Bydd cynghorwyr yn cael clywed sut mae Blaenau Gwent yn ymateb i stŵr gan Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg.
Yng nghyfarfod Pwyllgor Craffu ar Berfformiad a Throsolwg Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ddydd Iau (Medi 14), bydd cynghorwyr yn cael gwybod am bolisi newydd i wella’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y Cyngor.
Daw hyn yn dilyn dyfarniad gan y Comisiynydd y llynedd fod y Cyngor yn methu â chydymffurfio â safonau cyfreithiol gafodd eu gosod ym Mesur y Gymraeg 2011.
Diben y Safonau yw sicrhau bod cyrff cyhoeddus megis Cyngor Blaenau Gwent yn cydymffurfio â’u dyletswydd gyfreithiol i beidio trin y Gymraeg yn “llai ffafriol” na’r Saesneg.
Prif nod statudol y Comisiynydd yw hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, a bod modd ei defnyddio mewn bywyd o ddydd i ddydd.
Safon 98
Yn ei hadroddiad, eglurodd Sarah King, y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau, fod y Cyngor wedi derbyn “Hysbysiad Cydymffurfio” gan y Comisiynydd am fethu â chydymffurfio â safon 98.
“Mae Safon 98 yn gosod y gofyniad i gynhyrchu polisi ar y defnydd o’r Gymraeg yn fewnol at ddiben hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, sy’n rhaid ei gyhoeddi ar y fewnrwyd (gwefan fewnol) hefyd,” meddai.
“Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn ateb y gofyniad hwn, mae Polisi drafft Cymraeg yn y Gweithle wedi cael ei ddatblygu, gan roi ystyriaeth i ganllawiau gan y Comisiynydd yn ogystal ag ystyriaeth i arfer dda gan gyrff cyhoeddus eraill o dan yr un ddyletswydd.”
Pwrpas y polisi drafft newydd yw:
- “Annog agwedd bositif tuag at yr iaith Gymraeg sy’n cofleidio diwylliant Cymtaeg â balchder a pharch”
- “Cynyddu nifer y staff sydd â sgiliau Cymraeg drwy gynnig cyfleoedd i weithwyr ddysgu neu wella eu gallu ieithyddol”
- “Sicrhau bod Mesur y Gymraeg 2011 yn cael ei gynnal ar draws y sefydliad
Bydd y polisi’n berthnasol i’r holl staff, gwirfoddolwyr a chynghorwyr.
Mae’r polisi hefyd yn cwmpasu’r angen am hyfforddiant iaith Gymraeg, yn ogystal â chyfeirio staff newydd i le mae modd cael hyd i fanylion am ganllawiau ieithyddol yn fewnol.
Mae hyn yn cynnwys dod o hyd i ymadroddion defnyddiol, cyfarchion dwyieithog a geiriau allweddol, yn ogystal â thempledau swyddfa i’w defnyddio ar gyfer y fath bethau â negeseuon ‘Allan o’r Swyddfa’.
Ymchwiliad
Mae’r polisi drafft Cymraeg yn y Gweithle yn dilyn ymchwiliad i’r defnydd o’r Gymraeg gan Flaenau Gwent dros yn agos i ddwy flynedd.
Fis Tachwedd 2021, roedd cwynion nad oedd Blaenau Gwent yn cynnig gwasanaeth ffôn yn y Gymraeg.
Fis Ebrill y llynedd, cynigiodd y Cyngor ymateb cychwynnol i ymchwiliad y Comisiynydd, oedd yn ei dro wedi codi rhagor o bryderon am gydymffurfio.
Roedd hyn yn ymwneud â hyrwyddo gwasanaethau, asesu sgiliau iaith staff, cynnig cyfleoedd hyfforddi, ac asesu anghenion ieithyddol swyddi.
Fe achosodd hyn i’r ymchwiliad gael ei ehangu i edrych ar nifer o safonau gweithredu ychwanegol.
Fis Medi y llynedd, penderfynodd y Comisiynydd fod Blaenau Gwent wedi methu â chydymffurfio â’r Safonau.
Ers hynny, mae Blaenau Gwent wedi datblygu cynllun gweithredu i wella’r Gymraeg o fewn yr awdurdod, gafodd ei gymeradwyo gan y Comisiynydd fis Mawrth diwethaf.
Mae disgwyl i’r polisi drafft gael ei gytuno gan Gabinet Blaenau Gwent yn ystod cyfarfod fis nesaf, gydag unrhyw sylwadau ac awgrymiadau gan y pwyllgor craffu’n cael eu hychwanegu i’r adroddiad terfynol.