Mae uwch gynghorwyr wedi cefnogi ymgynghoriad cyhoeddus ar gynnydd posib yn y premiwm treth y cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag.
Mae gan un o drefi arfordirol y sir, Ceinewydd, gyfradd ail gartrefi o fwy na chwarter holl eiddo’r sir, yn ôl ffigurau’r Cyngor.
Mae gan Geredigion bremiwm o 25% ar hyn o bryd ar ail gartrefi ac eiddo gwag, tra bod gan siroedd cyfagos lefelau uwch – 100% yn Sir Benfro, 50% yn Sir Gaerfyrddin a 75% ym Mhowys.
Mae rheolau treth newydd Llywodraeth Cymru’n galluogi awdurdodau lleol i gasglu premiwm treth y cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor hyd at 300%.
Y sefyllfa yng Ngheredigion
Fe wnaeth adroddiad gerbron aelodau Cabinet Ceredigion, fu’n cyfarfod ddydd Mawrth (Medi 5), yn ystyried y dull sydd ei angen pe bai’r Cyngor yn dymuno newid lefel premiwm treth y cyngor.
Ar gyfer cyllideb 2023-24, roedd 33,856 o eiddo y byddai modd codi treth arnyn nhw yng Ngheredigion, gyda 1,697 ohonyn nhw’n ail gartrefi a 592 yn eiddo gwag, gyda’r ddau ddosbarth yn cynrychioli 6.8% o’r holl eiddo.
Roedd yr ardaloedd â’r cyfraddau uchaf o ail gartrefi yn y sir yn arfordirol ar y cyfan, a’r uchaf ohonyn nhw oedd Ceinewydd gyda chyfradd o 27.2%, ac wedyn Llangrannog (17.1%), y Borth (14.1%), Pontarfynach (11%), Penbryn (9.6%), Aberaeron (9.1%) ac Aberporth (8.4%).
Roedd cyfraddau eiddo gwag hirdymor ar eu huchaf mewn ardaloedd mwy trefol: Aberporth (2.2%), Aberystwyth (1.8%), Aberteifi a Llandysul (1.5%).
Adroddiad ac ymgynghoriad
Dywed adroddiad ar gyfer aelodau’r Cabinet fod rhaid i’r Cyngor llawn wneud unrhyw newid i lefel premiwm y dreth gyngor, a byddai angen cymeradwyaeth cyn Rhagfyr 31 er mwyn bod yn weithredol yn ystod y flwyddyn ariannol ganlynol.
“Y cynnig, felly, yw fod ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol yn cael ei lansio, fydd yn para o leiaf chwe wythnos yn ystod Medi a Hydref.
“Gall premiwm treth y cyngor fod yn bwnc emosiynol, yn ogystal â bod agweddau technegol iddo hefyd.
“Y cynnig, felly, yw sefydlu gweithgor trawsbleidiol gwleidyddol gytbwys o aelodau i ddarparu fforwm i dderbyn rhagor o bapurau ymchwil, modelu, adroddiad ar ymatebion i’r ymgynghoriad maes o law, a chefnogi trafodaethau manwl ar unrhyw newidiadau posib cyn ystyriaeth bellach gan y Cabinet ac wedyn y Cyngor llawn yn y pen draw os daw cynnig i newid lefel bresennol premiwm treth y cyngor.”
Fe wnaeth aelodau gefnogi argymhelliad tebyg i ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol, gyda’r amodau a’r gweithdrefnau fel maen nhw wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.
Daeth ymgynghoriad tebyg yn Sir Benfro i ben yn ddiweddar, ac mae disgwyl i ganlyniadau hwnnw gael eu hystyried gan uwch gynghorwyr fis nesaf.