Mae gwesty Y Talbot yn Nhregaron ymysg enillwyr Gwobrau Lletygarwch Cymru ar ôl dod i’r brig yng nghategori Gwesty’r Flwyddyn.

Roedd y gwesty’n cystadlu yn erbyn tri gwesty arall am y teitl, sef The Wild Pheasant Hotel and Spa yn Llangollen, Llety Cynin yn Sanclêr a Great House Hotel ym Mhen-y-Bont ar Ogwr.

Cafodd y dafarn a gwesty rhestredig Gradd II ei hadnewyddu gan deuluoedd Taylor a Watkin yn 2010.

Eu gweledigaeth oedd creu Tafarn Gymreig wledig wrth galon yr economi leol, yn cynnig cynnyrch lleol wedi’i wneud yn ffres a llety chwaethus a chyfforddus.

‘Diolch’

“Gwesty’r Flwyddyn – nid yn unig yn ein rhanbarth ond Cymru gyfan,” meddai’r perchnogion Dafydd a Tracy Watkin mewn neges ar Facebook.

“Diolch i bawb a bleidleisiodd, ein gwesteion gwych am eich cefnogaeth barhaus ac mae’r diolch yn fawr iawn i’n staff gwych – y tîm gorau sy’n ein gwneud yn falch bob amser.

“Llongyfarchiadau i’r holl enwebeion ac enillwyr eraill heno.”

‘Doniau rhyfeddol’

Dyma’r pumed tro i’r gwobrau gael eu cynnal ac roedd y safon yn uchel unwaith eto eleni, yn ôl llefarydd ar ran y gwobrau.

“Mae Gwobrau Lletygarwch Cymru 2023 unwaith eto wedi arddangos y doniau rhyfeddol a’r safonau eithriadol yn niwydiant lletygarwch bywiog Cymru,” meddai llefarydd ar ran Gwobrau Lletygarwch Cymru 2023.

“Mae enillwyr 2023 wedi dangos rhagoriaeth, arloesedd ac ymroddiad yn gyson yn eu categorïau priodol, gan osod y meinc ar gyfer ansawdd a gwasanaeth yn niwydiant lletygarwch Cymru.

“Rydym yn estyn ein llongyfarchiadau cynhesaf i’r holl enillwyr a’r rhai a enwebwyd ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn eu hymdrechion.”

Gwestai’r flwyddyn

Ymysg yr enillwyr eraill o’r gwestai roedd:

Gwesty ‘Botique’ y Flwyddyn: Y Kinmel Arms  (Abergele)

Gwesty Cyrchfan y Flwyddyn: Bryn Meadows Golf Hotel and Spa (Caerffili)

Gwesty Dinas y Flwyddyn: The Celtic Manor Resort (Casnewydd)

Gwesty Gwerth y Flwyddyn: Royal Ship Hotel (Dolgellau)

Gwesty Rhamantus y Flwyddyn: Gwesty’r Falcondale (Llanbedr Pont Steffan)