Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru o “oedi rhag cymryd camau mawr, trawsnewidiol i fynd i’r afael â llifogydd”.

Cafodd sylwadau llefarydd Newid Hinsawdd y blaid eu gwneud yn ystod dadl yn y Senedd am adroddiad ynglŷn â’r ymateb i lifogydd drwg yng Nghymru yn 2020-21 ddoe (Medi 12).

Cyhoeddwyd adolygiad annibynnol o adroddiadau Adran 19 llywodraeth leol a Cyfoeth Naturiol Cymru am lifogydd eithafol yn ystod gaeaf 2020-21 ddiwedd fis Awst.

Mae Adran 19 o’r Ddeddf Rheoli Dŵr a Llifogydd yn golygu bod rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru gynnal adolygiadau yn dilyn llifogydd eithafol a chyhoeddi’r canlyniadau.

Yn ôl Janet Finch-Saunders, mae adroddiadau Adran 19 yn cymryd cyfnod “annerbyniol o hir” i gael eu cwblhau.

Pwrpas yr adroddiad oedd helpu Llywodraeth Cymru i ddeall yr ymateb i lifogydd, a gweithredu yn erbyn yr argyfwng hinsawdd, meddai Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru.

Mae’r adroddiad gan yr Athro Elwen Evans ynglŷn ag adroddiadau Adran 19 yn cynnwys tri phrif argymhelliad:

  • Cynnal adolygiad ehangach i ddeddfwriaeth risg llifogydd yng Nghymru.
  • Cymryd agwedd Cymru gyfan tuag at adroddiadau Adran 19 Llywodraeth Leol.
  • Cydweithio ledled Cymru rhwng awdurdodau rheoli risg, a phenodi rhywun i arwain y gwaith o adolygu, gwneud cynnydd a rhannu problemau cyffredin.

Cafodd sgôp yr adroddiad ei osod gan y termau gafodd eu sefydlu gan Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru dan y Cytundeb Cydweithio.

‘Annerbyniol o hir’

Wrth siarad am yr adroddiad yn y Senedd, dywedodd Janet Finch-Saunders, ei bod hi’n dair blynedd ers iddi ddweud bod adroddiadau Adran 19 yn cymryd “cyfnod annerbyniol o hir” i gael eu cwblhau.

“Mae’r adroddiad gafodd ei baratoi ar gyfer Llafur a Phlaid Cymru yn cadarnhau’r hyn roeddwn i’n ei ddweud flynyddoedd yn ôl,” meddai.

“Mae’n gwbl warthus bod 43 adroddiad Adran 19 yn barod ond ddim am gael eu cyhoeddi, bod wyth adroddiad dal i aros i gael eu cymeradwyo, a bod gwaith ar y gweill ar 34 adroddiad flynyddoedd wedi’r llifogydd.

“Yn 2021, fe wnes i gynnig Bil Llifogydd (Cymru). Yn hon, fe wnes i amlinellu’r sail gyfreithiol ar gyfer sefydlu Asiantaeth Lifogydd Genedlaethol i Gymru, corff unigol fyddai’n mynd i’r afael â llifogydd, a gosod cyfyngiadau amser statudol ar gyhoeddi adroddiadau Adran 19.

“Mae’r adroddiad yn cefnogi’r gweithredoedd dw i wedi bod yn galw amdanyn nhw, ond mae Llafur a Phlaid Cymru’n oedi rhag cymryd camau mawr, trawsnewidiol i fynd i’r afael â llifogydd yng Nghymru.

“Yn wir, maen nhw’n aros am fwy o adroddiadau.”

‘Camau ymarferol’

Wrth ymateb yn y Senedd, dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, nad ydy hi am sefydlu asiantaeth genedlaethol i edrych ar lifogydd.

“Dw i’n hollol bendant na fyddai pobol sydd wedi dioddef llifogydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf – na chyn hynny – yn cael cysur o’r syniad bod yna asiantaeth arall yn cael ei sefydlu i ymateb i hynny.

“Yn hytrach, rydyn ni wedi gwneud nifer o bethau ymarferol yn yr amser byr ers y llifogydd, a dw i wrth fy modd efo’r syniad eich bod chi’n meddwl bod oedi wedi bod gyda’r adroddiad pan mae wedi bod ar y gweill ers dwy flynedd.

“Sut ar wyneb y ddaear ydych chi’n meddwl bod y math hwn o waith manwl yn gallu cael ei gwblhau’n gynt, dw i ddim yn gwybod, ac os ydych chi eisiau i fi roi rhestr o’r pethau mae eich Llywodraeth eich hun [yn San Steffan] wedi cymryd lot hirach…”

Torrodd aelodau ar draws Julie James bryd hynny, ac aeth yn ei blaen i ofyn: “Ydych chi eisiau clywed be dw i’n ddweud wrthoch chi neu ddim?”