Mae prif ganfyddiadau adroddiad newydd gafodd ei lunio mewn ardaloedd sy’n treialu’r cyflymder 20m.y.a. diofyn newydd wedi dangos cyflymder gyrru arafach, lefelau uwch o gerdded a chyn lleied â phosibl o effaith ar amseroedd teithio, ymhlith eraill.

Mae’r adroddiad monitro interim yn defnyddio data gafodd ei gasglu o’r wyth ardal gafodd eu dewis ar gyfer cam cyntaf rhaglen 20m.y.a. Llywodraeth Cymru, a chaiff ei gyhoeddi heddiw (dydd Gwener, Mawrth 17), chwe mis yn union cyn i’r terfyn diofyn ddod i rym ledled Cymru.

Ar Fedi 17, bydd Llywodraeth Cymru’n cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20m.y.a. ar ffyrdd cyfyngedig ledled Cymru.

Mae ffyrdd cyfyngedig yn cynnwys ffyrdd lle mae goleuadau stryd wedi’u gosod dim mwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd, ac maen nhw fel arfer wedi’u lleoli mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig lle mae lefel uchel o gerddwyr.

Bydd hyn yn golygu mai Cymru fydd cenedl gyntaf y Deyrnas Unedig i gyflwyno terfyn cyflymder is gan ddilyn ôl troed gwledydd Ewrop fel Sbaen lle mae 30km/h (18.5m.y.a.) eisoes ar waith.

Tystiolaeth

Mae tystiolaeth yn dangos y bydd lleihau’r terfyn cyflymder diofyn o 30m.y.a. i 20m.y.a. yn arwain at sawl mantais, gan gynnwys lleihau nifer y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a’r anafiadau difrifol, mwy o bobol yn cerdded a beicio, ac iechyd a llesiant gwell.

Yn ôl yr adroddiad, mae gyrwyr ar gyfartaledd eisoes yn gyrru’n arafach yn ardaloedd y cam cyntaf, gyda gostyngiad cyfartalog o 3m.y.a. wedi’i gofnodi ar draws yr wyth cymuned.

Roedd newid sylweddol mewn ymddygiad yn Sant-y-brid a Llandudoch, dwy o’r ardaloedd gafodd eu dewis ar gyfer y cam cyntaf, lle mae nifer y bobol sy’n gyrru ar gyflymder o 24m.y.a. neu is wedi cynyddu o 23% i 45% ac o 54% i 84% yn y drefn honno.

Mae canfyddiadau o ardaloedd eraill yn y Deyrnas Unedig lle cafodd terfyn o 20m.y.a. ei gyflwyno yn dangos bod hyd yn oed gostyngiadau bach mewn cyflymderau cyfartalog ar draws rhwydwaith ffyrdd lle mae pobol yn byw ac yn gweithio yn gallu arwain at ostyngiadau sylweddol mewn gwrthdrawiadau ac anafiadau difrifol, gan helpu i wneud cymunedau’n fwy diogel.

Daeth yr adroddiad i’r casgliad hefyd fod mwy o blant wedi bod yn cerdded, beicio ac yn mynd ar sgwter i’r ysgol mewn ardaloedd lle cafodd 20m.y.a. ei gyflwyno.

Gan ddefnyddio data her cerdded i’r ysgol WOW gan Living Streets, nodwyd bod ysgolion mewn ardaloedd 20m.y.a. wedi gweld mwy o gynnydd mewn teithio llesol (49% i 74%), o’i gymharu ag ysgolion yn bennaf mewn ardaloedd 30m.y.a. (49% i 67%).

‘Lleihau terfynau cyflymder yn achub bywydau’

Yn ôl Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, mae cyflwyno’r terfyn cyflymder o 20m.y.a. yn “gam beiddgar” ac mae’n “achub bywydau”.

“Mae’r data diweddaraf eisoes yn dangos y manteision y gallwn ddisgwyl eu gweld ledled Cymru diolch i’r cam beiddgar y byddwn yn ei gymryd i ostwng y terfynau cyflymder diofyn yn ddiweddarach eleni,” meddai.

“Gall penderfyniadau fel hyn fod yn amhoblogaidd ac rydym yn gwybod nad yw newid byth yn hawdd, fodd bynnag, mae tystiolaeth o bob cwr o’r byd yn glir – mae lleihau terfynau cyflymder yn achub bywydau.

“Rydym wedi gwneud cynnydd o ran lleihau marwolaethau ac anafiadau difrifol ar ein ffyrdd dros y 21 mlynedd ers datganoli, ond mae mwy i’w wneud o hyd i sicrhau bod y cymunedau yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddynt yn fwy diogel.

“Rhaid mai’r ffordd ymlaen yw gostwng y terfyn cyflymder i 20mya ar ein ffyrdd preswyl a’r ffyrdd prysur eraill yn ein trefi lle y mae pobl yn cerdded.”

‘Strydoedd a phalmentydd diogel a hygyrch i bawb’

“Bydd cyflwyno 20mya fel y cyflymder diofyn ar ein strydoedd yn gwella’r mannau hynny lle rydyn ni’n byw, gweithio ac yn mynd i’r ysgol – a bydd hefyd yn achub bywydau,” meddai Joshua James, Rheolwr Materion Cyhoeddus Living Streets Cymru.

“Rydym yn falch o gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein strydoedd a’n palmentydd yn ddiogel ac yn hygyrch i bawb yn ein cymunedau, fel bod mwy o bobol yn teimlo eu bod yn cael eu hannog i gerdded neu feicio.”

Mae ymgyrch gyfathrebu genedlaethol i helpu cymunedau i baratoi ar gyfer y newid i 20mya wedi cael ei lansio heddiw (dydd Gwener, Mawrth 17).