Mae distyllfa Castell Hensol ym Mro Morgannwg wedi cael hwb ar ôl ymddangos mewn rhaglen deledu Brydeinig yn ddiweddar.
Cafodd y ddistyllfa sylw gan Alison Steadman a Larry Lamb, dau o actorion Gavin & Stacey, yn y gyfres Billericay to Barry ar UKTV Gold.
Yn ystod y daith o Essex i Gymru, cawson nhw gyfle i ymweld â’r ddistyllfa ac aeth Alison Steadman ati i greu ei jin ei hun.
Ers eu hymweliad, mae nifer y bobol sydd wedi archebu lle i fynd ar daith o amgylch y ddistyllfa wedi cynyddu gan 60% o gymharu â’r ffigurau yr un adeg y mis blaenorol.
Mae’r ddistyllfa’n rhan o Gastell Hensol, adeilad rhestredig Gradd I sydd wedi’i amgylchynu gan 650 erw o dir gwledig.
Gall ymwelwyr archebu lle ar daith o amgylch y ddistyllfa a chael cyfle i glywed mwy am hanes y lleoliad a sut mae’r busnes yn arloesi cyn rhoi cynnig ar greu eu jin eu hunain.
Mae’r ddistyllfa hefyd yn cynnig gwersi creu coctêls, ac mae modd i ymwelwyr aros dros nos yng ngwesty’r Vale drws nesaf.
“Roedd yn brofiad hyfryd cael croesawu Alison Steadman, Larry Lamb a’r criw ffilmio,” meddai Kyle Jones, prif ddistyllydd Distyllfa Castell Hensol.
“Daethon nhw â llawer o hwyl a brwdfrydedd i’n distyllfa, ac roedd hi’n bleser eu gweld nhw’n ymdrochi yn y grefft o wneud jin.
“Rydyn ni wrth ein boddau o gael sylw mewn rhaglen fydd yn cael ei gwylio gan bobol ledled y genedl.”