Wrth i Gymru baratoi i gyflwyno terfyn cyflymder o 20 m.y.a, mae Sbaen wedi gyrru neges o gefnogaeth ar ôl gwneud penderfyniad tebyg yn 2019.

Daw’r neges gan Álvaro Gómez Mendez, Pennaeth Arsyllfa Genedlaethol Diogelwch Ffyrdd Sbaen, oedd yn gyfrifol am weld Sbaen yn symud i derfyn cyflymder o 30km/h.

Ers newid y terfyn cyflymder, mae Sbaen wedi nodi 20% yn llai o farwolaethau ar ffyrdd trefol, gyda marwolaethau wedi gostwng gan 34% ar gyfer beicwyr a 24% ar gyfer cerddwyr.

Mae Álvaro Gómez wedi rhannu’r neges hon ddyddiau’n unig cyn i strydoedd Cymru sydd â therfyn cyflymder o 30m.y.a. ar hyn o bryd symud i 20m.y.a.

Daw’r newid i rym ddydd Sul (Medi 17).

‘Dod yn normal yn gyflym’

“Y prif darged i ni oedd lleihau nifer y digwyddiadau difrifol ac angheuol yn ninasoedd Sbaen,” meddai Álvaro Gómez.

“Mae wyth o bob deg marwolaeth mewn dinasoedd yn ddefnyddwyr ffyrdd bregus ac mae hyn yn cynnwys cerddwyr, beicwyr, beicwyr modur a defnyddwyr e-sgwteri.

“Mae cyflymder yn allweddol i leihau risg.

“Mae gennym boblogaeth hŷn yn Sbaen ac roeddem yn poeni am nifer y cerddwyr a gafodd eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol mewn damweiniau ffordd.

“Chawson ni ddim achosion difrifol o awdurdodau lleol yn gor-weithredu.

“Aeth popeth yn dda.

“Mae gyrwyr a defnyddwyr ffyrdd Sbaen a beicwyr a cherddwyr yn gyfforddus iawn gyda’r terfyn newydd.

“Y brif neges i bobol Cymru yw y gallwch wneud hyn.

“Bydd rhai ofnau ymlaen llaw ond ein profiad ni a phrofiad dinasoedd eraill ar draws y byd yw unwaith y caiff pethau eu gwneud, byddant yn dod yn normal yn gyflym.

“Does dim oedi mawr, does dim tagfeydd does dim cynnydd mewn llygredd.

“Mae popeth yn dod yn normal ac mae popeth yn gwella.”