Mae Prifysgol Bangor wedi cael ei henwi’n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru yng nghanllaw prifysgolion cyntaf y Daily Mail.
Yn y darn, mae Ysgol Feddygol newydd Bangor yn cael ei chrybwyll fel “un o’r datblygiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes y brifysgol”.
Yn ogystal â chael ei gosod ymhlith y 50 prifysgol orau drwy wledydd Prydain, mae Prifysgol Bangor wedi codi 28 lle i safle rhif 54 yn y Guardian University Guide 2024.
Wrth ysgrifennu yng Nghanllaw Prifysgolion y Daily Mail, dywed golygydd yr adran fod hon yn “flwyddyn arwyddocaol” yn hanes y brifysgol.
“Bydd agor yr ysgol feddygol newydd yn ddatblygiad chwyldroadol, gyda’r myfyrwyr meddygaeth cyntaf yn cael eu derbyn fis Medi nesaf,” meddai Alastair McCall.
“Mae’r fenter yn nodweddiadol o brifysgol sydd a’i gwreiddiau’n ddwfn yn ei chymuned, gan mai pennaf orchwyl yr Ysgol Feddygol fydd mynd i’r afael â’r prinder difrifol o feddygon teulu yng ngogledd Cymru.
“Mae sawl cwrs arall yn y sefydliad hefyd yn cyfrannu at anghenion y rhanbarth, gyda gwyddorau’r môr a chadwraeth yn feysydd o bwys byd-eang ac ymysg arbenigeddau Prifysgol Bangor.
“Mae bod yn 15fed trwy’r Deyrnas Unedig am ei llwyddiant wrth ddenu incwm ymchwil yn tystio i ansawdd a pherthnasedd gwaith ymchwil y brifysgol.
“Mae safle o fewn y 50 uchaf a bod yn drydydd ymhlith prifysgolion Cymru, ynghyd â phwysigrwydd strategol yr ysgol feddygol newydd yn gwneud Prifysgol Bangor yn enillydd clir yng Ngwobrau Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru’r Daily Mail.”
‘Adlewyrchu ein huchelgais’
Wrth ymateb i’r newyddion, dywed yr Athro Edmund Burke, Is-ganghellor Prifysgol Bangor, fod ennill y teitl i’w groesawu.
“Mae’r canlyniadau’n adlewyrchu ein huchelgais i ddarparu addysg o safon sy’n arwain y byd, wedi’i hysbrydoli gan ymchwil i’n myfyrwyr, ac i’w harfogi â’r profiadau angenrheidiol i raddedigion fel y gallant wneud cyfraniad gwerthfawr yn y gyrfaoedd y dewisant eu dilyn,” meddai.