Mae cangen leol o Yes Cymru yn Sir y Fflint yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn esiampl India, a defnyddio’r enw Cymraeg ‘Cymru’ wrth gyfeirio at ein gwlad.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth India ddefnyddio’r enw ‘Bharat’ ar eu gwlad wrth wahodd pobol i uwchgynadledd y ‘Grŵp o 20’, a hynny fel rhan o ymdrechion parhaus llywodraeth y prif weinidog Narendra Modi i ddileu enwau ymerodraethol a defnyddio’u fersiynau gwreiddiol.
Caiff Droupadi Murmu ei alw’n “Arlywydd Bharat” yn y gwahoddiad wrth iddyn nhw ddefnyddio’r gair Sanskrit a Hindi.
Mae Plaid Bharatiya Janata, sef plaid y prif weinidog a’r blaid lywodraeth, yn croesawu ymdrechion eu harweinydd.
Enillodd India – neu Bharat – ei hannibyniaeth yn 1947 ac mae cenedlaetholwyr yn teimlo erbyn hyn fod arddel yr enw ‘India’ yn arwydd eu bod nhw’n falch o’r cyfnod hwnnw yn eu hanes.
Mae cenedlaetholwyr yn dweud bod arddel ‘Bharat’ hefyd yn “ergyd i’r feddylfryd ymerodraethol”.
‘Does bosib y daeth amser Cymru’
“Da iawn Bharat,” medd Yes Cymru Sir y Fflint ar eu tudalen Facebook, wrth gyfeirio at erthygl ar wefan apnews.com.
“Does bosib y daeth amser Cymru?
“Wales – sy’n hanu o’r gair Eingl-Sacsonaidd sy’n golygu ‘Tramorwyr’.
“Mae ‘Cymru’ yn deillio o’r Frythoneg, Combrogi, ‘cydwladwyr’.
“Tramorwyr yn ein gwlad ein hunain, neu’n gydwladwyr?
“Mae’n feddylfryd gafodd ei rhoi i ni gan wlad arall, [ac] mae’n bryd torri hynny.”