Bydd pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Penfro yn trafod yr wythnos nesaf a fydd pum caban gwyliau’n gallu cael eu hadeiladu yn Llandysilio.

Mae disgwyl i’r cais ar gyfer llety gwyliau hunanarlwyo yn Three Wells gael ei drafod yng nghyfarfod y pwyllgor cynllunio ddydd Mawrth (Medi 6), wrth i swyddogion y Cyngor argymell gwrthod y cais.

Mae’r ffaith fod lleoliad y cais mewn ardal o “arwyddocâd archaeolegol posib”, a’r tu allan i’r ffiniau aneddiad ymhlith y rhesymau sydd wedi’u rhoi ynghylch yr argymhelliad, ynghyd â draenio gwastraff a’r effaith ar ddyfroedd lleol.

Byddai’r cabanau arfaethedig wedi’u gosod ar seiliau concrid, ac wedi’u lleol yn ardal ddeheuol y safle, a byddai angen llwybr mynediad, ac fe fyddai’n cynnwys mannau i fyw gyda chyfleusterau cegin, ystafell wely, ystafell ymolchi a decin a chyntedd wedi’i gysgodi.

Mae adroddiad i’r pwyllgor yn nodi bod “ffosydd Neolithig” posib a llwybr wedi’i gysylltu â Phen-cnwc yn mynd trwy safle’r datblygiad, a fyddai o arwyddocâd cenedlaethol pe bai’n cael ei gadarnhau.

Ychwanega’r adroddiad: “Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed wedi argymell fod angen gwerthusiad archaeolegol, gan ddechrau gydag arolwg, gyda’r adroddiad sy’n deillio o hynny’n cael ei ddarparu cyn penderfynu ar y cais cynllunio, a bod y canlyniadau’n cael eu defnyddio i benderfynu’r angen, os oes yna angen, am liniaru pellach.”

Bydd cynghorwyr Cyngor Sir Penfro yn trafod y cynllun yr wythnos nesaf, ac fe fydd modd gwylio’r cyfarfod, sy’n dechrau am 10 o’r gloch y bore, ar y we.