Bydd penderfyniad ar ddyfodol safle glo brig yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei wneud yr wythnos hon.

Ddydd Iau (Medi 14), bydd cynghorwyr yno’n penderfynu a ydyn nhw am gefnogi argymhelliad gan swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin i wrthod cais i gloddio mwy yng Nglan Lash.

Pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo, byddai hyd at 95,000 tunnell arall o lo’n cael ei gloddio o’r pwll.

Mae swyddogion y cyngor wedi argymell gwrthod y cynlluniau am resymau amgylcheddol, gan ddweud y byddai ehangu’r pwll yn bygwth ecoleg a bywyd gwyllt yn yr ardal, yn enwedig Ardal Gadwraeth Arbennig Caeau Mynydd Mawr.

Er na fyddai’r glo’n cael ei losgi, yn ôl datblygwr y safle byddai cloddio am lo yn rhyddhau methan i’r awyr a does yna ddim byd yn ei le i atal rhywun rhag newid defnydd y glo ar ôl cael caniatâd i’w gloddio.

‘Argyfwng natur’

Bydd ymgyrchwyr amgylcheddol yn cyfarfod tu allan i Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin cyn y cyfarfod er mwyn dangos eu gwrthwynebiad ac i alw am ddiwedd ar gloddio am danwydd ffosil yng Nghymru.

Mae dros 600 o bobol wedi ysgrifennu at y Cyngor yn datgan eu gwrthwynebiad hefyd.

Dywed Magnus Gallie, arbenigwr cynllunio gyda Chyfeillion y Ddaear, eu bod nhw’n annog cynghorwyr i ddilyn cyngor y swyddogion a gwrthod y cais.

“Mae gennym ni argyfwng natur, ynghyd ag un hinsawdd,” meddai.

“Fel mae adroddiad yr ecolegydd yn ddweud yn glir, byddai cloddio am y glo yn fygythiad difrifol i fywyd gwyllt a bioamrywiaeth yng Nghaerfyrddin.

“Fydd cenedlaethau’r dyfodol ddim yn diolch i ni os ydyn ni’n caniatáu i goed gael eu codi, i gynefinoedd gael eu difetha ac i loÿnnod byw prin gael eu peryglu.

“Byddai’r rhan fwyaf o’r glo’n cael ei ddefnyddio ar gyfer hidlo dŵr, medden nhw.

“Ond mae cloddio am lo yn ddinistriol, hyd yn oed os nad yw’n cael ei losgi, oherwydd mae’n ychwanegu at y cyflenwad byd-eang ac yn rhyddhau mwy o fethan niweidiol.

“Fedrwn ni chwaith ddim bod yn sicr na fydd y glo yma’n cael ei losgi.”

‘Cenedl gyfrifol’

Mae polisi Llywodraeth Cymru’n gwahardd rhoi caniatâd neu drwydded i lofeydd newydd oni bai bod “sefyllfaoedd cwbl eithriadol”.

Yn ôl Magnus Gallie, gan fod ffyrdd eraill o hidlo dŵr yn barod, dydy’r cais ddim yn cwrdd â’r gofynion hynny.

“Mae hi’n hollbwysig bod cynghorwyr yn gwneud y penderfyniad iawn ac yn gyrru neges gref bod Cymru’n genedl gyfrifol,” meddai.

Daw’r penderfyniad wedi i berchnogion safle glo brig ym Merthyr Tudful ddweud eu bod nhw’n bwriadu cau ar Dachwedd 30 eleni.

Daeth caniatâd cynllunio ar gyfer Ffos-y-fran i ben fis Medi’r llynedd, ond mae’r gwaith wedi parhau yno er hynny.

Ddiwedd mis Mehefin, fe dderbyniodd y perchnogion orchymyn terfynol gan Gyngor Merthyr i roi’r gorau i’r gwaith o fewn 28 diwrnod, cyn i’r cwmni gyflwyno apêl newydd.

Roedd ymgyrchwyr newid hinsawdd wedi cyflwyno cais am adolygiad barnwrol i’r Uchel Lys wrth i’r dadlau am y safle barhau, ond fe wnaeth cwmni Merthyr (South Wales) Ltd dro pedol a chyhoeddi eu bod nhw am gau’r safle fis diwethaf.