Mae gan rieni disgyblion sy’n teithio i’r ysgol ym Mangor bryderon am ddiogelwch gan fod y bysiau cynnar yn “orlawn”.

Ers i’r gwasanaeth rhwng Caernarfon a Bangor gael ei gwtogi, mae plant un ddynes o’r dref yn gorfod mynd ar fws sy’n cyrraedd y ddinas tua awr yn gynnar, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw’n cael sedd.

Yn ôl Llywela Wharton, sy’n anfon ei phlant i Ysgol Friars ym Mangor o Gaernarfon, mae Cyngor Gwynedd wedi dweud wrthi mai rhieni fel hi “ydy tamaid o’r broblem” achos eu bod nhw’n dewis anfon eu plant i ysgol y tu allan i’w dalgylch.

Ysgol Friars ydy’r unig ysgol yng Ngwynedd sy’n dysgu’n bennaf drwy gyfrwng y Saesneg, ac mae hi’n tueddu i ddenu plant tu hwnt i Fangor.

Yn y cyfamser, mae teithiwr arall sy’n defnyddio’r gwasanaeth TrawsCymru rhwng Porthmadog a Chaernarfon bob bore yn ystod yr wythnos yn dweud ei fod yn “orlawn” a’i bod hi’n “amlwg yn sefyllfa beryglus”.

‘Lle mae’r iechyd a diogelwch?’

Pan ddewisodd Llywela Wharton anfon ei merch i Ysgol Friars, roedd digon o fysiau rhwng Caernarfon a Bangor, a digon o le arnyn nhw, meddai.

Cafodd dau fws 5A eu cyflwyno yn ystod cyfnod Covid-19 – un i’r cyhoedd ac un i blant gael mynd i’r ysgol.

“Roedd y bws 5A yn llawn adeg hynny efo dau fws yn mynd, wedyn dechrau’r flwyddyn ysgol ddiwethaf fe wnaethon nhw gael gwared ar un bws 5A, oedd yn golygu bod y plant i gyd yn gwasgu ar y 5A oedd ar ôl,” meddai Llywela Wharton wrth golwg360, gan ychwanegu bod plant sy’n mynd i Ysgol Tryfan, y cyhoedd a myfyrwyr coleg yn cael eu heffeithio hefyd.

“Fis Medi yma, maen nhw wedi tynnu’r 5A yn llwyr.

“Mae yna lwyth [o rieni yn y sefyllfa], mae fy mhlant rŵan yn gorfod dal bws 7:50 yn y bore, sy’n meddwl eu bod nhw’n hongian rownd Bangor jyst er mwyn iddyn nhw gael sêt.

“Dw i’n poeni am les y plant yma, ac mae gen ti bobol vulnerable eraill sy’n sefyll ar y bws yma.

“Be’ os fysa yna ddamwain? Rydyn ni newydd gael y ddamwain yna yn ne Cymru, faint o blant fysa’n cael eu brifo?

“Lle mae’r iechyd a diogelwch yn hyn i gyd?

“A’r gyrwyr bws sy’n gorfod penderfynu os ydyn nhw’n mynd i dderbyn plant ar y bws ’ta mynd â Joe Bloggs sydd angen mynd i’w gwaith.

“Dydy o ddim yn deg ar neb.”

‘Ddim yn joban rhad’

Gan eu bod nhw’n mynd i ysgol tu allan i’w dalgylch, dydy’r disgyblion ddim yn cael gostyngiad ar y bws, ac felly maen nhw’n talu fel unrhyw un arall.

Gyda dau o blant yn mynd i Ysgol Friars bum niwrnod yr wythnos, mae teulu Llywela Wharton yn talu tua £21 yr wythnos am drafnidiaeth.

“Rydyn ni’n talu am y bysus yma fel rhieni, dydyn ni ddim yn cael gostyngiad. Dydy hi ddim yn joban rhad.

“Os ’na ni fel rhieni sy’n gyrru eu plant allan o’r dalgylch ydy’r broblem neu ddim, mae’r angen yna.

“Dw i’n trio gwneud fy ngorau ar gyfer fy mhlant; yn amlwg mae pawb yn gweld pethau’n wahanol.

“Mae gennym ni hawl i ddewis lle mae’n plant ni’n mynd, siawns, ac rydyn ni’n talu am y bws yma.

“Tasa nhw ddim yn gwneud pres allan ohonon ni, iawn, ond maen nhw yn gwneud pres allan ohonon ni.”

Pwysleisiodd Llywela Wharton bod Ysgol Friars wedi bod yn helpu a cheisio mynd i’r afael â’r sefyllfa.

‘Gorlawn’

Y T2 yn llawn rhwng Porthmadog a Chaernarfon

Mae’r bws yn orlawn cyn cyrraedd Caernarfon, medd teithiwr arall sy’n defnyddio’r T2, sy’n cael ei redeg gan Lloyds Coaches bob dydd rhwng Porthmadog a Chaernarfon.

“Mae Lloyds Coaches sydd yn rhedeg y gwasanaeth T2 TrawsCymru yn rhoi bws mor fach ar eu siwrne gynnar bore,” meddai’r teithiwr sydd eisiau aros yn ddienw wrth golwg360.

“Mae yna gymaint o blant ysgol Ysgol Friars sydd yn dod ymlaen ym Mhorthmadog, mae’r bws yn mynd yn orlawn.

“Mae’r sefyllfa hon wedi para am dros flwyddyn nawr, ac nid oes dim wedi digwydd gan y cwmni bws na’r Cyngor.

“Mae hi wedi dod yn amlwg ei bod hi’n beryglus iawn ar y bws hwn, oherwydd mae pobol wael neu hŷn ac ati yn cael eu rhwystro rhag cael seddi oherwydd bod y plant ysgol yn eu cymryd.

“Dydy rhai pobol ar y bws ddim yn gallu dal ar yr handles, ac oherwydd y cyflymder mae’r bws yn mynd ar lonydd 60m.y.a., mae’n anodd eu dal.”

Dywed fod y bysiau wedi bod yn orlawn yn y boreau ers 2018, ond eu bod nhw’n ymwybodol fod Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno bws arall, y C4, ers ddoe (dydd Llun, Medi 11) rhwng Penygroes a Chaernarfon.

Yn ôl y teithiwr, mae’r sefyllfa ar ei gwaethaf gyda’r bws cynnar sy’n gadael Porthmadog am 7:15yb, ac mae hi mor brysur bob diwrnod ag y mae’r llun yn ei ddangos, meddai.

‘Ymwybodol o’r sefyllfa’

Fis yma ddechreuodd cytundeb Lloyds Coaches gyda Thrafnidiaeth i redeg y bws, a dywedon nhw mai’r nifer o seddau sydd i fod ar y cytundeb yw 37 a’u bod nhw’n ei redeg yn unol â’r cytundeb.

“Rydym yn ymwybodol o’r sefyllfa ac rydym wedi cysylltu gyda’r Cyngor a Thrafnidiaeth Cymru i dynnu eu sylw at y mater,” meddai llefarydd ar ran Lloyds Coaches.

Ychwanegodd bod lle i 61 ar y bws sydd wedi bod yn gwneud y daith gynnar ers dechrau’r wythnos, gan gynnwys teithwyr sy’n sefyll.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Gwynedd.