Mae ymchwil newydd yn awgrymu bod pobol sy’n byw mewn llefydd gwledig iawn yn poeni llai am effeithiau newid hinsawdd na phobol mewn ardaloedd mwy dinesig a threfol.

Mae pobol ddinesig yn adrodd am fwy o effeithiau newid hinsawdd na phobol yng nghefn gwlad, a gall hyn fod yn ganlyniad i’r lefelau uwch o bryder ymhlith pobol ddinesig na phobol wledig.

Mae’r ymchwil wedi’i chyhoeddi gan PLOS ONE, ar sail arolwg drwy’r Deyrnas Unedig, ac mae’n cyfuno ieithyddiaeth â gwyddorau cymdeithasol ac amgylcheddol.

Rhesymau posib

Yn ôl yr Athro Thora Tenbrink o Brifysgol Bangor, fu’n arwain ar y gwaith ymchwil, mae tri rheswm posib am gasgliadau’r ymchwil.

“Mae’n bosib bod gan bobol sy’n byw mewn dinasoedd fwy o brofiad uniongyrchol o’r newid yn yr hinsawdd, o ran y gwres a gynhyrchir mewn amgylcheddau trefol, neu’r llifogydd sy’n gwaethygu wrth i’r seilwaith peirianyddol gael ei lethu gan ddŵr ffo mewn lle gyda llawer o adeiladau a heb lawer o ddraeniad naturiol,” meddai.

“Mae byw mewn lleoliadau gwledig iawn yn golygu bod pobol yn aml yn cael eu diogelu rhag effeithiau gwaethaf newid yn yr hinsawdd, gan fod dolydd, gwlypdiroedd a gorlifdiroedd yn dal i liniaru glaw trwm, ac nid yw tonnau gwres mor ddifrifol â thonnau gwres mewn lle gyda llawer o adeiladau.”

Yn ôl yr Athro Simon Willcock o Rothamsted Research a Phrifysgol Bangor, fu’n cyd-awdura adroddiad yr ymchwil, mae pobol yng nghefn gwlad yn fwy gwydn ac felly’n tan-adrodd unrhyw newidiadau yn yr hinsawdd maen nhw’n cael profiad ohonyn nhw.

“Efallai eu bod yn fwy cyfarwydd â gorfod newid yr hyn maen nhw’n ei wneud er mwyn wynebu heriau newydd, ac efallai mai dim ond un her newydd arall yw newid yn yr hinsawdd iddyn nhw,” meddai.

Rheswm posib arall yw fod poblogaethau gwledig yn dueddol o fod yn fwy ceidwadol eu hagwedd, ac y gallai hyn effeithio ar y ffordd maen nhw’n dehongli effeithiau newid hinsawdd.

Goblygiadau polisi

Yn ôl yr ymchwilwyr, gallai agweddau pobol yng nghefn gwlad arwain at oblygiadau polisi, yn enwedig o ran sut y gall newidiadau i ddefnydd tir a dulliau ffermio gwledig fod yn dyngedfennol yng nghyd-destun newid hinsawdd a mesurau lliniaru.

Mae’n bosib y bydd llunwyr polisi eisiau canolbwyntio’r ymgysylltu’n benodol ar yr ardaloedd mwyaf gwledig lle nad yw bygythiadau newid yn yr hinsawdd wedi cyrraedd ymwybyddiaeth pobol o bosib, er bod ganddyn nhw fwy o ymlyniad wrth le.