Mae chwech o bobol wedi cael eu harestio yn dilyn dau dân yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli dros y penwythnos.

Roedd protestwyr wedi ymgynnull ar y safle gan ddymchwel ffensys diogelwch er mwyn cael mynediad i’r gwesty. Maen nhw’n gwrthwynebu bwriad y Swyddfa Gartref i ddefnyddio’r safle ar gyfer hyd at 240 o geiswyr lloches.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dweud bod y golygfeydd ar Fedi 30 a Hydref 1 wedi bod yn “bryderus”.

Maen nhw’n disgwyl arestio rhagor o bobol.

Dywedodd yr heddlu bod swyddogion wedi diffodd tân mewn cerbyd yng ngerddi’r gwesty yn hwyr nos Sadwrn. Cafodd dyn 48 oed o Gaerffili a dwy ddynes 53 a 52 oed o Cleveland a Peterborough eu harestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol a throseddau eraill.

Ddydd Sul, roedd nifer o feicwyr modur wedi gwthio eu ffordd drwy’r brif fynedfa er bod swyddogion yn ceisio eu rhwystro nhw. Roedd nifer fawr o brotestwyr wedi dymchwel ffensys diogelwch er mwyn cael mynediad at y gwesty. Cafodd difrod ei achosi i’r gwesty a ffenestri eu malu.

Tua 10.30pm nos Sul cafwyd adroddiadau bod tân yn y gwesty. Dywed yr heddlu bod tân gwyllt wedi cael eu taflu at swyddogion a bod protestwyr wedi ceisio rhwystro Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru rhag cyrraedd y safle. Cafodd y tân ei ddiffodd.

Cafodd dyn 40 oed a dynes 44 oed, y ddau o ardal Caerfyrddin, eu harestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol. Mae dyn 66 oed o Lanelli hefyd wedi ei arestio ar amheuaeth o geisio rhwystro’r gwasanaethau brys.

Mae swyddogion Heddlu Dyfed Powys yn parhau i adolygu’r sefyllfa.