Mae toriadau cyflog yn golygu bod myfyrwyr meddygol yn penderfynu peidio gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn ôl Cymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA) Cymru.
Mae astudiaeth newydd sy’n edrych ar gynlluniau gyrfaol myfyrwyr meddygol yn dangos bod un ym mhob tri yn y Deyrnas Unedig yn bwriadu gadael y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o fewn dwy flynedd ar ôl graddio.
Mae’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, amodau gwaith a thâl yn ffactorau wrth i fyfyrwyr wneud penderfyniadau, yn ôl yr ymchwil gan BMJ Open.
Dim ond tua 17% oedd yn fodlon neu’n fodlon iawn â’r syniad cyflawn o weithio yn y Gwasanaeth Iechyd, medd yr adroddiad ‘Career intentions of medical students in the UK: a national, cross-sectional study’.
Fodd bynnag, roedd y canlyniadau’n dangos bod tua 84% ohonyn nhw’n bwriadu cwblhau’r ddwy flynedd o raglen sylfaen wedi iddyn nhw raddio.
Mae’r dadansoddiad yn dangos bod gostyngiad “sylweddol” ar ôl y ddwy flynedd hynny yn nifer y myfyrwyr sy’n bwriadu mynd ymlaen i arbenigo mewn gwahanol feysydd o fewn meddygaeth.
‘Cyfle olaf’
Wrth ymateb i’r astudiaeth, dywed cyd-gadeiryddion BMA Cymru fod y darganfyddiadau’n dystiolaeth bellach o “effaith niweidiol” toriadau yng nghyflogau meddygon.
“Rydyn ni nawr mewn sefyllfa lle mae myfyrwyr meddygol yn bwriadu gadael y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ddwy flynedd mewn i’w hyfforddiant,” meddai Dr Oba Babs-Osibodu a Dr Peter Fahey.
“Mae myfyrwyr meddygon gyda dyledion myfyrwyr a chostau byw cynyddol nawr yn cymryd cyfleoedd gyda gwell tâl ac amodau tu allan i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol tra bod un ymhob chwech claf yng Nghymru’n aros am driniaeth.
“Rydyn ni’n annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’u pŵer i newid pethau ac adfer cyflog doctoriaid.
“Wrth i ni fwrw ymlaen gyda phleidlais ymysg aelodau ar weithredu diwydiannol, rydyn ni dal yn barod i drafod gyda Llywodraeth Cymru pe bai cynnig addas yn cael ei gwneud.
“Rhaid i adfer cyflogau meddygon i’r lefelau oedden nhw yn 2008 a’u talu nhw’n iawn am y gwaith maen nhw’n ei wneud i achub bywydau fod yn flaenoriaeth i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.
“Dyma gyfle olaf Llywodraeth Cymru i ddadwneud y tueddiad pryderus hwn cyn iddi fod rhy hwyr.”
‘Parhau i bwyso ar San Steffan’
Fe wnaeth meddygon Cymru wrthod cynnig Llywodraeth Cymru o godiad cyflog o 5% fis diwethaf.
Ar y pryd, dywedodd BMA Cymru mai hwnnw oedd y “cynnig gwaethaf yn y Deyrnas Unedig”.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r codiad cyflog y gallen nhw ei gynnig wedi ei gyfyngu gan yr arian maen nhw’n ei dderbyn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i drosglwyddo’r cyllid sydd ei angen ar gyfer codiadau cyflog llawn a theg i weithwyr y sector cyhoeddus,” meddai llefarydd.
‘Deall cryfder y teimlad’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n “deall cryfder y teimlad mewn ymateb i’r cynnig cyflog o 5% i feddygon”.
“Er y byddem yn dymuno mynd i’r afael ag uchelgeisiau adfer cyflogau ein staff meddygol hanfodol, mae ein cynnig ar gyfyngiadau’r cyllid sydd ar gael i ni ac mae’n adlewyrchu’r sefyllfa y daethpwyd iddo gyda’r undebau iechyd eraill ar gyfer eleni.
“Heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, nid ydym mewn sefyllfa i gynnig mwy ar hyn o bryd.
“Byddwn yn parhau i’w pwyso i drosglwyddo’r cyllid angenrheidiol ar gyfer codiadau cyflog llawn a theg i weithwyr y sector cyhoeddus.
“Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda Chymdeithas Feddygol Prydain ac rydym ar gael ar gyfer trafodaethau pellach ar unrhyw adeg.”