Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno’u cynnig gerbron y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw (dydd Mercher, Medi 13) wrth i Gymru baratoi ar gyfer cyflwyno terfynau cyflymder o 20m.y.a. ddydd Sul (Medi 17).

Maen nhw’n galw am ddiddymu’r Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20m.y.a.) (Cymru) 2022, gan ddweud y byddai’n costio o leiaf £33m i’w gyflwyno a bod Llywodraeth Lafur Cymru’n dweud eu hunain y byddai’n costio hyd at £9bn i economi Cymru.

Maen nhw hefyd wedi codi pryderon am effaith y terfyn ar y gwasanaethau brys a’u gallu i ymateb yn ddigon cyflym i argyfyngau ac achosion brys, ac y gallai hynny beryglu bywydau.

Fe fydd yn cael effaith ar fusnesau hefyd, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig, yn ogystal â chreu dryswch cyffredinol a chynyddu allyriadau.

Mae eu cynnig yn “galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu’r Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20m.y.a.) (Cymru) 2022, sydd am ddod i rym ar Fedi 17, 2023”.

‘Polisi afresymol a pheryglus’

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r polisi’n “afresymol a pheryglus”.

“Bydd cyfyngiadau cyflymder cyffredinol Llafur o 20m.y.a. yn cael effaith andwyol ar ein heconomi, ein gwasanaethau brys a bywoliaethau pobol yng Nghymru,” meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y blaid.

“Dyna pam, yn y Senedd yr wythnos hon, fod y Ceidwadwyr Cymreig yn gorfodi pleidlais derfynol ar y mater, gan ddweud wrth y Llywodraeth Lafur am beidio â bwrw ymlaen â’r polisi afresymol a pheryglus hwn,” meddai.

“Gyda memorandwm o eglurhad y Llywodraeth Lafur eu hunain i’w mesur 20m.y.a. yn datgan y bydd y terfyn cyflymder o 20m.y.a. yn costio hyd at £9bn anferthol i’r economi, mae’n bryd i Lafur ganolbwyntio ar flaenoriaethau’r bobol maen nhw’n parhau i’w hesgeuluso.

“Rydym yn credu y byddai’n well pe bai’r arian hwn yn cael ei wario ar fwy o feddygon, mwy o athrawon a mwy o nyrsys.

“Mae’n bryd i Lafur roi eu hideoleg eithafol a dryswch torfol i’r naill ochr, a dileu terfynau cyflymder cyffredinol gwallgof.”

 

“Bydd popeth yn gwella”: Neges Sbaen i Gymru cyn cyflwyno terfyn cyflymder o 20m.y.a.

Daw’r neges gan Bennaeth Arsyllfa Diogelwch y Ffyrdd Genedlaethol yn Sbaen oedd y tu ôl i weld Sbaen yn symud i derfyn cyflymder o 30km/h yn 2019

Fandaleiddio arwyddion 20m.y.a. yn “symptom amlwg” o anfodlonrwydd

Catrin Lewis

Mae Sir y Fflint, Bwcle a Chonwy ymysg yr ardaloedd lle mae fandaliaid wedi ymyrryd gydag arwyddion 20mya

Byw a ffynnu efo 20m.y.a. yng Nghymru

Stephen Cunnah

Ydyn ni eisiau strydoedd mwy diogel ar gyfer ein plant neu beidio?

Data yn dangos manteision terfyn cyflymder o 20m.y.a.

Daw hyn wrth i Gymru baratoi i gyflwyno’r terfyn cyflymder awtomatig