Mae pryder am swyddi Wilko yng Nghymru wedi iddi ddod i’r amlwg y bydd eu holl siopau’n cau.
Bydd pob un o 400 o siopau Wilko ledled gwledydd Prydain yn cau erbyn mis Hydref, yn ôl undeb GMB heddiw (dydd Llun, Medi 11).
Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd gweinyddwr y byddai chwech o 28 o’r siopau yng Nghymru yn cau’r wythnos hon.
Ond erbyn heddiw, dywedodd yr undeb GMB bod yr holl siopau am gau, sy’n golygu bod tua 950 o swyddi yn y fantol dros Gymru.
Roedd perchennog HMV wedi bwriadu cadw hyd at 300 o siopau dros wledydd Prydain ar agor, ond maen nhw wedi methu dod i gytundeb.
‘Mewn limbo’
Gallai rhai o siopau Wilko gael eu gwerthu i gwmnïau eraill fel Poundland neu The Range, ac mae Cynghorydd yng Nghaergybi yn gobeithio am y gorau i’r siop a’r gweithwyr yno.
“Dydw i ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd i’r un yng Nghaergybi, dydy’r staff yno yn gwybod beth fydd yn digwydd,” meddai Pip O’Neill, sy’n cynrychioli Llafur ar Gyngor Ynys Môn, wrth golwg360.
“Mae fy nghalon yn mynd allan atyn nhw oherwydd maen nhw’n byw mewn limbo ar hyn o bryd.
“Efallai y bydd rhywun yn dod i mewn ar yr unfed awr ar ddeg a phrynu’r fasnachfraint gyfan a’i chadw’n fyw.
“Ond dydy hi ddim yn edrych yn dda ar hyn o bryd, mae’n drueni mawr mewn gwirionedd.”
Er hynny, dywedodd ei fod yn deall bod angen i fusnes fod yn hyfyw a’i fod yn teimlo bod y cwmni wedi gofalu am eu staff gymaint ag y gallan nhw.
Y gobaith yw bydd y Porthladd Rhydd yn dod a mwy o swyddi i’r ardal, ychwanegodd Pip O’Neill.
Mae Porthladd Rhydd Ynys Môn wedi ei ddewis fel un o dri phorthladd rhydd cyntaf Cymru.
“Gyda [ffatri] The Three Sisters yn cau, a hwnnw’n fusnes mawr yn yr ynys, mae’n bryder ond diolch byth mae gennym ragolygon yn dod i mewn gyda’r swyddi’r Porthladd Rhydd a gobeithio y bydd llawer mwy o swyddi’n cael eu creu.
“I’r bobol bydd yn cael eu hunain yn ddi-waith oedd yn gweithio yn Wilko, gobeithio y byddan nhw’n dod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth mewn mannau eraill.”
‘Sefyllfa andros o anodd’
Bydd siopau Bae Caerdydd, Llandudno a Phort Talbot yn cau fory, a siopau Treforys, Heol y Frenhines Caerdydd a’r Rhyl yn cau ddydd Iau.
Fe fydd y ganolfan ddosbarthu ym Magwyr yn cau’r wythnos hon hefyd.
Yn ôl Nia Wyn Jeffreys, Cynghorydd Dwyrain Porthmadog lle mae gan Wilko siop, mae angen i’r cwmni gyfathrebu gyda’u staff.
“Dydy hi ond yn deg bod nhw’n dweud wrth eu gweithwyr beth sy’n digwydd oherwydd mae hi’n sefyllfa andros o anodd i staff,” meddai wrth golwg360.
“Rydym mewn argyfwng costau byw, mae plant newydd fynd nôl i ysgol.
“Bydd plant yn dechrau meddwl rŵan am gynilo at y Nadolig a ballu felly maen nhw’n angen gwybod beth sy’n digwydd efo’u swyddi.”
Mae Prif Weinidog Cymru wedi gaddo y bydd Llywodraeth Cymru’n cydweithio gydag eraill i geisio dod o hyd i gyfleoedd swyddi i’r staff.
Y disgwyl yw y bydd manylion am y colledion swyddi a siopau’n cael eu cyhoeddi yn y dyddiau nesaf.