“Dim ond un enghraifft yn unig o fethiant ehangach i fuddsoddi yng Nghymru yw methu darparu cyfran o arian prosiect HS2 i Gymru,” meddai Mark Drakeford heddiw (dydd Mawrth, Hydref 3) yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog.
Fe atebodd y Prif Weinidog gwestiynau’n ymwneud â rheilffordd HS2 ar lawr y Siambr, yn dilyn adroddiadau fod Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, am sgrapio’r lein rhwng Birmingham a Manceinion sy’n rhan o’r cynllun saith mlynedd.
Ar hyn o bryd, mae’r prosiect yn cael ei ystyried yn un ‘Cymru-a-Lloegr’, sy’n golygu bod Cymru wedi colli allan ar arian canlyniadol o hyd at £5bn, yn ôl y mudiad YesCymru.
Dylai Cymru gael arian o wariant ar HS2 yn Lloegr pe na bai’r cyswllt rhwng Manceinion a Birmingham yn cael ei adeiladu, yn ôl y Prif Weinidog.
‘Yr achos dros sicrhau arian i Gymru yn gryfach fyth’
“Os na fydd cysylltiad y tu hwnt i Birmingham yna mae’r achos simsan dros alw hyn yn ddatblygiad Cymru a Lloegr yn cwympo’n llwyr,” meddai Mark Drakeford yn ystod y sesiwn, wrth ymateb i Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, a ddywedodd nad oedd HS2 “byth yn brosiect er budd Cymru”.
“Ac ar y pwynt hwnnw, bydd yr achos dros sicrhau arian canlyniadol i Gymru yn gryfach fyth.
“Mae Cymru eisoes wedi colli allan ar £270m o ganlyniad i gam-gategoreiddio HS2 yn y cyfnod adolygu gwariant presennol, a fydd ond yn tyfu y tu hwnt i hynny oni bai a hyd nes y bydd y cam-gategoreiddio hwn yn cael ei gywiro.
“Mae tu hwnt i unrhyw amheuaeth mai prosiect Lloegr yw hwn sy’n gwella rheilffyrdd Lloegr ar ein traul.”
“Gallai’r biliynau o gyllid canlyniadol HS2 sy’n cael eu dal yn ôl o Gymru gael effaith drawsnewidiol ar ein gwlad, gan gynnwys system drafnidiaeth.”
Galw am ail-gategoreiddio
Mae pleidiau a mudiadau wedi bod yn galw am yr un peth dros y misoedd diwethaf.
Mae YesCymru wedi ychwanegu eu llais at yr alwad i ail-gategoreiddio HS2 fel prosiect ‘Lloegr yn unig’.
Yn ôl Geraint Thomas o YesCymru, mae HS2 yn “brosiect gwastraffus, nad oedd erioed yn fuddsoddiad Cymru a Lloegr”.
“Amlygodd adroddiadau annibynnol na fyddai’r rheilffordd hon o fudd i economi Cymru, ac yn lle hynny byddai’n arwain at golled i economi Cymru pan fydd wedi’i chwblhau,” meddai.
“Mae terfynu’r llinell yn Birmingham yn rhoi diwedd ar unrhyw honiad posib y bydd unrhyw fudd o gwbl i economi Cymru neu i bobol Cymru ar ôl cwblhau’r prosiect.
“Mae’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn cael ei drin fel llinellau cangen ar rwydwaith y Deyrnas Unedig.
“Mae’n hen bryd ariannu ein rhwydwaith rheilffyrdd, ac wrth i ni yrru tuag at Gymru annibynnol mae angen newid radical yn y ffordd rydym yn cynllunio, dylunio ac ariannu ein rhwydwaith.
“Buddsoddi gan bobol Cymru yn ein rhwydwaith ni’n hun yw’r unig ffordd i sicrhau gwerth am arian, ac i atal Cymru rhag sybsideiddio prosiectau gwastraffus mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig.”