Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu’r cynnydd sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Medi 12) yn nifer yr ymwelwyr â Chymru o wledydd eraill y Deyrnas Unedig.
Yn ôl Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog Twristiaeth Llywodraeth Cymru, mae’r ffigurau’n “rhoi darlun o arhosiadau dros nos yng Nghymru o farchnad gartref y Deyrnas Unedig – sef y brif ffynhonnell o ymwelwyr â Chymru”.
Rhwng Ebrill a Rhagfyr 2021 a 2022, roedd cynnydd o 13% yn nifer y teithiau i Gymru, a chynnydd o 35% mewn gwariant yn ystod yr un cyfnod yn 2022.
Yn ôl Dawn Bowden, mae “arwyddion addawol” i’w gweld yn y rhagolygon ar gyfer y cyfnod rhwng Ionawr a Mawrth eleni, pan oedd cyfanswm o 1.74m o deithiau a gwariant o £341m yng Nghymru gan ymwelwyr o wledydd eraill y Deyrnas Unedig.
Mae’n beth “positif”, meddai fod cynnydd o 4% yn nifer y teithiau i Gymru o wledydd eraill y Deyrnas Unedig, a gwariant 35% yn uwch yn ystod y cyfnod.
“Mae’n galonogol gweld y canlyniadau hyn, ac rydym yn gobeithio y bydd y tuedd positif yn parhau,” meddai.
“Mae ymwelwyr domestig dros nos wedi chwarae rôl bwysig iawn erioed yn economi ymwelwyr Cymru, gyda thros 90% o ymwelwyr yn dod oddi mewn i Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig.”
Dywed fod Croeso Cymru wedi ymrymo i “farchnata ystwyth, wedi’i harwain gan fewnwelediadau cwsmeriaid a thynnu sylw at ddiwylliant, tirweddau a chynigion antur unigryw Cymru”.
“Eleni, mae hynny’n cynnwys manteisio ar gyfleoedd yn rhyngwladol i elwa ar fwy o ymwybyddiaeth o Wrecsam ac felly o Gymru, yn ogystal ag arddangos dyfnder ac ehangder y profiadau sydd ar gael yn ddomestig i ymwelwyr a thrigolion Cymru,” meddai.
Treth dwristiaeth
Yn y cyfamser, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb i adroddiadau bod disgwyl i ddinas Venezia yn yr Eidal gymeradwyo treth dwristiaeth o bum Ewro.
Yn ôl y llefarydd twristiaeth Tom Giffard, mae’n ymuno â “rhestr hir o ddinasoedd sy’n cyflwyno trethi twristiaeth er mwyn troi ymwelwyr i ffwrdd”, gan ychwanegu bod y dreth dwristiaeth yn “wenwynig”.
“Does dim croeso i’w cynlluniau, yn enwedig ar adeg pan fo Llafur eisoes yn bwrw Cymru â cyfyngiadau 20m.y.a. cyffredinol fydd yn niweidio economi Cymru o hyd at £9bn, a rheoliadau 182 diwrnod niweidiol sy’n gyrru darparwyr llety hunanarlwyo allan o fusnes,” meddai.
“Efallai mai obsesiwn y Llywodraeth Lafur â threthu’r diwydiant twristiaeth er mwyn lleihau nifer yr ymwelwyr, yn hytrach na datblygu’r sector twristiaeth, yw’r dull cywir ar gyfer Venezia, ond mae’n sicr yn ddull anghywir i Gymru.”
Yn ôl Llywodraeth Cymru, nod y rheoliadau 182 diwrnod yw “helpu i ddatblygu marchnad dai decach ac i sicrhau bod perchnogion eiddo’n gwneud cyfraniad teg i’r cymunedau lle maen nhw’n berchen cartrefi neu’n rhedeg busnesau”.
“Rydym hefyd wedi diweddaru ein canllawiau i gadarnhau bod gan awdurdodau lleol bwerau trwy ddisgresiwn i leihau neu ddileu’r gofyniad i dalu premiwm neu gyfradd safonol treth y cyngor os nad yw’r trothwy 182 diwrnod newydd yn cael ei fodloni,” meddai’r Llywodraeth ar y mater hwnnw.
Tâl bach i’w dalu gan bobol sy’n aros dros nos mewn llety yng Nghymru fyddai’r ardoll, medd Llywodraeth Cymru.
❝ Sicrhau twristiaeth gynaliadwy a theg
Rheol 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau “yn achosi pryderon ledled Cymru”
❝ Colofn Huw Prys: Llywodraeth Cymru’n llusgo traed gyda’r dreth dwristiaid?