Mae pryderon ynghylch nifer y plant dan 18 oed gafodd eu derbyn i’r ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn ystod y tri mis hyd at fis Gorffennaf.

Cafodd 49 eu derbyn o dan Adran 135 ac Adran 136 y Ddeddf yn ystod y cyfnod hwnnw, sy’n gynnydd o 63% o’i gymharu â’r tri mis blaenorol.

Roedd 11 ohonyn nhw o dan 16 oed, a 38 ohonyn nhw’n 16 neu’n 17 oed.

Ar y cyfan, mae nifer y bobol, gan gynnwys oedolion, sydd wedi’u derbyn o dan y ddeddf wedi codi 12% i 517 o’i gymharu â thri mis cynta’r flwyddyn.

Ystadegau

Yn ystod y chwarter hyd at fis Mehefin eleni, roedd 21 o dderbyniadau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl (Adran 135), a 496 o dderbyniadau o dan Adran 136 yng Nghymru.

Dynion oedd y rhan fwyaf o’r rhai gafodd eu derbyn, ac roedd 90.5% o’r rhai gafodd eu derbyn yn 18 oed neu’n hŷn.

Cafodd 66.3% o’r rhai gafodd eu derbyn o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl wedi’u cludo i ganolfan iechyd ddiogel, a fan yr heddlu oedd y cerbyd mwyaf cyffredin o’u cludo nhw yno.

Cafodd wyth o bobol eu cludo i orsaf yr heddlu fel lle diogel – doedd yna’r un yn y tri mis hyd at fis Mawrth.

Cafodd 32% eu cludo i uned frys ysbyty, o’i gymharu â 28% yn y chwarter blaenorol – ond fe gododd y ffigwr i 49% yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, i 34% yn ardal Betsi Cadwaladr, ac i 35% yn ardal Bae Abertawe.

Yn dilyn asesiad, cafodd 45.8% o’r rhai gafodd eu derbyn o dan y ddeddf eu rhyddhau gyda chynllun gofal iechyd meddwl yn y gymuned.

Cafodd 23% eu derbyn i’r ysbyty o dan y ddeddf ar sail asesiad.

‘Torcalonnus’

“Mae’n drist gweld fod dros 500 o bobol wedi’u hanfon i’r ysbyty iechyd meddwl yn ystod y tri mis diwethaf, ac mae’n dorcalonnus fod nifer sylweddol o’r rhain o dan 18 oed,” meddai James Evans, llefarydd iechyd meddwl y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae iechyd meddwl wedi bod yn uchel ar yr agenda wleidyddol ers nifer o flynyddoedd bellach, a dylem fod yn gweld llai o bobol wedi cyrraedd argyfwng.

“Rwy’n credu bod angen i ni glywed esboniad gan y Llywodraeth Lafur ynghylch pam fod hyn yn digwydd a pha ffactorau sy’n ei yrru, fel y gallwn ni adnabod yr atebion gorau.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydym wedi ymrwymo £50m ychwanegol yn 2022-23 i wella iechyd meddwl a lles,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae’r buddsoddiad hwn yn cynnwys gwella gofal argyfwng, darparu dewisiadau amgen i’w derbyn a chyflwyno ‘pwyso 2’ am gyngor iechyd meddwl ar frys wrth ffonio 111.

“Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys yr heddlu, er mwyn gwella’r ymateb aml-asiantaeth i ofal argyfwng.”