Bydd perchnogion ail gartrefi a thai gwyliau yn Sir Ddinbych yn talu premiwm treth cyngor o 100% y flwyddyn nesaf, a 150% o fis Ebrill 2025.

Bdd yr arian sy’n cael ei godi drwy’r cynnydd yn cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â digartrefedd yn y sir.

Fe wnaeth Cyngor llawn Sir Ddinbych gefnogi’r cynnydd gafodd ei gynnig gan Gabinet y Cyngor fis Gorffennaf.

Bydd perchnogion tai gwag hirdymor yn talu 150% yn uwch na’r dreth arferol o Ebrill 1 2024, a 200% yn fwy o 2025.

Ar hyn o bryd, mae perchnogion ail gartrefi a thai gwag y sir yn talu premiwm o 50%.

Ers yn gynharach eleni, mae Llywodraeth Cymru’n caniatáu i gynghorau godi 300% o bremiwm arnyn nhw.

Dilysrwydd yr ymgynghoriad

Roedd rhywfaint o wrthwynebiad i’r cynnydd, gyda’r Cynghorydd Bobby Feeley yn cwestiynu dilysrwydd yr ymgynghoriad.

“Cafodd gwefan y Cyngor ei gweld 2,132 o weithiau gyda 898 o ymweliadau i’r arolwg ei hun, ac allan o’r rheiny, 175 wnaeth ei gwblhau,” meddai.

“Roedd 71 ohonyn nhw gan berchnogion tai gwag hirdymor neu gartrefi gwyliau, ac 17 ohonyn nhw’n byw yn Sir Ddinbych.

“Roedd 89 yn gwrthwynebu’r dreth newydd, gyda 87 o blaid.

“Beth dw i’n ei gwestiynu yw fod hyn gyn lleied o bobol allan o’r 96,000 o drigolion sydd gennym ni yn Sir Ddinbych, felly mae hi’n anodd derbyn canlyniad yr adroddiad fod trigolion Sir Ddinbych yn meddwl bod angen cynyddu’r dreth gyngor gan 150%.

“Byddwn i’n dweud nad oes gan y mwyafrif lawer o ddiddordeb.”

Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis, yr aelod dros Gyllid, fod yr ymgynghoriad yn ddilys.

“Byddai hi’n wych pe bai pawb yn y sir yn ymateb i bob arolwg ac ymgynghoriad,” meddai.

“Yn anffodus, dydy hynny ddim yn digwydd.

“Dw i’n fodlon bod methodoleg tu ôl i nifer yr ymatebion ac ati.

“Mae’n rywbeth arferol iawn, ac mae’n digwydd gyda bron iawn pob ymgynghoriad rydyn ni’n ei wneud.”

Clustnodi’r arian?

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ei fod eisiau i’r arian sy’n cael ei godi gan y cynnydd mewn trethi gael ei glustnodi.

“Beth dw i’n cael trafferth efo ydy, os ydyn ni am godi’r dreth, lle mae’r arian yn cael ei wario?

“Dyna’r prif beth i fi.

“Os ydyn ni o ddifrif am gael pobol i dai fforddiadwy, dylai gael ei glustnodi ar gyfer y pwrpas hwnnw.”

Ond dywedodd y swyddog Steve Gadd na all y Cyngor ddweud beth all cynghorau’r dyfodol ei wneud ag arian.

500 o dai gwag

Mae gan Gyngor Sir Ddinbych niferoedd gweddol isel o ail gartrefi o gymharu ag ardaloedd eraill fel Gwynedd a Môn.

Ond yn ôl adroddiad yn ddiweddar, mae yna 493 o eiddo wedi bod yn wag ers pum mlynedd neu fwy.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Young nad ydy’r nifer o dai gwag yn y sir yn ddigon da.

“Ddylen ni ddim cael y mathau hyn o ffigurau pan rydyn ni’n gwybod am deuluoedd yn byw gyda’i gilydd,” meddai.

“Bob wythnos mae gen i deuluoedd sy’n aros am dai, a dydyn nhw ddim yn deall pam bod rhestr aros.

“Maen nhw’n rhannu gwelyau.

“Maen nhw’n byw mewn un ystafell – 500 tŷ gwag, dydy o ddim digon da.”

Ond dywedodd y Cynghorydd Ted Mendies ei fod yn gwybod am gyplau sy’n ymweld â’u hail gartrefi yn Sir Ddinbych, yn gwario arian mewn busnesau lleol ac yn helpu i hybu’r economi.

Fodd bynnag, atebodd y Cynghorydd Merfyn Parry drwy ddweud ei fod wedi gweld teulu’n colli eu cartref yn y pentref yn ddiweddar tra bod chwe thŷ gwag ben draw’r stryd.

Dywedodd Jason McLellan, arweinydd y Cyngor, fod y Cyngor yn gorfod gweithio’n galed i sicrhau nad oes yna neb heb dŷ, gan ddweud bod pobol yn gorfod symud i ffwrdd a phlant yn gorfod symud ysgolion.

“Rydyn ni’n mynd i’r afael â rhywbeth sy’n gwyro’r farchnad,” meddai.

“Mae’n gwyro’r farchnad yn erbyn pobol sy’n trio prynu tai, ac mae’n gwyro’r farchnad o ran pobol yn trio rhentu tai.”

Fe wnaeth y cynghorwyr bleidleisio o blaid y cynnydd o 35 pleidlais i dri, a chafodd diwygiad ei ychwanegu yn cynnig bod y Cyngor yn ceisio gwario’r arian i fynd i’r afael â digartrefedd.