Bydd bwydydd lleol yn cael eu dosbarthu ym Mhrifysgol Bangor yn sgil partneriaeth newydd.

Drwy gydweithio rhwng y brifysgol a Chadwyn Ogwen, bydd ystod o fwydydd lleol a ffres yn cael eu darparu yno’n wythnosol.

Gan ddechrau ddiwedd y mis, bydd Cadwyn Ogwen yn ymestyn eu hwb bwyd i staff a myfyrwyr Bangor.

Wedi’i leol yn Llaethdy Gwyn ym Methesda, cartref Cosyn Cymru, mae Cadwyn Ogwen wedi bod yn gweithio gyda chynhyrchwyr bwyd a diod lleol ers 2020 fel rhan o brosiect gan Bartneriaeth Ogwen.

Y bwriad ydy ei gwneud hi’n haws i gwsmeriaid lleol brynu cynnyrch tymhorol a chynaliadwy o’r ardal.

Ar ôl canolbwyntio ar weithio yn Nyffryn Ogwen i ddechrau, ers y gwanwyn maen nhw wedi bod yn cydweithio efo Hwb Bwyd Dyffryn Nantlle i gynnig ystod ehangach o gynnyrch i gwsmeriaid yn ardal Penygroes.

‘Dathlu cynnyrch gwych’

Dywed Robin Meredydd, Rheolwr Prosiect Cadwyn Ogwen, eu bod nhw’n “gyffrous iawn” i roi’r cyfle i staff a myfyrwyr Bangor wneud y gorau o’r hyn sydd gan gynhyrchwyr lleol i’w gynnig.

“Mae cymaint ohonom eisiau gwneud y penderfyniad ymwybodol i brynu cynnyrch lleol, tymhorol ond mae ein hamserlenni prysur ond yn caniatáu taith gyflym i’r archfarchnad,” meddai.

“Bydd gweithio gyda Phrifysgol Bangor yn rhoi’r cyfle i ni hyrwyddo a dathlu’r cynnyrch gwych sydd gennym ar gael, a’n gobaith yw y bydd yn rhoi hwb i’r cynhyrchwyr rydym yn eu cefnogi drwy Gadwyn Ogwen.”

Robyn Meredydd o Gadwyn Ogwen

‘Bod yn fwy cynaliadwy’

Ychwanega’r Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor yr Iaith Gymraeg, Ymgysylltiad Dinesig a Phartneriaethau Strategol yn y brifysgol, eu bod nhw’n “hapus iawn” â’r bartneriaeth newydd.

“Mae’r berthynas yn cyfrannu at ein Cenhadaeth Ddinesig a hefyd dyheadau’r Brifysgol i fod yn fwy cynaliadwy ac i gefnogi cynhyrchwyr lleol yn ein cymunedau,” meddai.

“Mae Partneriaeth Ogwen eisoes yn aelod o’n Bwrdd Cymunedol ac rydym yn falch iawn o fedru cryfhau’r berthynas er budd ein staff, myfyrwyr a’r gymuned leol.”

Ar hyn o bryd, mae Cadwyn Ogwen yn gweithio gyda 23 o gynhyrchwyr bwyd a diod yng Ngwynedd a Môn, a gall cwsmeriaid archebu eu bwyd ar-lein cyn ei gasglu mewn sawl lle yn Nyffryn Ogwen unwaith yr wythnos.

Fel rhan o’r datblygiad newydd, bydd staff a myfyrwyr sy’n archebu bwyd yn gallu dewis Prifysgol Bangor fel man casglu.