Cafodd dathliad ‘Un iaith, sawl acen’ ei gynnal ar Ddiwrnod Cenedlaethol Catalwnia ddoe (dydd Llun, Medi 11).
Nod y diwrnod eleni oedd dangos sut mae amrywiaeth yr iaith yn uno gwahanol ddiwylliannau yn y wlad.
Dechreuodd y dathliadau ger cofeb ‘Quatre Columnes’ gan Josep Puig i Cadafalch ar fryn Montjuïc yn Barcelona, lle daeth tua dwsin o artistiaid ynghyd, gan gynnwys nifer o gantorion adnabyddus.
Roedd y perfformiadau’n gyfuniad o gerddoriaeth, iaith arwyddion a mapiau gweledol yn dangos ym mle mae pobol yn defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd.
Fel rhan o’r sioe, roedd eglurhad ynghylch y defnydd o’r iaith ar draws gwahanol rannau o Gatalwnia, Valencia, yr Ynysoedd Balearaidd ac ardal yn hen Ogledd Catalwnia sydd bellach yn rhan o Ffrainc.
Daeth y digwyddiad oriau’n unig ar ôl i filoedd o brotestwyr ymgynnull yng nghanol dinas Barcelona.
Yn wahanol i’r llynedd, pan gadwodd yr Arlywydd draw o’r digwyddiad am resymau gwleidyddol, roedd Pere Aragonès yno eleni.
Cofio Rafael Casanova
Fe wnaeth sefydliadau a phleidiau gwleidyddol Catalwnia ddechrau’r diwrnod, neu ‘La Diada de Catalunya’, eleni drwy gofio Rafael Casanova ger ei gofeb yn Barcelona.
Casanova oedd prif gynghorydd Barcelona yn ystod Rhyfel Olyniaeth Sbaen yn 1714, ac fe fu farw yn y frwydr wrth geisio amddiffyn y ddinas, gan ddod yn symbol o’r frwydr tros annibyniaeth i Gatalwnia ers hynny.
Fe fu gwleidyddion, gan gynnwys yr arlywydd Pere Aragonès, ynghyd â phrifysgolion, diffoddwyr tân a nifer o dimau pêl-droed Catalwnia, yn gosod blodau ger y gofeb.
Mae gwleidyddion wedi bod yn pwysleisio’r angen i ddod â’r anghydfod rhwng Sbaen a Chatalwnia i ben er mwyn symud ymlaen mewn modd adeiladol i drafod dyfodol Catalwnia fel gwlad allai ennill ei hannibyniaeth maes o law trwy refferendwm.
Mae pleidiau annibyniaeth wedi dod yn bwysicach fyth ers yr etholiad cyffredinol yn Sbaen yn ddiweddar, arweiniodd at senedd grog.
Tra bod nifer o bleidiau wedi manteisio ar y diwrnod i ddatgan eu safbwynt ar annibyniaeth, cadwodd eraill draw o’r dathliadau’n gyfangwbl – yn eu plith roedd CUP, Plaid y Bobol, Ciutadans a Vox.
Mae rhai pleidiau o’r farn hefyd mai Ebrill 23 yw Diwrnod Cenedlaethol Catalwnia, sef Diwrnod Sant Jordi, ac nid Medi 11 – yn ôl rhai, diwrnod i genedlaetholwyr yn unig yw hwn.