Rhybuddia un o bwyllgorau’r Senedd fod llwyddiant economaidd Cymru mewn perygl os na fydd llywodraethau’n cydweithio ar drefniadau ariannu ar ôl Brexit.
Dylai llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru gydweithio’n fwy effeithiol ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r Gronfa Ffyniant Bro, medd Pwyllgor Economi’r Senedd.
Mae adroddiad sydd wedi cael ei gyhoeddi gan y pwyllgor heddiw (dydd Mawrth, Medi 12) yn amlinellu problemau cychwynnol efo’r cronfeydd, ac yn argymell ffyrdd o wella sut mae’r arian yn cael ei ddyrannu.
Ynghyd â galw am fwy o gyfraniad gan Lywodraeth Cymru i’r gwaith o gynllunio a chyflwyno’r cronfeydd, maen nhw’n gofyn am sicrwydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â dyfodol y cronfeydd.
Does dim sicrwydd y byddan nhw’n parhau ar ôl 2025 ar hyn o bryd.
Mae’r adroddiad Cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cynnwys argymhellion fel:
- ystyried maint poblogaeth ardaloedd difreintiedig mewn rowndiau ariannu ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn y dyfodol
- cytuno ar gyfnodau ariannu hirach ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin
- y dylai’r ddwy lywodraeth gydweithio i sicrhau’r gyfran fwyaf posibl i Gymru o wariant ar ymchwil ac arloesi
- pe bai’r Gronfa Ffyniant Bro yn parhau ar ôl 2025, na ddylai gael ei darparu drwy geisiadau cystadleuol ac y dylid dyrannu cyllid i’r ardaloedd hynny sydd â’r angen mwyaf
- y dylai Llywodraeth Cymru gymryd mwy o ran yn y gwaith o ddatblygu a gweinyddu’r Gronfa Ffyniant Bro pe bai’n parhau y tu hwnt i 2025
- y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig nodi’n glir ei bwriad ar gyfer cyllid ar ôl 2025 cyn gynted â phosibl
‘Cydweithio’n fwy effeithiol’
Dywed Paul Davies, Aelod Ceidwadol o’r Seneddol a chadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, fod nifer o broblemau wedi codi ers cyflwyno’r cronfeydd.
“Mae ariannu datblygiad economaidd yng Nghymru yn gyfrifoldeb a rennir, mae’n flaenoriaeth i bawb,” meddai.
“Er mwyn i gyllid datblygu weithio i bobl Cymru, mae’n rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru gydweithio’n fwy effeithiol.
“Rhaid i’r broses hon hefyd barhau i gynnwys cynghorau lleol sydd mewn sefyllfa dda i ddeall eu cymunedau, ac sydd wedi gweithio’n galed i gyflwyno ceisiadau i’r Gronfa Ffyniant Bro, ac i roi’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar waith yn eu hardaloedd lleol.
“Ond yn hollbwysig, rhaid i bob sefydliad gael cyfle teg i gael budd o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
“Rydym wedi clywed am yr heriau a wynebir gan rai cyrff yn y sector gwirfoddol, prifysgolion a cholegau o ran cael mynediad at gyllid, ac am bryderon bod rhai awdurdodau lleol yn blaenoriaethu eu prosiectau eu hunain.
“Mae angen i sefydliadau hefyd wybod y bydd y cymorth yn parhau ac mae angen sicrwydd ar bobl. Rhaid inni gael sicrwydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd cyllid yn parhau y tu hwnt i 2025, pan fydd y cylch ariannu presennol hwn yn dod i ben.
“Rydym ar gam cynnar yn y broses, ond mae llwyddiant economaidd Cymru mewn perygl os na fydd llywodraethau’n cydweithio ar drefniadau ariannu yn y cyfnod ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.
“Dyna pam rydym heddiw yn gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i werthuso’r hyn sy’n digwydd a gwella’r system ar gyfer y blynyddoedd i ddod.”