Mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, yn dweud bod Llafur a’r Ceidwadwyr yn “poeni mwy am ymladd gyda’i gilydd nag ymladd dros Gymru”.
Daeth ei sylwadau wrth siarad heddiw (dydd Mawrth, Medi 12) yn ystod y sesiwn gyntaf o gwestiynau i’r Prif Weinidog ers cyn y toriad ar gyfer yr haf.
Cyhuddodd e’r llywodraethau Ceidwadol a Llafur o beidio â gweithredu er budd Cymru, a’r Prif Weinidog Mark Drakeford o anallu wrth ddarbwyllo Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur yn San Steffan, ynghylch pwysigrwydd cyllid teg i Gymru, sydd yn awgrymu na fydd unrhyw Lywodraeth Lafur yn San Steffan yn y dyfodol ddim ond yn cynnig “mwy o’r un peth”.
Cyllid teg i Gymru
Yn y sesiwn, gofynnodd Rhun ap Iorwerth a allai’r Prif Weinidog addo y byddai Syr Keir Stamer yn gallu gwireddu dymuniadau Mark Drakeford i gael cyllid teg i Gymru.
“Mae’n ymddangos bod Keir Starmer wedi ymrwymo i wneud beth bynnag sydd ei angen i gael i mewn i Downing Street, ond beth am yr ymrwymiad i Gymru?” meddai.
“Does dim ymrywmiad i roi cyfran deg Cymru o £6bn o gyllid HS2 a’r Northern Powerhouse; dim ymrwymiad i ddadwneud y toriad mewn termau real yng nghyflog y sector cyhoeddus, a hynny er i Brif Weinidog Llafur Cymru ddweud ei fod eisiau’r ddau.
“Nawr, ar ôl yr ad-drefnu’r wythnos ddiwethaf, mae gan bron i 90% o Aelodau Seneddol Llafur yng Nghymru swyddi gweinidogol cysgodol, felly ar ôl blynyddoedd o’r Ceidwadwyr yn siomi Cymru, a all y Prif Weinidog nawr addo, ar HS2 ac ar gyflog y sector cyhoeddus, y bydd Keir Starmer nawr yn cyflawni ei ddymuniadau fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru?”
Ddim yn “addewidion i mi eu gwneud”
“Wel, mae arweinydd Plaid Cymru yn gwybod yn iawn nad yw’r rheini’n addewidion i mi eu gwneud,” meddai Mark Drakeford wrth ymateb.
“Yr hyn y mae’n brysur yn ei wneud – gadewch i ni fod yn glir am y naratif gwleidyddol y mae’n ceisio ei adeiladu yma – yn ceisio perswadio pobol bod Llywodraeth Lafur, sydd heb hyd yn oed eto wedi ei hethol ac a fydd ond yn cael ei hethol oherwydd ymdrechion pobol yr ochr hon i’r Siambr ac yn sicr nid ymdrechion y bydd byth yn cyfrannu atyn nhw, bod y Llywodraeth Lafur honno nad ydym hyd yn oed wedi’i hethol wedi eu siomi’n barod.
“Dyna ei ymgais.
“‘Bydd Llafur yn eich siomi’— dyna’r naratif mae’n ceisio ei gynhyrchu.
“Bydd pobol yng Nghymru yn deall yn yr etholiad mai’r brif dasg o’n blaenau fydd ethol y Llywodraeth Lafur honno a’r rhagolygon gwahanol iawn ar gyfer y dyfodol a ddaw yn ei sgil.”
‘Mwy o’r un peth’ os bydd Starmer yn etifeddu’r allweddi i Downing Street
“Roedd tymor newydd y Senedd yn gyfle perffaith i’r Prif Weinidog roi ymrwymiad pendant y byddai bywydau pobol Cymru yn gwella, pe bai llywodraeth Lafur yn cael ei hethol yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf,” meddai Rhun ap Iorwerth ar ôl y sesiwn.
“Yn anffodus, mae’n ymddangos nad yw’r Prif Weinidog a Keir Starmer wedi siarad dros yr haf, neu os ydyn nhw wedi – dyw arweinydd y blaid Lafur ddim yn gwrando.
“Yn wyneb penderfyniadau trychinebus Torïaidd – dyma’r cyfle i Lafur ymrwymo i ariannu Cymru’n deg.
“Rydyn ni’n gwybod na fydd y Ceidwadwyr, roedden ni’n gobeithio y byddai Llafur.
“Mae ymrwymiad i roi ei chyfran o £6bn i Gymru o gyllid rheilffordd HS2 a Northern Powerhouse, a dadwneud y toriadau niweidiol i gyllideb Cymru nid yn unig yn rheidrwydd ariannol ond mae hefyd yn ddyletswydd foesol.
“Yn yr un modd mae’r amwysedd ynghylch a fydd arian newydd yn cael ei ganfod i ariannu codiadau cyflog teg yn y sector cyhoeddus yn awgrymu dull ‘Mwy o’r Un Peth’ os yw Keir Starmer yn etifeddu’r allweddi i Downing Street.
“Mae angen meddwl newydd ar Gymru i leihau anghydraddoldeb, diogelu bywoliaeth a hybu’r economi a nawr, yn fwy nag erioed, mae pobol yn chwilio am wleidyddion fydd yn brwydro dros Gymru.”