Mae gweinyddwyr wedi cadarnhau y bydd perchennog Poundland yn prynu pump o siopau Wilko yng Nghymru.
Mae’r siopau fydd yn cael eu prynu yn Aberdâr, Cas-gwent, Doc Penfro, Pont-y-pŵl a Rhydaman.
Dywed Barry Williams, rheolwr a chyfarwyddwr Poundland, ei fod e am geisio sicrhau mai cyn-weithwyr Wilko fydd yn cael y dewis cyntaf i weithio yn y siopau newydd.
“Mae gweithwyr Wilko wedi bod yn werthfawr iawn i gymunedau ledled y Deyrnas Unedig, ac rydym yn edrych ymlaen at gynnig cyfleoedd er mwyn iddyn nhw ymuno â’n teulu,” meddai.
Roedd gan Wilko 28 o siopau ledled Cymru allan o gyfanswm o 400 ledled y Deyrnas Unedig.
Mae cau’r siopau’n golygu bod 437 o swyddi yn y fantol yng Nghymru.
Tra bod y siopau ym Mae Caerdydd, Llandudno a Phort Talbot wedi cau eu drysau eisoes, bydd eraill yn aros ar agor tan ddydd Iau, Medi 23, gan gynnwys siopau Pwllheli a Chwmbrân.
Mae dyddiadau cau gweddill siopau Wilko Cymru fel a ganlyn:
Dydd Iau, Medi 14
Treforys
Heol y Frenhines, Caerdydd
Y Rhyl
Dydd Sul, Medi 17
Casnewydd
Coed-duon
Pont-y-pŵl
Dydd Mawrth, Medi 19
Aberdâr
Wrecsam
Maesteg
Cas-gwent
Dydd Iau, Medi 21
Cwmbrân
Cyfarthfa
Parc Trostre, Llanelli
Pen-y-bont ar Ogwr
Caergybi
Pwllheli
Bydd cwmni Poundland yn cymryd drosodd cyfanswm o 71 o siopau Wilko ledled y Deyrnas Unedig.
Mae perchennog y siopau bargen B&M hefyd wedi gwneud cynnig i brynu 51 o safleoedd eraill y cwmni yn y Deyrnas Unedig.