol, gan gynnwys:
- twf mewn ffyniant rhanbarthol
- creu swyddi o ansawdd gwell ar gyfer y farchnad lafur leol
- gweithlu mwy medrus yn y rhanbarth
- gwelliannau mewn safonau byw ar draws y rhanbarth.
Fis Ionawr y llynedd, cafodd buddsoddiad o £110m dros ddeg i bymtheg o flynyddoedd ei gytuno ar y cyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru.
Ers hynny, mae’r rhaglenni a’r prosiectau sy’n ffurfio portffolio Bargen Twf Canolbarth Cymru wedi bod yn gyrru eu hachosion busnes yn eu blaenau, gan anelu i gyfrannu at un o’r meysydd blaenoriaeth canlynol:
- ymchwil gymhwysol ac arloesi
- amaethyddiaeth, bwyd a diod
- cynnig cryfach ar gyfer twristiaeth
- digidol
- cefnogi menter
Bydd y dyraniad cyllid cyntaf hwn i’r rhanbarth yn galluogi Tyfu Canolbarth Cymru i roi cymorth ariannol i gynigion a rhaglenni prosiect y Fargen Twf pan fyddan nhw’n barod.
‘Rheswm i ddathlu’
Yn ôl y Cynghorydd James Gibson-Watt, arweinydd Cyngor Powys, a Bryan Davies, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, mae hon yn garreg filltir o ran yr economi ac yn “rheswm i ddathlu”.
“Mae hwn yn ddatblygiad gwych ac yn garreg filltir enfawr i Ganolbarth Cymru – mae gwybod bod yr arian wedi dod i’r rhanbarth o’r diwedd ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n tirwedd economaidd yn rheswm i ddathlu,” meddai’r ddau ar y cyd.
“Mae’n atgyfnerthu ymddiriedaeth y Llywodraeth ynom i gyflawni o ran creu swyddi newydd, cynyddu cynhyrchiant, a denu cyllid i’r rhanbarth.
“Mae hyn hefyd yn atgyfnerthu ein perthynas â chynigion a rhaglenni prosiect y Fargen Twf a’n hymrwymiad i’w helpu i gyflawni eu hamcanion.”
Mae cyfres o adolygiadau wedi’u cynnal er mwyn sicrhau bod y portffolio o brosiectau a rhaglenni ar y trywydd iawn i fodloni amcanion allweddol.
‘Trawsnewid yr economi a bywydau’
Yn ôl David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru, bydd rhyddhau’r cyllid hwn yn trawsnewid economi a bywydau.
“Rwy’n falch iawn o weld cynnydd o ran cyflawni Bargen Twf Canolbarth Cymru gyda rhyddhau’r cyllid hwn,” meddai.
“Mae potensial i’r fargen hon drawsnewid economi Canolbarth Cymru a bywydau llawer o bobol sy’n byw yno.
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn falch o weithio gyda’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru a Chynghorau Powys a Cheredigion.
“Mae hwn yn gam cyntaf pwysig wrth yrru ffyniant a chreu swyddi a chyfleoedd newydd yn y rhanbarth.”
Ymrwymiad i dyfu’r economi a chymunedau
Yn ôl Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, mae hyn yn dangos ymrwymiad i dyfu’r economi a chymunedau.
“Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol sy’n tanlinellu ein hymrwymiad i dyfu’r economi yng Nghanolbarth Cymru,” meddai.
“Rhaid i gyllid y Llywodraeth ar gyfer y Fargen fod yn gatalydd ar gyfer ymgysylltu a buddsoddi ehangach gan randdeiliaid, gan gynnwys y sector preifat, er mwyn sicrhau newid trawsnewidiol i fusnesau a chymunedau lleol.
“Rwy’n awyddus bod ein partneriaid rhanbarthol nawr yn cynnal y cyflymder ac yn cyflwyno cynigion a all fynd i’r afael â heriau allweddol, gwneud y gorau o gryfderau Canolbarth Cymru a chyfrannu at ein gweledigaeth ar gyfer Cymru fwy ffyniannus, tecach a gwyrddach.”