Wrth i Gymru baratoi at y polisi 20m.y.a. fydd yn dod i rym ar Fedi 17, mae nifer o arwyddion ffordd ledled y wlad wedi cael eu fandaleiddio.
Ar hyn o bryd, mae sticeri â’r rhif tri wedi eu gosod dros ben y rhif dau ar arwyddion 20m.y.a. er mwy hwyluso’r broses o gyflwyno’r terfyn cyflymder newydd pan ddaw.
Fodd bynnag, mae rhai arwyddion wedi eu fandaleiddio gyda’r rhif tri yn cael ei symud a’i osod ar ei ochr dros y rhif sero er mwyn creu siâp anweddus.
Mae Sir y Fflint, Bwcle a Chonwy ymysg y lleoliadau lle mae fandaliaid wedi bod yn ymyrryd â’r arwyddion.
Pan ddaw’r polisi i rym, bydd y rhan fwyaf o ffyrdd 30m.y.a. yng Nghymru yn cael eu haddasu i fod â therfyn o 20m.y.a., gyda Llywodraeth Cymru’n dadlau bydd hyn yn achub bywydau a’r amgylchedd.
Ond ymateb cymysg sydd wedi bod i’r terfyn newydd ar y cyfan.
‘Lefelau dwys o anfodlonrwydd’
Mae Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud bod y fandaleiddio’n anghywir, ond ei fod yn adlewyrchiad o farn y cyhoedd ar y cyfan.
“Ni ddylid esgusodi hyn, ond mae’r difwyniadau hyn ar ffurf ULEZ yn symptom amlwg o’r lefelau dwys o anfodlonrwydd yr ydym yn eu gweld ledled Cymru gydag agwedd tôn-fyddar Llafur tuag at gyflwyno’r parthau 20mya cyffredinol,” meddai.
“Yn ôl eu haddefiad eu hunain, bydd y polisi hwn yn costio £4.5bn i economi Cymru ar ben y prif bris o £33m.
“Mae Llafur hefyd wedi rhoi unrhyw gyfeiriad at fuddion amgylcheddol o’r neilltu, oherwydd bydd parthau 20m.y.a. cyffredinol yn debygol o niweidio ansawdd yr aer i ni.”
Rhoi diogelwch yn gyntaf
Er hynny, mae Alun Rhys Jones o’r Blaid Werdd, sy’n gynghorydd tref yn Llanfairfechan, yn credu bod y terfyn newydd yn gyfle i addysgu gyrwyr am fanteision arafu.
“Y peth mwyaf yw sicrhau diogelwch a lleihau’r siawns o gael damweiniau ac achosi niwed,” meddai wrth golwg360.
“Pan wyt ti’n edrych ar y dystiolaeth, dwyt ti ddim yn colli llawer o amser wrth fynd i lawr o 30m.y.a. i 20m.y.a.
“Mae pobol yn teimlo’n fwy diogel yn y pentref pan wyt ti’n gyrru’n arafach, ac efallai’n mynd ar eu beic neu’n cerdded mwy.”
Dywed llefarydd o Lywodraeth Cymru y bydd y polisi’n achub bywydau ac yn amddiffyn yr amgylchedd.
“Mae gostwng cyflymder nid yn unig yn lleihau gwrthdrawiadau ac yn arbed bywydau ond yn gwella ansawdd bywyd – gan wneud lle ar ein strydoedd ar gyfer teithio llesol mwy diogel, wrth helpu i leihau ein heffaith amgylcheddol,” meddai.