Bydd Plaid y Bobol yn Sbaen yn trefnu protest yn y brifddinas Madrid yn erbyn amnest ar gyfer ymgyrchwyr tros annibyniaeth i Gatalwnia.

Yn ôl Cuca Gamarra, ysgrifennydd cyffredinol y blaid, mae disgwyl i’r brotest gael ei chynnal ar benwythnos Medi 23-24, sef y penwythnos olaf cyn bod disgwyl i’w harweinydd Alberto Núñez Feijóo ddod yn Brif Weinidog Sbaen.

Bwriad y brotest yw dangos eu bod nhw’n “gwrthod unrhyw offeryn sy’n gallu cael ei gynnig y tu allan i’r gyfraith”, gan gynnwys amnest o’r math yma “nad oes lle iddo o fewn fframwaith y cyfansoddiad”.

Fe fu’r amnest yn un o’r pynciau llosg mwyaf yng ngwleidyddiaeth Sbaen ers i ganlyniadau’r etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf arwain at senedd grog, gyda’r pleidiau sydd o blaid annibyniaeth yn manteisio ar y mater i fargeinio â’r pleidiau sy’n dibynnu ar eu cefnogaeth nhw ac i rybuddio y gallen nhw gefnogi’r Prif Weinidog presennol Pedro Sánchez unwaith eto.

Yn ôl y cyn-arweinydd Carles Puigdemont o blaid Junts per Catalunya, mae’r gyfraith sy’n ymwneud ag amnest yn rhagofyniad ar gyfer unrhyw drafodaethau allai arwain at roi cefnogaeth ei blaid i prif weinidog Sosialaidd.

Mae ei blaid yn barod i gefnogi Pedro Sánchez, meddai, ond maen nhw hefyd yn barod i ystyried cefnogi ymgeisydd arall pe na bai modd dod i “gytundeb hanesyddol”.

Bydd Plaid y Bobol a’r pleidiau asgell dde eithafol Vox a Ciudadanos hefyd yn cefnogi gorymdaith gan gefnogwyr Sbaen yn Barcelona ar Hydref 8.