Gallai canolbwyntio mwy ar ffordd o fyw a ffactorau cymdeithasol helpu i wella iechyd pobol yng Nghymru, yn ôl 32 o sefydliadau sy’n galw am sgwrs genedlaethol.
Yn ôl y grwpiau, sy’n cefnogi galwad Conffederasiwn Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, mae angen i holl adrannau Llywodraeth Cymru ystyried beth fedran nhw ei wneud i gefnogi iechyd pobol.
Wrth i natur y boblogaeth newid – a honno’n boblogaeth sy’n heneiddio – rhaid gweithredu nawr er mwyn ailddylunio gwasanaethau, meddai’r sefydliadau.
Mae’r Arolwg Cenedlaethol diweddaraf yng Nghymru’n dangos bod 13% o oedolion yn ysmygu, 17% yn yfed mwy o alcohol nag y mae’r canllawiau’n ei argymell, a dim ond 37% sydd ar bwysau iach.
Dim ond 55% o’r bobol gafodd eu holi ddywedodd eu bod nhw wedi bod yn gorfforol weithgar am o leiaf 150 munud yr wythnos flaenorol.
Mae dadansoddiadau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu bod gan dros 200,000 o bobol glefyd y siwgr, sef tua 7% o’r boblogaeth.
Pe bai’r achosion o glefyd y siwgr yn aros ar yr un lefel, byddai gan 218,000 o bobol yng Nghymru y cyflwr erbyn 2035-36.
Ond pe baen nhw’n parhau i gynyddu ar y raddfa bresennol, gallai effeithio ar ryw 260,000 o bobol.
Mae’r sefydliadau iechyd, tai a chelfyddydol yn dweud nad ydy hi’n opsiwn i bethau aros fel maen nhw ar hyn o bryd.
‘Trafodaeth fwy eang nag iechyd’
Gallai mwy o addysg ynghylch diet iach a theithio actif, a gwella mynediad at ganolfannau hamdden a mannau gwyrdd ostwng nifer yr achosion o glefyd siwgr, a lleihau’r risg o gael cyflyrau iechyd, medd yr alwad.
“Dydy gofal iechyd ond yn gyfrifol am tua 10% o iechyd poblogaeth; mae’r gweddill yn cael ei siapio gan ffactorau cymdeithasol-economaidd,” meddai Darren Hughes, cyfarwyddwr Conffederasiwn Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.
“Mewn adeg economaidd heriol, rhaid sicrhau nad ydyn ni’n gwario llai ar fesurau fyddai’n atal dirywiad iechyd gan y byddai hynny’n siŵr o arwain at gostau uwch nes ymlaen.
“Mae gwaith teg, tai, trafnidiaeth, mynediad i fannau gwyrdd, hamdden, a’r celfyddydau’n helpu ein lles.
“Dydy hyn ddim yn golygu bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dianc rhag ei gyfrifoldebau – mae arweinwyr y gwasanaeth Iechyd yn gwybod bod yna lawer i’w wneud er mwyn gwella gwasanaethau.
“Ond rydyn ni’n cydnabod bod y drafodaeth yn fwy eang na’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac iechyd, ond ei bod hi’n sgwrs ynglŷn â beth all pob unigolyn, sefydliad, sector ac adran yn y llywodraeth wneud i wella’n siawns o fyw bywydau iach.”
‘Ymrwymiadau gan bob gweinidog’
Ymhlith y 32 o sefydliadau sydd wedi dangos eu cefnogaeth i sgwrs genedlaethol mae Macmillan, Cymdeithas Chwaraeon Cymru, Age Cymru, Anabledd Dysgu Cymru, a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Dywed cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru fod y pandemig wedi dangos pa mor angenrheidiol yw’r celfyddydau i iechyd a llesiant pobol.
“Wrth i Bresgripsiynau Cymdeithasol ddechrau cysylltu pobol gyda chefnogaeth leol a chymryd pwysau oddi ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae’r sector celfyddydol yng Nghymru’n barod i sicrhau bod ein hasedau diwylliannol cymunedol yn rhan greiddiol o’r cynnig a’r agenda ehangach i atal iechyd pobol rhag dirywio,” meddai Maggie Russell.
Ychwanega Dr Hilary Williams, is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru, na all y Gwasanaeth Iechyd Gwladol fynd i’r afael â thlodi.
“Fedrith y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ddim cymryd cyfrifoldeb dros wella tai, ansawdd aer, cysylltiadau trafnidiaeth, addysg na’r economi,” meddai.
“Dyna pam fod Coleg Brenhinol y Meddygon yn galw am gynllun trawslywodraethol i fynd i’r afael ag anghyfiawnderau yng Nghymru, un sy’n arwain at ymrwymiadau gan bob gweinidog yn Llywodraeth Cymru ac yn sicrhau ein bod ni’n gweithio tuag at nod cyffredin: gwella iechyd, cyfoeth a llesiant pawb yng Nghymru.”
‘Angen newid’
Wrth ymateb i’r galwadau, dywed Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, fod angen “i ni dderbyn bod y system iechyd a gofal cymdeithasol angen newid er mwyn sicrhau ei bod hi’n cwrdd â gofynion cenedlaethau’r dyfodol”.
“Mae’r gofynion ar ein system yn golygu y bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar ei ffurf bresennol yn dod yn anghynaladwy, ac os ydyn ni eisiau parhau i ddarparu gofal am ddim pan fo’i angen rhaid i ni gofyn rhai cwestiynau anodd i’n hunain ac i’r cyhoedd o ran sut ydyn ni’n fodlon addasu i’r pwysau parhaus,” meddai.
“Er mwyn amddiffyn dyfodol ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gallwn weithredu i edrych ar ôl ein hunain a’r rhai rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw.
“Rhaid i ni wneud hyn er mwyn mynd i’r afael ag afiechyd y gellir eu hatal a lleihau’r baich ar ein gwasanaethau.”