Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnig y dylid creu Cod Absenoldebau Iechyd Meddwl ar gyfer ysgolion.

Fe wnaeth Andrew RT Davies, arweinydd y blaid, godi’r syniad yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Hydref 3), a dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei bod hi’n werth ystyried y syniad.

Mae ystadegau absenoldebau ysgolion yn dangos y bu cynnydd yn nifer y disgyblion sy’n absennol yn gyson o ysgolion uwchradd ers Covid-19.

Mae hyd at 16% o fyfyrwyr yn absennol yn gyson yng Nghymru, ac mae’r ganran mor uchel â 36% ymhlith disgyblion sy’n cael cinio ysgol am ddim.

Byddai’r Cod sydd gan Andrew RT Davies dan sylw’n cynnig canllawiau i gefnogi ysgolion i fynd i’r afael ag absenoldebau, ac yn darparu cefnogaeth i bobol ifanc.

“Yng Nghymru, does gennym ni ddim Cod Absenoldebau Iechyd Meddwl, sy’n golygu bod myfyrwyr yn aml yn cael eu cosbi a’u marcio o fod yn absennol os ydyn nhw i ffwrdd am faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl,” meddai ar ôl sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Senedd.

“Rydyn ni’n gwybod bod iechyd meddwl ein pobol ifanc wedi dioddef ers Covid, felly mae’n galonogol gweld y Prif Weinidog yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried ein cynnig.

“Dylai’r tasglu fydd yn cael ei sefydlu i ddelio â hyn ymateb i’r argymhellion yn brydlon fel bod ysgolion a phobol ifanc yn cael cynnig y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.”

‘Helpu pobol i ddychwelyd i’r ysgol’

Wrth ymateb i’w gwestiwn yn y Senedd, dywedodd Mark Drakeford fod mwy o bobol ifanc yn absennol o ysgolion ers Covid dros y byd.

“Mae Llywodraeth Cymru’n cymryd cyfres o fesurau i fynd i’r afael â hynny,” meddai.

“Rydyn ni wedi buddsoddi £6.5m mewn swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, oherwydd y ffordd orau i ostwng y nifer sy’n absennol ydy gwneud yn siŵr ein bod ni’n cael sgyrsiau â theuluoedd a gwneud popeth i sicrhau eu bod nhw’n rhan o’r datrysiad i’r broblem.”

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi £2.5m ychwanegol yn y gwasanaeth llesiant addysg i fynd i’r afael ag achosion o absenoldebau cyson, ac maen nhw hefyd wedi sefydlu tasglu cenedlaethol i edrych ar absenoldeb ysgolion.

“Fy agwedd at fynychu ysgol ac agwedd y Llywodraeth yw edrych ar ffyrdd allwn ni helpu pobol i ddychwelyd i’r ysgol, yn hytrach na’u cosbi nhw, i ddechrau.

“Fodd bynnag, mae unrhyw absenoldeb o’r ysgol yn cael ei gofnodi fel absenoldeb.

“Boed hynny oherwydd salwch corfforol neu gyflwr iechyd meddwl, mae’n rhaid eu cofnodi.

“Fodd bynnag, mae’n amlwg yn werth archwilio’r syniad mae’r Aelod wedi’i godi heddiw.

“Mae codau mewn ysgolion ynglŷn â’r ffordd orau iddyn nhw ymateb i bobol ifanc sy’n cael eu rhwystro rhag mynd i’r ysgol yn sgil eu llesiant meddyliol yn barod.

“Ond dw i’n siŵr y bydd y gweinidog yn hapus i edrych ar y syniad yna a’i gyfeirio at y tasglu i’w ystyried.”