Portread o Tesni Peers

Mae bardd ifanc o ochrau Wrecsam yn prysur wneud enw iddi hi ei hun yn y cylchoedd llenyddol, tra hefyd yn dawnsio bale a dysgu sut i siarad ieithoedd tramor rif y gwlith.

Daeth Tesni Peers yn ail yn nwy o brif gystadlaethau’r Urdd eleni, ac mae hi newydd ennill Cadair ieuenctid eisteddfod leol Llanbedr Pont Steffan.