Fydd Pere Aragonès, arlywydd Catalwnia, ddim yn mynd i’r orymdaith flynyddol tros annibyniaeth ar Ddiwrnod Cenedlaethol Catalwnia yr wythnos nesaf (Medi 11).
Mae Asiantaeth Newyddion Catalwnia yn dweud bod yr arweinydd yn gwrthod mynd gan fod yr orymdaith yn un “yn erbyn pleidiau [o blaid annibyniaeth] ac nid yn erbyn Sbaen”.
Assemblea Nacional Catalana sy’n cynnal y digwyddiad, ac maen nhw’n gwrthwynebu dulliau’r arlywydd o geisio sicrhau annibyniaeth, gan flaenoriaethau trafodaethau â Sbaen er mwyn ceisio sicrhau refferendwm drwy ganiatâd y llywodraeth ym Madrid.
Yn ôl Dolors Feliu, llywydd yr ANC, dydy mwyafrif yn y siambr “ddim yn ddigon” o drywydd i allu sicrhau annibyniaeth.
“Allwn ni ddim ymddiried yn y pleidiau i wneud y gwaith ac, am y rheswm yma, rydym yn benderfynol o’i wneud e gyda’r bobol,” meddai.
Ychydig oriau cyn cyhoeddiad Pere Aragonès, dywedodd Dolors Feliu y byddai gwrthod mynd i’r orymdaith yn arwydd nad yw’r arweinydd eisiau bod yn rhan o’r ymgyrch dros annibyniaeth.